Ewch i’r prif gynnwys

Athroniaeth

Mynd ar drywydd ymchwil arloesol gydag arbenigwyr sy’n gweithio ar flaen y gad yn eu meysydd. Mae arbenigeddau staff yn cwmpasu’r rhan fwyaf o feysydd traddodiadol Athroniaeth, gan gynnwys dulliau dadansoddol, cyfandirol ac empirig ac ystod gyffrous o is-arbenigeddau sy’n tyfu. Mae gennym gryfderau penodol mewn moeseg, epistemoleg, athroniaeth meddwl a’r croestoriadau rhwng y rhain.

Mae ein hymchwil yn cwmpasu ystod o bynciau, gyda chrynodiadau o ragoriaeth mewn estheteg, athroniaeth ddirfodol, athroniaeth ffeministaidd, athroniaeth foesol, athroniaeth iaith, athroniaeth y meddwl a seicoleg, a rhyngweithiadau rhwng y meysydd hyn. Mae gennym gymuned ddeallusol weithredol glos, gyda’n myfyrwyr PhD wrth ei chalon.

Nodau'r rhaglen

  • Nod y rhaglen ymchwil yw cynnig gwybodaeth ac arbenigedd i fynd â chi at rôl mewn Addysg Uwch, neu gyflogaeth sy’n gofyn am sgiliau lefel uwch mewn ymchwil neu wybodaeth pwnc uwch
  • Byddwn ni’n eich cefnogi i ddatblygu eich prosiect yn ddarn o waith athronyddol o ansawdd uchel sy'n gwneud cyfraniad sylweddol, trylwyr a gwreiddiol i wybodaeth yn y ddisgyblaeth.

Nodweddion unigryw

  • Mae athroniaeth yng Nghaerdydd yn nodedig yn y ffordd y mae'n integreiddio dulliau dadansoddol, cyfandirol, ffeministaidd a gwybodus o ymdrin â'r pwnc
  • Mae ein myfyrwyr PhD yn cymryd rhan mewn seminarau ymchwil wythnosol a gweithdai hyfforddi, amrywiaeth o grwpiau darllen rheolaidd a chynhadledd flynyddol
  • Anogir myfyrwyr PhD i gyhoeddi eu gwaith a chânt gefnogaeth gref i ddatblygu gwaith i'w gyhoeddi
  • Rydyn ni’n cynnig cyfleoedd addysgu i raddedigion ar ein rhaglenni gradd israddedig ar gais, wrth i gyfleoedd o'r fath godi. Rhoddir cymorth i Diwtoriaid Graddedig trwy'r Rhaglen Cymrodoriaeth Gysylltiol
  • Mae'r Ysgol yn sicrhau bod cyllid ar gael bob blwyddyn i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig sy'n dymuno mynychu cynadleddau sy'n gysylltiedig â'u hymchwil
  • Mae gan yr Ysgol ystafell bwrpasol gyda chyfleusterau cyfrifiadurol ar gyfer ei myfyrwyr ymchwil.

Mae Caerdydd yn lle cyffrous iawn i fod yn athronydd ar hyn o bryd. Rydyn ni’n gymuned hynod greadigol sydd ar flaen y gad yn ein disgyblaeth. Rydyn ni’n meithrin syniadau arloesol a hyd yn oed feysydd ymholi newydd o’n gwybodaeth gyfunol o ddadleuon hanesyddol a chyfoes, yn aml trwy integreiddio problemau damcaniaethol craidd â materion cyfoes o bryder cymdeithasol ehangach.

Yr Athro Jonathan Webber, Pennaeth Athroniaeth

Ffeithiau allweddol

Math o astudiaeth Amser llawn, rhan amser
Cymhwyster PhD, MPhil
Hyd amser llawn PhD 3 mlynedd, MPhil 1 flwyddyn
Hyd rhan-amser Cyfleoedd ar gael
Derbyniadau Ionawr, Ebrill, Hydref

Cynhelir astudiaeth PhD am dair blynedd (amser llawn) neu bum mlynedd (rhan-amser). Mae myfyrwyr PhD yn cael goruchwyliaeth arbenigol gan brif oruchwylydd (gyda chyd-oruchwylio lle bo'n briodol). Cefnogir y rhaglen gan amrywiaeth o ddigwyddiadau ymchwil, hyfforddiant proffesiynol a chyfleoedd addysgu.

Cynhelir astudiaeth MPhil am flwyddyn (llawn amser) neu ddwy flynedd (rhan-amser). Mae myfyrwyr MPhil yn cael goruchwyliaeth arbenigol gan brif oruchwylydd. Cefnogir y rhaglen gan amrywiaeth o ddigwyddiadau ymchwil a hyfforddiant proffesiynol.

Asesiad

Asesir y PhD drwy gyflwyno traethawd ymchwil o hyd at 80,000 o eiriau ac arholiad viva voce.

Asesir yr MPhil drwy gyflwyno traethawd ymchwil o hyd at 50,000 o eiriau ac arholiad viva voce.

Rydym yn croesawu ceisiadau ym meysydd arbenigol staff, megis y canlynol:

  • Estheteg ac athroniaeth celf
  • Moeseg gymhwysol, moeseg normadol, metetheg, a seicoleg foesol
  • Ffeministiaeth ac athroniaeth gymdeithasol
  • Ffenomenoleg, dirfodolaeth, a theori gritigol
  • Athroniaeth iaith
  • Athroniaeth y meddwl a seicoleg
  • Athroniaeth gofodau ar-lein

I gael gwybodaeth fanylach am ymchwil ein staff academaidd, gweler ein tudalennau staff unigol.

Amgylchedd ymchwil

Mae’r Ysgol yn cymryd hyfforddiant ei myfyrwyr ymchwil o ddifrif calon a chynigir cyfleusterau ac arweiniad goruchwylio a fydd yn eu helpu i ffynnu’n ddeallusol ac i weithio’n gynhyrchiol. Mae gan yr Ysgol gyfres bwrpasol o ystafelloedd ymchwil PhD gyda chyfleusterau rhwydweithio TG rhagorol. Mae gan bob myfyriwr gyllideb ar gyfer cynadleddau a rhoddir cyfraniad at gostau llungopïo yn ogystal â chyfleusterau argraffu rhad ac am ddim.

Mae’r Ysgol yn cynnal cynhadledd flynyddol i alluogi myfyrwyr PhD gael y cyfle i rannu eu gwaith gyda’u cyfoedion mewn amgylchedd cefnogol, cyffrous ac aml-ddisgyblaethol. Mae Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol yn llawn llyfrau a chyfnodolion academaidd yn ein holl feysydd pwnc, adnoddau electronig sylweddol, a chasgliadau arbenigol fel Llyfrau Prin Caerdydd, archif gyfoethog o dros 14,000 o eitemau sy’n amrywio o incwnabwla o’r bymthegfed ganrif i lyfrau cain yr ugeinfed ganrif.

Mewn marchnad swyddi gystadleuol, anogir a chefnogir ein myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau fydd yn eu gwneud yn gyflogadwy, beth bynnag fo cyfeiriad eu gyrfa. Rydym yn gwerthfawrogi profiad cyfoethog ein nifer o fyfyrwyr tramor, ac yn darparu ar gyfer eu hanghenion penodol o ran cyd-destun diwylliannol astudiaeth a gofynion ysgrifennu’n gain mewn ail iaith.

Mae Athroniaeth yn un o’r pedwar prif maes o gryfder arbennig yn Rhaglen Hyfforddiant Doethurol y De, y Gorllewin a Chymru, ac rydym yn aelod o’r aelod hon. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol y De, y Gorllewin a Chymru yr AHRC ar ein gwefan.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae myfyrwyr sy'n ennill PhD mewn Athroniaeth o Gaerdydd wedi mynd ymlaen i swyddi darlithio ym Mhrifysgol Soka, Japan a Phrifysgol Technolegol Nanyang Singapore, tra bod eraill wedi sicrhau swyddi y tu allan i Addysg Uwch yn y proffesiwn addysgu.

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Gallai ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol fod yn gymwys i wneud cais am fenthyciad doethuriaeth ôl-raddedig gan Lywodraeth y DU..

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Arian

Edrychwch ar ein prosiectau a'n hysgoloriaethau PhD diweddaraf a chael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ariannu eraill.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr o'r DU

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Yn addas ar gyfer graddedigion Athroniaeth a phynciau cysylltiedig agos.

Mae angen gradd israddedig Anrhydedd y DU o'r radd flaenaf neu'r ail ddosbarth uchaf yn y DU, neu gymhwyster cyfatebol, ac, yn ddelfrydol, gradd Meistr ôl-raddedig dda. Fel arfer, dylai o leiaf un o'r graddau hyn fod mewn Athroniaeth neu’n cynnwys athroniaeth.

Gofynion Iaith Saesneg

Mae'r Ysgol yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr y tu allan i'r Deyrnas Unedig. Yn achos y rhai nad yw Saesneg yn famiaith iddynt, mae sgôr gyffredinol IELTS o 7.5 gydag o leiaf 7.0 ym mhob is-sgôr yn hanfodol.

Darllenwch ein Gofynion Iaith Saesneg am ragor o wybodaeth.

I gael gwybod sut i wneud cais, edrychwch ar ein canllaw i'r broses ymgeisio ôl-raddedig.

Cynnig ymchwil

Dylid cyflwyno cynnig ymchwil, tua 1,000 gair ar y mwyaf, gyda cheisiadau graddau ymchwil. Dylai hyn gynnwys teitl drafft a sefydlu amcanion allweddol o ran cwestiynau ymchwil sylfaenol, damcaniaethau neu gynigiadau.

Dylai'r cynnig hefyd leoli eich gwaith mewn perthynas â maes ehangach yr ysgoloriaeth bresennol; rhoi ymdeimlad cychwynnol o'r cyfraniad gwreiddiol rydych yn gobeithio ei wneud a rhoi syniad o'ch methodoleg ymchwil arfaethedig. Dylid atodi llyfryddiaeth ragarweiniol o ffynonellau allweddol disgwyliedig hefyd.

Ymhellach i hyn, dylai ceisiadau gynnwys traethawd 4,000 gair ar bwnc athronyddol o'ch dewis. Nid oes disgwyl i chi gysylltu â goruchwyliwr posibl cyn cyflwyno'r cynnig ond mae croeso i chi nodi pwy y credwch y gallai’r goruchwyliwr/goruchwylwyr priodol fod.

Dylech ymgynghori â'r wefan ar gyfer buddiannau staff cyn i chi ysgrifennu'r cynnig.

Y broses dderbyn

Mae Cyfarwyddwr Rhaglen Ymchwil Ôl-raddedig mewn athroniaeth yn asesu pob cais, gan ystyried ansawdd a dichonoldeb y prosiect ymchwil, yn ogystal â gallu'r staff i'w oruchwylio. Bydd hyn yn cynnwys ymgynghori â goruchwylwyr posibl.

Yna, gwahoddir ymgeiswyr sy'n pasio'r cam asesu cychwynnol am gyfweliad.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Derbyniadau Ôl-raddedig ENCAP

Cyswllt gweinyddol

Gwneud cais

Gwneud cais nawr
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig