Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol
Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn ymchwilio ar gyfer PhD yn ein portffolio ymchwil amrywiol. Rydym yn canolbwyntio ar ddarganfod, datblygu a gwneud y defnydd mwyaf effeithiol posib o feddyginiaethau a therapiwteg i fynd i'r afael â rhai o glefydau mwyaf gwanychol a bygythiol y byd a gwella deilliannau iechyd i gleifion.
Mae rhagoriaeth ein hymchwil a’n haddysgu ym maes gwyddoniaeth fferyllol ac iechyd yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol. Rydym yn Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol sy’n gydradd gyntaf yn y DU am ein rhagoriaeth ymchwil ac addysgu yn ôl y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (REF 2014).
Mae ein hymchwil yn cwmpasu continwwm o wyddoniaeth sylfaenol i wyddoniaeth cymhwysol, gwyddoniaeth drosi ac arfer clinigol. Mae’n cynnwys darganfod, datblygu a defnyddio meddyginiaethau a therapiwteg ar draws sbectrwm o glefydau gan gynnwys canser, haint, anhwylderau cyhyrysgerbydol, cardiofasgwlaidd, anadlol a niwroddirywiol.
Mae ein hymchwil yn cynnwys pob agwedd ar astudio cyffuriau, gan gynnwys:
- darganfod endidau cyffuriau posibl newydd drwy ddefnyddio cemeg synthetig
- creu cyffuriau i gyflawni ymatebion wedi'u targedu
- astudiaethau ffarmacolegol o fecanweithiau gweithredu cyffuriau
- rheoli meddyginiaethau i ymarfer fferyllol ac addysg.
Mae natur gymwysedig ac amlddisgyblaethol ein gwaith yn elwa ar gydweithio gwyddonol byd-eang a chysylltiadau strategol gyda busnesau byd-eang a chyrff sector cyhoeddus sy’n ein galluogi i weld effaith ein hymchwil yn y byd go iawn.
Byddwch yn cael eich integreiddio'n llawn yn ein cymuned ymchwil ac academaidd. Byddwch yn cael yr offer, y cymorth a'r cyfle i gyfrannu at ddatblygu gwybodaeth a chreu effaith yn eich disgyblaeth ymchwil ddewisol.
Byddwch yn astudio ac yn gweithio mewn Ysgol amlddisgyblaethol hunangynhwysol, gyda chyfleoedd i gydweithio ag adrannau cysylltiedig yn ein Coleg Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd, neu gydag Ysgolion Cemeg neu Beirianneg y Brifysgol.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn ymchwilio ar gyfer PhD mewn maes arbenigol yn ein portffolio ymchwil amrywiol.
Ffeithiau allweddol
Math o astudiaeth | Amser llawn, rhan amser |
---|---|
Cymhwyster | PhD, MPhil, MD |
Hyd amser llawn | PhD 3 blynedd, MPhil blwyddyn, MD 2 flynedd |
Hyd rhan-amser | PhD 5 mlynedd, MPhil 2 flynedd, MD 3 blynedd |
Derbyniadau | Ionawr, Ebrill, Gorffennaf, Hydref |
Ein Rhaglen PhD mewn Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol dros dair blynedd, amser llawn.
PhD
Mae gwneud PhD yn gyfle cyffrous a buddiol i edrych ar bwnc yn fanwl, ymysg ymchwilwyr sy'n arwain y maes, gyda chyfleusterau sydd wirioneddol o'r radd flaenaf. Mae gofyn i ymgeiswyr wneud cyfraniad gwreiddiol i wybodaeth drwy gynnal prosiect ymchwil annibynnol.
MPhil
Mae ymchwil MPhil yn cynnig prosiect byrrach gyda mwy o ffocws o’i gymharu ag astudio ar gyfer PhD. Mae gradd MPhil yn cynnig cyfle i fyfyrwyr adeiladu ar brofiad academaidd a phroffesiynol blaenorol i ddatblygu sgiliau ymchwil. Mae myfyrwyr MPhil yn cymryd rhan weithgar mewn gwaith ar flaen y gad o’r holl weithgareddau ymchwil.
MD
Mae'r ysgol yn cynnig graddau ymchwil clinigol neu mewn labordai i raddedigion cydnabyddedig Meddygaeth, sy'n canolbwyntio ar bwnc ymchwil clinigol penodol i wneud cyfraniad gwreiddiol at wybodaeth feddygol. Fel myfyriwr MD, byddwch yn derbyn lefel uchel o oruchwyliaeth a mynediad at hyfforddiant sgiliau ymchwil arbenigol.
Goruchwylwyr
Mae rhestr o staff academaidd sy’n gallu cynnig goruchwyliaeth mewn perthynas â'r maes ymchwil sydd o ddiddordeb i chi i'w gweld ar wefan yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol o dan ein thema ymchwil gyffredinol.
Asesu
Bydd myfyrwyr yn cael eu hasesu ar sail traethawd ymchwil (80,000 o eiriau ar gyfer PhD, 60,000 o eiriau ar gyfer MD a 50,000 o eiriau ar gyfer MPhil) ac arholiad viva voce.
Mae ein hymchwil yn rhyngddisgyblaethol ac yn cael ei mynegi o fewn dwy thema gyffredinol sy'n gorgyffwrdd
Themâu ymchwil
Darganfod Cyffuriau, y Gwyddorau Fferyllol a Therapiwteg Arbrofol (DDPSET)
Ymchwil sylfaenol a chlinigol yn ymwneud â’r gwyddorau meddygol, biocemegol, bioffisegol a bio-beirianneg tuag at ddeall clefydau a nodi therapïau a dulliau rhoi diagnosis newydd a gwell.
Optimeiddio Meddyginiaethau a Chanlyniadau Gofal Iechyd (MOHO)
Ymchwil yn ymwneud â chleifion er mwyn cael sylfaen dystiolaeth ar gyfer defnyddio meddyginiaethau yn ddiogel, yn effeithiol ac yn well gan arwain at welliannau yn neilliannau iechyd a lles cleifion.
Ymchwil ôl-raddedig
Mae ein graddau ymchwil yn rhoi rhwydd hynt i chi ymchwilio i rai o'r themâu ymchwil cyffredinol hyn a'u hystod amrywiol o feysydd disgyblaeth yn fanwl, gyda chymorth ymchwilwyr blaenllaw sy'n defnyddio cyfleusterau ymchwilio o'r radd flaenaf.
Mae'r meysydd ymchwil y gallwch ganolbwyntio eich astudiaethau arnynt yn rhan o'n rhaglenni ymchwil Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol yn cynnwys:
Meysydd disgyblaethau sydd ar gael ar gyfer graddau PhD ac MPhil
Ein nod yw cynnig gwybodaeth ac arbenigedd ar gyfer gyrfa yn y diwydiant fferyllol, byd academaidd neu mewn gofal sylfaenol/eilaidd.
Yn dibynnu ar eich maes dewisol, bydd ein rhaglen PhD yn eich paratoi ar gyfer gyrfa lle byddwch yn ysgolhaig academaidd blaenllaw, yn ymchwilydd neu’n ymarferydd rhagorol, neu rôl uwch lle byddwch yn gwneud penderfyniadau ynghylch polisïau gofal iechyd.
Y cydweithio agos rhwng yr ysgol a'r diwydiant yw un o'r prif resymau pam mae cynifer o’n graddedigion uwch yn dilyn gyrfaoedd llwyddiannus yn y diwydiant fferyllol.
Ar ôl cwblhau eich PhD yn llwyddiannus, rydym yn croesawu ymchwilwyr talentog ar ddechrau eu gyrfa i ymuno â'n cymuned ymchwil sy'n tyfu drwy ystod o gyfleoedd i wneud Cymrodoriaeth.
Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth
Gallai ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol fod yn gymwys i wneud cais am fenthyciad doethuriaeth ôl-raddedig gan Lywodraeth y DU..
Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaethArian
Rydym yn cynnal ac yn denu grantiau ymchwil mawr o amrywiaeth o ffynonellau. Ar unrhyw un adeg, mae gennym tua 60 o fyfyrwyr yn astudio ar gyfer cymhwyster ymchwil ôl-raddedig.
Cyllid
Bob blwyddyn mae ystod o ysgoloriaethau PhD a ariennir ar gael drwy Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC Cymru (myfyrwyr y DU/UE yn unig), Prifysgol Caerdydd, ac amrywiaeth o noddwyr allanol.
Hysbysebir prosiectau a ariennir drwy gydol y flwyddyn.
Edrychwch ar ein prosiectau a'n hysgoloriaethau PhD diweddaraf a chael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ariannu eraill.
Ffioedd dysgu
Myfyrwyr o'r DU
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.
Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)
Dylai ymgeiswyr feddu ar radd anrhydedd ail ddosbarth uchaf, gradd meistr neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol o leiaf.
Gofynion Iaith Saesneg
Fel arfer disgwylir i ymgeiswyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf fod wedi cyrraedd isafswm sgôr IELTS o 5.5 a sgôr cyffredinol o 6.5. Rhaid cyflenwi copïau o dystysgrifau priodol iaith Saesneg gyda'ch cais
Darllenwch ein Gofynion Iaith Saesneg am ragor o wybodaeth.
Gellir gwneud ceisiadau ar unrhyw adeg, ond hefyd, bydd galwadau penodol, gyda chyfarwyddiadau a therfynau amser cysylltiedig.
Pan fydd gennych syniad o'r hyn yr hoffech ymchwilio iddo, rydym yn argymell eich bod yn edrych ar broffiliau ymchwil ein staff academaidd (sydd i’w gweld o dan ddwy thema ymchwil gyffredinol) i weld pa aelod(au) staff sydd â diddordebau ymchwil tebyg i chi. Yna gallwch gysylltu â nhw a rhoi syniad cryno iddynt o'r hyn yr hoffech ymchwilio iddo.
Caiff penderfyniadau eu gwneud ar sail eich cais ysgrifenedig a’r geirdaon a dderbyniwyd, ac efallai y bydd darpar fyfyrwyr yn cael eu cyfweld fel rhan o'r broses derbyn.
Dechreuwch eich cais
Bydd ceisiadau'n cael eu harchwilio gan y Swyddfa Ymchwil a'u hadolygu gan y Cyfarwyddwr Astudiaethau Ôl-raddedig.
Bydd ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n bodloni'r gofynion mynediad yn cael eu rhannu â goruchwylwyr posibl yn yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol ac academyddion perthnasol eraill. Pan fydd goruchwylwyr yn mynegi diddordeb tuag at ymgeisydd, gellir cynnal trafodaeth anffurfiol i nodi buddiannau'r prosiect a chaiff panel cyfweld ei drefnu i gynnal cyfweliad. Os bydd cynnig ffurfiol yn cael ei gyflwyno ar ôl cyfweliad, bydd ymgeiswyr yn cael gwybod am unrhyw gyfleoedd ariannu sydd ar gael ar hyn o bryd.
Cyswllt
Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol
Mrs Wendy Davies
Postgraduate Research Administrator