Ewch i’r prif gynnwys

Iaith, Polisi a Chynllunio

Ymunwch â'n cymuned chwilfrydig a arweinir gan heriau, a datblygwch eich ymchwil i iaith - gydag arbenigwyr ym meysydd polisi a chynllunio iaith, hawliau iaith a gwleidyddiaeth, amrywiaeth a newid ieithyddol, sosioieithyddiaeth dwyieithrwydd ac amlieithrwydd, a chymdeithaseg iaith.

Mae'r PhD hwn yn cael ei arwain gan yr Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio yn Ysgol y Gymraeg. Mae'r prosiectau'n cynnwys ymchwil ryngwladol ar bolisi a chynllunio iaith, hawliau iaith a gwleidyddiaeth, amrywiaeth a newid iaith, sosioieithyddiaeth dwyieithrwydd ac amlieithrwydd, a chymdeithaseg iaith.

Nod yr Uned yw bod ar flaen y gad o ran datblygiadau cenedlaethol a rhyngwladol ym maes cynllunio iaith. Rhoddir pwyslais arbennig ar ddeall goblygiadau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol iaith dros amser a lle. Mae gwaith yr Uned yn amrywio o ran maint ddaearyddol o faint lleol i faint y byd ac mae’r sbectrwm llawn o dechnegau ymchwil meintiol ac ansoddol yn cael ei ddefnyddio.

Nodau'r rhaglen

Cynnig gwybodaeth ac arbenigedd ar gyfer gyrfa ym maes cynllunio ieithyddol, y cyfryngau, y llywodraeth, addysgu, rheoli ac ymchwil. Rydym yn darparu hyfforddiant lefel uchel o gefnogaeth i bob myfyriwr, ac mae’r gymuned ôl-raddedig yn gwneud cyfraniad hanfodol i enw da rhyngwladol y Brifysgol am ymchwil.

Nodweddion unigryw

  • Cyfres flynyddol o seminarau a chynadleddau ymchwil.
  • Uned Ymchwil Cynllunio a Pholisi Iaith.
  • Cyfleoedd i addysgu yn yr Ysgol a’r Ganolfan Addysgu Cymraeg (Cymraeg i Oedolion).
  • Ymchwil ar y cyd â sawl sefydliad yng Ngogledd America ac Ewrop, er enghraifft yng Nghanada ac Iwerddon.
  • Cysylltiadau agos â Llywodraeth Cymru ac â sefydliadau cenedlaethol eraill, gan gynnwys Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan.

Ffeithiau allweddol

Math o astudiaeth Amser llawn, rhan amser
Cymhwyster PhD, MPhil
Hyd amser llawn PhD 3 mlynedd, MPhil 1 flwyddyn
Hyd rhan-amser PhD 5 mlynedd, MPhil 2 flynedd
Derbyniadau Ionawr, Ebrill, Gorffennaf, Hydref

Sgiliau a ddatblygwyd

  • Gwybodaeth ac arbenigedd pwnc ar lefel uwch
  • Uwch sgiliau ymchwil a methodoleg (theori a chymhwyso)
  • Hunanreolaeth a chymhelliant
  • Meddwl dadansoddol a beirniadol
  • Lledaenu ymchwil ac ymgysylltu

Asesiad

Asesir y rhaglen hon yn seiliedig ar ganlyniad yr ymchwil a gynhyrchir drwy gyflwyno traethawd ac arholiad llafar.

  • Ar gyfer myfyrwyr PhD, dylai’r traethawd hir fod hyd at 80,000 o eiriau.
  • Ar gyfer myfyrwyr MPhil, dylai’r traethawd hir fod hyd at 50,000 o eiriau.

Gellir gwneud ymchwil drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg mewn unrhyw un o'r meysydd canlynol:

  • gwleidyddiaeth iaith, bod yn weithgar a datrys gwrthdaro
  • hawliau a statws iaith
  • polisi iaith, llywodraethu a'r Wladwriaeth
  • newid ymddygiad
  • amrywiaeth ieithyddol ac amlddiwylliannedd
  • agweddau sosioieithyddol ar ddwyieithrwydd, amlieithrwydd, a chaffael ail iaith
  • amrywiad iaith a newid iaith a thafodieitheg

Mae graddedigion blaenorol yn y maes hwn wedi mynd ati i ddilyn gyrfa ym meysydd addysg uwch, ymchwil, y cyfryngau, addysgu, y llywodraeth a chyhoeddi.

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Gallai ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol fod yn gymwys i wneud cais am fenthyciad doethuriaeth ôl-raddedig gan Lywodraeth y DU..

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Arian

Edrychwch ar ein prosiectau a'n hysgoloriaethau PhD diweddaraf a chael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ariannu eraill.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr o'r DU

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Addas i raddedigion y Gymraeg neu bynciau eraill y Dyniaethau neu’r Gwyddorau Cymdeithasol. Mae myfyrwyr nad ydynt wedi cwblhau MA, neu gwrs hyfforddi dulliau ymchwil, fel arfer yn dilyn y modiwl sgiliau ymchwil o’r MA a addysgir wrth baratoi at eu traethawd MPhil/PhD.

Rhaid wrth radd anrhydedd dosbarth cyntaf neu yn adran uchaf yr ail ddosbarth yn y DU, neu gymhwyster cyfwerth.

Rhaid i ymgeiswyr sy’n dymuno cyflwyno’u traethawd MPhil neu PhD yn Gymraeg, ond sydd heb radd yn y Gymraeg, fodloni’r Ysgol ynghylch safon eu sgiliau yn yr iaith ar lafar ac ar bapur.

Mae Ysgol y Gymraeg hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr di-Gymraeg o’r DU neu dramor sy’n dymuno astudio a chyflwyno eu traethawd MPhil neu PhD drwy gyfrwng y Saesneg.

Gofynion Iaith Saesneg

IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil, neu gyfwerth. Darllenwch ein canllawiau am ein Gofynion Iaith Saesneg am ragor o fanylion.

Dylai’r ceisiadau gynnwys cynnig ymchwil hyd at 1,500 o eiriau sy'n amlinellu’r rhaglen ymchwil y maent yn bwriadu ei dilyn. Dylai ymgeiswyr gysylltu ag Ysgol y Gymraeg i drafod eu diddordebau ymchwil cyn gwneud cais ffurfiol.

Wedyn bydd y Cyfarwyddwr Astudiaethau Ymchwil Ôl-raddedig yn yr ysgol yn rhoi cyngor ynghylch yr arbenigedd sydd ar gael ac yn helpu ymgeiswyr wrth iddynt ddatblygu eu Cynigion Ymchwil.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Cadi Thomas

Cadi Thomas

Rheolwr Academaidd

Siarad Cymraeg
Email
thomascr9@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 0637

Cyswllt/Cysylltiadau Academaidd

Yr Athro Diarmait Mac Giolla Chríost

Yr Athro Diarmait Mac Giolla Chríost

Cyfarwyddwr Astudiaethau Ymchwil Ôl-raddedig

Siarad Cymraeg
Email
macgiollachriostd@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 9180

Gwneud cais

Gwneud cais nawr
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig