Hanes a Hanes Cymru
Byddwch yn mynd ar drywydd ymchwil gwreiddiol, ac yn cael eich goruchwylio gan haneswyr blaenllaw sydd ag arbenigedd mewn ystod gronolegol, daearyddol a thematig eang, sy'n cwmpasu’r cyfnod canoloesol i’r cyfnod modern ar draws y byd.
Nod ein graddau MPhil a PhD mewn Hanes a Hanes Cymru yw eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o opsiynau gyrfaol, gan gynnwys mewn ymchwil a'r byd academaidd, gwasanaeth cyhoeddus, addysgu, a'r sector preifat.
Mae gan ein haneswyr sydd â bri rhyngwladol ac yn arweinwyr yn eu maes yn rhyngwladol ystod eang o ddiddordebau ac arbenigedd, sy'n ein galluogi i'ch goruchwylio mewn amrywiaeth fawr o feysydd ymchwil. Mae ein cymuned ôl-raddedig yn cyfrannu’n allweddol i ddiwylliant ymchwil yr Ysgol ac i enw da rhyngwladol y Brifysgol am ymchwil.
Nodau'r rhaglen
Cynnig gwybodaeth ac arbenigedd ar gyfer gyrfa yn y byd academaidd, ymchwil (masnachol ac ati), gwasanaethau cyhoeddus, addysgu a meysydd cysylltiedig, a’r cyfryngau.
Nodweddion unigryw
- Ystod eang o arbenigedd ymchwil.
- Rhaglen Hyfforddiant PhD arloesol i'ch helpu i gyflawni eich potensial o ran ymchwil, ac i'ch paratoi ar gyfer yr hyn sy'n dod nesaf.
- Amgylchedd dysgu cyffrous, ysgogol a chefnogol sy'n mynd ati i geisio datblygu ei ymchwil a'i ddiwylliant ôl-raddedig.
- Rydym yn ganolog i nifer o ganolfannau ymchwil a grwpiau astudio sy'n gweithredu o fewn y Brifysgol, gan gynnwys y Ganolfan Astudio Cymdeithas a Diwylliant yr Oesoedd Canol, a Grŵp Ymchwil Canol a Dwyrain Ewrop.
Ffeithiau allweddol
Math o astudiaeth | Amser llawn, rhan amser |
---|---|
Cymhwyster | PhD, MPhil |
Hyd amser llawn | PhD 3 mlynedd, MPhil 1 flwyddyn |
Hyd rhan-amser | Cyfleoedd ar gael |
Hanes
Rydym yn cynnig amrywiaeth o arbenigedd cronolegol, daearyddol a hanesyddol. Mae diddordebau ymchwil ein haneswyr, a chryfderau ein hadran, yn meysydd canlynol: hanes Prydain a Chymreig, o’r canoloesol i'r cyfoes; hanes Gogledd America; hanes Ewropeaidd ac Ewrasiaidd modern, o Ffrainc a'r Almaen i Tsiecoslofacia, Rwsia a Chanol Asia; hanes Asiaidd modern, gan gynnwys India, Tsieina, a Siapan; hanes Affrica; hanes Iddewig; hanes amgylcheddol; y dyniaethau meddygol; hanes digidol; a dulliau damcaniaethol a methodolegol o astudio hanes a'r dyniaethau.
Mae ein rhaglenni ymchwil yn cynnig hyfforddiant a lefel uchel o gefnogaeth er mwyn eich galluogi i gwblhau eich gradd yn llwyddiannus, ac i’ch paratoi ar gyfer cam nesaf eich gyrfa. Byddwch yn elwa ar gyfres o raglenni hyfforddiant ôl-raddedig sydd gan y Coleg a'r Brifysgol. Rydym hefyd yn cynnig Seminar Hyfforddi PhD Hanes a fydd yn helpu i’ch integreiddio i ddiwylliant ymchwil ein hadran.
Hanes Cymru
Fel sy'n addas i brifddinas Cymru, mae'r Adran yn darparu rhaglen ffyniannus o ymchwil a chanolwyr ôl-raddedig ym meysydd Hanes Cymdeithasol, Diwylliannol a Chymdeithasol Cymru. Mae ymchwil yn y maes hwn yn cwmpasu
- hanes cymdeithasol, trefol a gwleidyddol Cymru yn y cyfnod modern a modern cynnar
- ymfudo’r Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif a chymunedau Cymreig y tu allan i Gymru
- adeiladu hunaniaethau Cymreig yn y cyfnod modern
- effaith diwydiannu ar Gymru
- diweithdra, polisi cymdeithasol, mudiadau cymdeithasol a gwleidyddol yn enwedig yn ystod dirwasgiad economaidd y 1930au
- priodas, teulu a hunaniaeth yn y Gymru fodern
- Cymru a'r Ymerodraeth Brydeinig; buddiannau gwleidyddol a chymdeithasol bonedd Cymru
- Cymru a'r Rhyfel Cartref a’r Rhyngdeyrnasiad
- Cymru yn y wladwriaeth Brydeinig Modern Cynnar.
Am ragor o wybodaeth, gweler tudalennau ymchwil Hanes ein gwefan.
Mae gwybodaeth ar brosiectau ymchwil ar gael ar wefan yr Ysgol.
Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth
Gallai ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol fod yn gymwys i wneud cais am fenthyciad doethuriaeth ôl-raddedig gan Lywodraeth y DU..
Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaethArian
Rydym yn falch o fod yn rhan o Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru a De a Gorllewin Lloegr, sydd wedi’i ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.
Edrychwch ar ein prosiectau a'n hysgoloriaethau PhD diweddaraf a chael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ariannu eraill.
Ffioedd dysgu
Myfyrwyr o'r DU
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.
Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)
Mae’n addas ar gyfer graddedigion mewn hanes, a disgyblaethau cysylltiedig yn y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol.
Fel rheol, dylai ymgeiswyr fod â gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neu yn adran uchaf yr ail ddosbarth, neu gymhwyster cyfwerth, mewn pwnc priodol.
Mae croeso mawr i siaradwyr Cymraeg.
Gofynion Iaith Saesneg
IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil, neu gyfwerth. Darllenwch ein canllawiau am ein Gofynion Iaith Saesneg am ragor o fanylion.
Cynghorir unrhyw fyfyriwr sy’n dymuno gwneud cais am Radd Ymchwil Ôl-raddedig mewn Hanes yng Nghaerdydd i gysylltu gyda’r aelod perthnasol o staff i drafod eu diddordebau a’r potensial penodol y gallai Caerdydd ei gynnig i’r myfyriwr yn eu maes arbenigol o astudiaeth. Ar gyfer myfyrwyr sy’n bwriadu gwneud cais am gyllid ariannol (h.y. Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru a De a Gorllewin Lloegr), mae’n hanfodol eu bod yn dechrau cynllunio eu ceisiadau ar y cyd â’r darpar oruchwyliwr cyn gynted â phosibl.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am ein rhaglenni ymchwil ôl-raddedig, neu os ydych yn ystyried ymgymryd â gradd ymchwil mewn Hanes ac os hoffech siarad â ni am hyn, cysylltwch â'n tiwtor ôl-raddedig, Dr James Ryan.
Cyswllt
Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol
School of History, Archaeology and Religion Postgraduate Research Administrative Officer
Administrative contact