Mathemateg
Mae’r Ysgol Mathemateg yn cynnig amrywiaeth eang eithriadol o gyfleoedd ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig mewn mathemateg.
Nod y rhaglen hon yw cynnig y wybodaeth a'r arbenigedd ar gyfer gyrfa yn y byd academaidd, neu i fynd ar drywydd amrywiaeth o gyfleoedd eraill lle mae cefndir mathemategol cryf yn bwysig. Mae myfyrwyr diweddar yn aelodau o staff mewn prifysgolion yn y DU a thramor, ac yn uwch-ystadegwyr a rheolwyr mewn diwydiant a busnes.
Meysydd ymchwil sydd ar gael
- theori rhif
- dadansoddiad ymarferol a theori sbectrol gweithredwyr gwahaniaethol arferol a rhannol
- calcwlws amrywiadau a hafaliadau differol rhannol
- dadansoddiad rhifiadol
- dynameg hylif damcaniaethau a chyfrifiadurol
- algebras gweithredydd a geometreg nad yw’n gymudol
- topoleg algebraidd
- geometreg algebraidd
- cyfuniadeg
- theori maes cwantwm a mecaneg ystadegol
- theori maes cydffurf ac algebras gweithredydd fertig
- prosesu delweddau
- ymchwil weithredol
- dadansoddiad cyfres amser
- theori tebygolrwydd ac ystadegaeth.
Nodweddion unigryw
- Amgylchedd ymchwil fywiog, rhaglen o seminarau helaeth.
- Cefnogaeth cynhadledd a gweithdy, gan gynnwys Colocwiwm blynyddol Mathemateg Cymru.
- Cyfranogiad dewisol mewn addysgu israddedigion, gan gynnwys achrediad HEA.
- Cynhelir cynulliadau yn rheolaidd ac mae gan bob grŵp ymchwil seminar ymchwil wythnosol.
- Mae’r Ysgol yn cynnal ac yn cymryd rhan mewn gweithdai rheolaidd a drefnir gan glystyrau ymchwil WIMSC, y mae’r grwpiau ymchwil yn gysylltiedig â nhw.
- Mae’r nifer o brosiectau cydweithredol gyda grwpiau mewn sefydliadau eraill yn y DU a thramor, yn dod â llif cyson o ymwelwyr nodedig i’r Ysgol.
Ffeithiau allweddol
Math o astudiaeth | Amser llawn, rhan amser |
---|---|
Cymhwyster | PhD, MPhil |
Hyd amser llawn | PhD 3.5 mlynedd; MPhil 1 flwyddyn |
Hyd rhan-amser | PhD 5 blynedd; MPhil 2 flynedd |
Derbyniadau | Ionawr, Ebrill, Gorffennaf, Hydref |
Fel myfyriwr ymchwil yn eich blwyddyn gyntaf a’ch ail flwyddyn, byddwch yn dilyn rhaglen o ddarlithoedd a chyrsiau darllen y cytunwyd arni gyda’ch goruchwyliwr i’ch cyflwyno i sgiliau a dulliau ymchwil ac i gynyddu eich gwybodaeth o’ch dewis faes. Mae'r rhain yn cynnwys asesiad ffurfiol.
Mae hyn yn cynnwys dewis eang o gyrsiau ôl-raddedig a ddarperir drwy'r rhwydweithiau cydweithredol cenedlaethol:
- MAGIC (ar gyfer mathemateg pur/cymhwysol)
- NATCOR (ar gyfer ymchwil weithredol)
- APTS (ar gyfer ystadegau).
Drwy’r seminarau rheolaidd ym mhob maes, yn ogystal â Cholocwia Mathemateg Caerdydd a Cholocwiwm blynyddol Mathemateg Cymru, ceir cip ar yr ymchwil ddiweddaraf.
At hynny, mae ymchwil myfyrwyr yn elwa o raglen graddedigion a ddatblygwyd yn ofalus gan gynnwys sgiliau cyfrifiadurol, cyflwyniadol a phwnc-benodol.
Bydd myfyrwyr hefyd yn ysgrifennu adroddiad diwedd y flwyddyn sylweddol ac yn rhoi seminar yn yr adran.
Mae’r rhaglen PhD yn arwain y myfyriwr, drwy gyrsiau a addysgir a goruchwyliaeth prosiect unigol, at derfynau maes mwn mathemateg, gyda'r nod o greu darn o ymchwil gwreiddiol, wedi’i ysgrifennu yn y traethawd hir doethurol. Yn y broses, bydd y myfyriwr yn caffael sgiliau ymchwil, datrys problemau a chyfathrebu hanfodol. Mae'r rhaglen MPhil yn debyg, ond yn llai uchelgeisiol oherwydd ei gwmpas mwy cyfyngedig; gall gwaith ar MPhil arwain at gwblhau PhD.
Sgiliau a ddatblygwyd
Yn ogystal â gwybodaeth fanwl am faes ymchwil mathemategol, mae myfyrwyr PhD yn meithrin sgiliau ymchwil a chyflwyno cyffredinol, a sgiliau addysgu israddedigion (dewisol), gydag achrediad HEA.
Mae’r Ysgol Mathemateg yn cynnig amrywiaeth eang eithriadol o gyfleoedd ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig mewn mathemateg. Mae’r staff academaidd yn ymwneud â phrosiectau ymchwil mewn meysydd mor amrywiol â theori rhif, dadansoddi swyddogaethol a theori sbectrol mewn mathemateg pur, prosesu delwedd, ymchwil weithredol, ystadegau a theori maes cwantwm.
Mae nifer o brosiectau ymchwil a gyflawnir gan aelodau o staff yn yr Ysgol yn cael eu hariannu’n hael gan y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Arweinydd y grŵp Algebras Gweithredydd a Geometreg nad yw’n Gymudol yw cydlynydd Rhwydwaith Ewropeaidd Geometreg nad yw’n Gymudol a ariennir gan y rhaglen TMR EU. Mae ffynonellau eraill o gyllid yn cynnwys EPSRC, Ymddiriedolaeth Leverhulme, NATO, INTAS, Y Weinyddiaeth Amddiffyn, Ymddiriedolaeth Wellcome, Proctor and Gamble.
Mae gennym gysylltiadau agos â nifer o brifysgolion a sefydliadau dramor. Mae’r rhain yn cynnwys Institute of Advanced Study yn Princeton, Prifysgol Genedlaethol Awstralia a’r Australian Road Research Board ym Melbourne, Ecole Superieure d'Electricite yn Gif-Sur Yvette, ETH yn Zurich a phrifysgolion yng Nghanada, y Weriniaeth Tsiec, Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Iwerddon, Norwy, Saudi Arabia, Siapan, Malaysia ac UDA.
Amgylchedd ymchwil
Bydd y grwpiau ymchwil unigol yn rhedeg seminarau wythnosol yng nghwmni siaradwyr gwadd. Fe aiff myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn rheolaidd i’r seminar yn eu maes ymchwil hwy a chânt eu hannog i elwa o wrando ar gyflwyniadau mewn meysydd eraill hefyd. Bob tymor, rydym yn trefnu rhyw dri cholocwiwm mathemateg a daw siaradwyr gwadd o fri i’w hannerch.
Ar ben hynny, bydd aelodau o’r Ysgol yn trefnu i amryw o weithdai a chynadleddau rhyngwladol gael eu cynnal yng Nghaerdydd, gan roi cyfle gwerthfawr i fyfyrwyr ôl-raddedig ddysgu am yr ymchwil gyfredol sy’n arwain y byd. Cânt eu hannog hefyd i gymryd rhan mewn cynadleddau mawr yn y DU ac mewn gwledydd tramor a chyflwyno’u canlyniadau ynddynt.
Yng Ngholocwiwm Mathemateg Cymru, y colocwiwm blynyddol yng Ngregynog, gall myfyrwyr ôl-raddedig arddangos eu gwaith yn y grŵp o adrannau Mathemateg Cymru.
Goruchwylwyr
Argymhellir cyswllt anffurfiol gyda goruchwylwyr posibl yn Yr Ysgol Mathemateg cyn gwneud cais.
Meysydd ymchwil
Amrywiaeth eang o yrfaoedd mewn diwydiant neu yn y byd academaidd.
Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth
Gallai ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol fod yn gymwys i wneud cais am fenthyciad doethuriaeth ôl-raddedig gan Lywodraeth y DU..
Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaethArian
Mae nifer fach o grantiau hyfforddi doethurol a ariennir gan EPSRC ar gael ar gyfer ymgeiswyr y DU/UE, a ddyfernir ar sail gystadleuol, yn amodol ar ofynion preswylio’r cyngor ymchwil.
Edrychwch ar ein prosiectau a'n hysgoloriaethau PhD diweddaraf a chael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ariannu eraill.
Ffioedd dysgu
Myfyrwyr o'r DU
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.
Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)
Addas ar gyfer graddedigion mewn Mathemateg (neu faes cysylltiedig addas). Rhaid wrth radd anrhydedd dosbarth cyntaf neu yn adran uchaf yr ail ddosbarth yn y DU, neu gymhwyster cyfwerth.
Gofynion Iaith Saesneg
IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil, neu gyfwerth. Darllenwch ein canllawiau am ein Gofynion Iaith Saesneg am ragor o fanylion.