Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol
Wedi’i sefydlu ym 1966, mae’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio yn ganolfan ragoriaeth ryngwladol flaenllaw mewn addysgu ac ymchwil ym meysydd cynllunio gofodol, daearyddiaeth ddynol a dylunio trefol.
Mae'r ysgol yn cynnig graddau Ymchwil Ôl-raddedig (PGR). Mae'r rhain yn bennaf yn cynnwys ein gradd PhD mewn Daearyddiaeth a Chynllunio, yn ogystal â'r posibilrwydd i ddilyn gradd MPhil.
Fel un o brifysgolion Grŵp Russell, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o safon uchel sydd wedi ymrwymo i wneud ymchwil arloesol, sy'n torri tir newydd a fydd yn cyfrannu at ddadleuon academaidd a pholisi, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Gydag ein proffil ymchwil rhyngwladol a rhyngddisgyblaethol, rydym yn cynnig amgylchedd cyfoethog a bywiog ysgolheigaidd ar gyfer cynnal ymchwil ddoethurol. Ar hyn o bryd, mae gan yr ysgol gyfanswm o 55 o ymchwilwyr PhD amser llawn a rhan-amser.
Yr hyn rydyn ni’n ei gynnig
Rydym yn denu talent graddedig sy'n dyheu am fod yn arweinwyr ymchwil a chymuned yn y dyfodol. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael y cyfle i ddatblygu eu prosiect ymchwil ôl-raddedig mewn Ysgol fywiog a chydweithredol sydd ar flaen y gad o ran ymchwil ac effaith. Byddwch yn cael eich goruchwylio gan ddau oruchwyliwr, sy'n arwain datblygiad eu disgyblaeth yn genedlaethol ac yn rhyngwladol; ac un adolygydd, a fydd yn asesu gwaith ysgrifenedig ac yn helpu i'ch paratoi ar gyfer yr arholiad llafar.
Mae gan yr ysgol raglen ymsefydlu wedi’i theilwra sy’n datblygu’r sgiliau academaidd sydd eu hangen ar gyfer gweithrediad llwyddiannus eich prosiect ymchwil. Drwy gydol eich prosiect PhD, byddwch yn cael eich arwain i baratoi eich hun ar gyfer gyrfa academaidd lwyddiannus, yn ogystal ag i ennill sgiliau a gwybodaeth ar gyfer gyrfaoedd anacademaidd, gan gynnwys datblygu perthnasoedd sy’n canolbwyntio ar ddiwydiant a gweithgareddau cydweithio. Cefnogir myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig i ddatblygu sgiliau cyhoeddi a chyhoeddi ymchwil academaidd yn annibynnol neu ar y cyd â'u goruchwylwyr.
Mae'r ysgol hefyd yn darparu cyfleoedd addysgu â thâl i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn ei rhaglenni israddedig ac MSc ac yn cefnogi myfyrwyr ôl-raddedig i ennill cymwysterau addysgu.
Bydd gennych hefyd fynediad at Dîm Academi Doethurol a Gwasanaeth Gyrfaoedd ymroddedig sy'n darparu hyfforddiant a datblygiad sgiliau rhagorol ymhellach ac a fydd yn cefnogi eich datblygiad proffesiynol trwy gydol eich taith PhD a thu hwnt. Ochr yn ochr â hyfforddiant ymchwil disgyblaeth-benodol, mae’r Academi Ddoethurol hefyd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau cymunedol rhyngddisgyblaethol sy’n helpu ein hymchwilwyr PhD i gysylltu â myfyrwyr a staff ymchwil eraill yn eich carfan, disgyblaeth, ysgol a choleg.
Mae pob myfyriwr ymchwil ôl-raddedig (gan gynnwys hunan-gyllidol a rhan-amser) yn cael cyllideb ymchwil bersonol (£750 y flwyddyn ar hyn o bryd) y gellir ei defnyddio yn unol ag anghenion ymchwil, TG neu hyfforddiant unigol. At hynny, rydym yn darparu grantiau ymchwil ychwanegol, ar sail gystadleuol, ar gyfer cymryd rhan mewn cynadleddau rhyngwladol. Mae'r gronfa gynadleddau yn cael ei hunanreoli gan gymuned ymchwil ôl-raddedig yr ysgol.
Neilltuir swyddfeydd a rennir i ymchwilwyr PhD yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio yn Adeilad Morgannwg (rhestredig gradd I) ac mae gan bob myfyriwr amser llawn ddesg a Chyfrifiadur Personol pwrpasol.
Mae gan y Brifysgol amrywiaeth o gyfleusterau ymchwil a llyfrgelloedd rhagorol, yn ogystal â chyfleusterau cymdeithasol, astudio, chwaraeon a hamdden rhagorol.
Cymorth ar gyfer anableddau
Mae cymorth a chyngor ymarferol i fyfyrwyr ac ymgeiswyr presennol ar gael gan y Gwasanaeth Anabledd Myfyrwyr. I gael rhagor o wybodaeth, ebostiwch Cyswllt Myfyrwyr.
Ffeithiau allweddol
Math o astudiaeth | Amser llawn, rhan amser |
---|---|
Cymhwyster | PhD |
Hyd amser llawn | PhD 3 neu 4 blynedd |
Hyd rhan-amser | PhD 5-7 blynedd |
Derbyniadau | Ebrill, Hydref |
Rydym wedi ennill cydnabyddiaeth gan ESRC ar gyfer rhaglenni 1+3 a +3 PhD.
Felly, gall myfyrwyr PhD blwyddyn gyntaf ennill y cyfle i ymgymryd â chynllun astudio sy’n uniongyrchol gysylltiedig â hyfforddiant ymchwil mewn cynllunio, yr amgylchedd a thai.
Bydd disgwyl i fyfyrwyr PhD y flwyddyn gyntaf (gan ddibynnu ar ddysgu a phrofiad blaenorol) ymgymryd â rhai neu’r cyfan o’r MSc mewn Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol. Mae llwybrau unigryw drwy’r cwrs mewn cynllunio, tai, cynaliadwyedd, trafnidiaeth ac adfywio ar gael.
Mae cyfres o swyddfeydd a rennir ar gael ar gyfer myfyrwyr PhD ar mae gan bob myfyriwr llawn amser fynediad at gyfleusterau cyfrifiadurol.
Fel yr adran brifysgol Daearyddiaeth a Chynllunio fwyaf yn y DU, mae gennym dros 60 o staff academaidd llawn amser gydag ystod eang o arbenigeddau ac arbenigedd i oruchwylio eich prosiect PhD. Cafodd yr ysgol ei chydnabod yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 y Llywodraeth yn y 9fed safle yn y DU ar gyfer grym ymchwil, gan adlewyrchu graddfa, cwmpas a chryfder ein hymchwil a'n heffaith.
Mae myfyrwyr doethurol yn cynrychioli rhan bwysig o’n cymuned ymchwil ac maent wedi’u gwreiddio’n llawn ym mywyd ymchwil yr ysgol trwy aelodaeth weithredol yn ein grwpiau ymchwil a chyfrannu at ddiwylliant ymchwil yr ysgol. Mae ein hystod eang o ddigwyddiadau effaith ac ymgysylltu yn rhoi cyfoeth o gyfleoedd i fyfyrwyr gyflwyno, gwrando, dadlau,
darllen, dysgu gan a chwrdd ag eraill mewn amgylchedd cefnogol. Caiff gwaith ymchwil ei drefnu mewn pedwar prif grŵp gyda nifer o ganolfannau ymchwil trawsbynciol.
Diwylliant
Mae Grŵp Ymchwil yr Amgylchedd yn glwstwr mawr o ddaearyddwyr dynol a chynllunwyr sydd â diddordeb mewn deall a datrys heriau amgylcheddol byd-eang cyfoes. Mae pryderon allweddol aelodau’r grŵp yn amrywio o newid hinsawdd a diogelwch bwyd i ynni adnewyddadwy a seilwaith gwyrdd, drwodd i ddatblygu gwledig, bioddiogelwch a systemau bwyd cynaliadwy, trawsnewidiadau ynni a llywodraethu amgylcheddol ôl-Brexit. Mae ymchwilwyr yn defnyddio dulliau damcaniaethol blaengar o ddaearyddiaeth ddynol, astudiaethau gwyddoniaeth a thechnoleg ac ecoleg wleidyddol, ac yn defnyddio ystod o ddulliau methodolegol megis dulliau ethnograffig, cyfranogol ac ôl troed ecolegol.
Daearyddiaeth Gymdeithasol a Diwylliannol (SCGRG)
Mae gan yr ysgol un o’r grwpiau mwyaf o ddaearyddwyr cymdeithasol a diwylliannol yn y DU, ac mae gan SCGRG hanes sefydledig o wneud cyfraniadau damcaniaethol i ddamcaniaethau ffeministaidd, Marcsaidd, ôl-drefedigaethol, pragmataidd, ôl-strwythurol a ‘mwy na chynrychioliadol’, a chyfuno hyn ag ysgolheictod ac effaith gymdeithasol. Mae ymchwil SCGRG yn mynd i'r afael ag ystod eang o bynciau, gan gynnwys, economïau platfform; bwydo ar y fron; boneddigeiddio; Masnach Deg; tai a digartrefedd; cyffuriau ac alcohol; beicio; banciau bwyd; lles y sector gwirfoddol; crefydd ac ysbrydolrwydd; syrffio; ffasiwn; cerddoriaeth; hiwmor; dawns; rhyngweithiadau rhwng anifeiliaid a phobl; a rhandiroedd a gerddi cymunedol.
Bydoedd Economaidd a Gwleidyddol (EPW)
Mae’r grŵp hwn yn hyrwyddo trafodaeth ddamcaniaethol ar natur gofodau trefol, rhanbarthol a dinas-ranbarthol, a sut y cânt eu siapio a’u trawsnewid gan amrywiol actorion a phrosesau cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd ac amgylcheddol. Mae aelodau EPW wedi gwneud cyfraniadau damcaniaethol, methodolegol a pholisi allweddol i ddeall yr economi sylfaenol; diogelwch ynni a dŵr; gwrthffasgaeth; anffurfioldeb, datblygu economaidd ac adfywio; ecosystemau arloesi ac entrepreneuraidd; rhwydweithiau cynhyrchu byd-eang; ymatebion corfforaethol i Brexit; llymder a llywodraethu lleol; a daearyddiaethau amrywiol lles a'r sector gwirfoddol.
Canolfannau ymchwil
Mae'r ysgol hefyd yn chwarae rhan fawr mewn sawl Canolfan Ymchwil a Sefydliad Ymchwil. Mae’r rhain yn cynnig llwyfan ar gyfer rhaglenni ymchwil trawsddisgyblaethol pwysicach drwy gyfuno diddordebau sawl grŵp ymchwil a chysylltu ag Ysgolion eraill yn y Brifysgol.
- Clwstwr Ymchwil Daearyddiaeth Anifeiliaid
- Canolfan Ymchwil i’r Amgylchedd, Cymdeithas a Gofod
- Canolfan Ymchwil Tsieina-DU ar gyfer Eco-Ddinasoedd a Datblygu Cynaliadwy
- Canolfan Ymchwil Dinasoedd
- Clwstwr Ymchwilio i Ynni
- Arsyllfa Ymchwil Anffurfioldeb
- Canolfan Ymchwil Arsyllfa Mannau Cyhoeddus
- Y Sefydliad Ymchwil Dŵr
- Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD)
- Y Ganolfan Ymchwil i Fwyd Trefol a Rhanbarthol Cynaliadwy (SURF)
- Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol
Effaith ac Ymgysylltu
Ochr yn ochr â chysylltiadau a chydweithrediadau lluosog â phartneriaid diwydiannol, ymgynghori a busnes, mae ein staff a’n cymuned PhD wedi ymrwymo i ymchwil sy’n ymgysylltu’n gymdeithasol â llunwyr polisi, ymarferwyr a grwpiau cymunedol. Mae gennym hanes cryf o weithio gyda’r Cenhedloedd Unedig (ar bolisi bwyd trefol; dinasoedd carbon isel; tai cynaliadwy a’r economi anffurfiol drefol), yr Undeb Ewropeaidd (er enghraifft, llunio deddfwriaeth ar les anifeiliaid; polisi arloesi rhanbarthol), a llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig (er enghraifft, ar y rhwystrau cymdeithasol sy’n wynebu mamau sy’n bwydo ar y fron; gwasanaethu fel Comisiynwyr ac aelodau Panel Adolygu Annibynnol Llywodraeth Cymru ar faterion trafnidiaeth ac ansawdd aer; helpu i amddiffyn hawliau lleiafrifoedd crefyddol yn y system gynllunio; darparu cymorth i Bolisi Bwyd Cenedlaethol Cymru a Chynllun Datblygu Gwledig Cymru, Polisi Caffael Cyhoeddus Cenedlaethol yr Alban a rheolaeth DEFRA o glefydau anifeiliaid a bioddiogelwch; a dod â newid deddfwriaethol yng Nghymru a oedd yn gwella canlyniadau llety yn sylweddol i bobl ddigartref). Mae ymchwilwyr hefyd yn cymryd rhan yn lleol fel rhan o genhadaeth ddinesig y Brifysgol: er enghraifft, gwella mannau addysg awyr agored a chyfeillgar i blany yn Grangetown; caffael bwyd a chydweithfeydd bwyd; a datblygu Dinas-ranbarth Caerdydd drwy brosiect Metro De Cymru.
Yn ogystal â chefnogaeth benodol gan ein Huned Effaith ac Ymgysylltu, mae'r ysgol yn cynnull Grŵp Ymchwil a chyfres seminarau ysgol gyfan. Mae'r rhain yn rhoi cyfle i ymwelwyr rhyngwladol, academyddion a gwleidyddion allweddol a llunwyr polisi drafod yr ymchwil ddiweddaraf a throsi hyn yn bolisi ac yn ymarfer.
Gallwch weld yr holl wybodaeth am y digwyddiadau sydd ar y gweill yma.
Arian
Mae ysgoloriaethau ymchwil cystadleuol a ariennir
- Ysgoloriaethau ymchwil yr AHRC mewn Daearyddiaeth Ddiwylliannol
- Cyngor Ysgoloriaeth Tsieina
- Cyllid y Gymanwlad
- Ysgoloriaethau Cyffredinol DTP ESRC Cymru
- Dyfarniadau Cydweithredol DTP Cymru ESRC
- Ysgoloriaethau ymchwil sy'n gysylltiedig â phrosiectau ymchwil penodol
Benthyciadau a grantiau
- Sefydliad James Pantyfedwen
- Benthyciadau doethurol Llywodraeth y DU
- Canllaw Amgen i Gyllid Ôl-raddedig
Edrychwch ar ein prosiectau a'n hysgoloriaethau PhD diweddaraf a chael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ariannu eraill.
Ffioedd dysgu
Myfyrwyr o'r DU
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.
Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)
Gofynion academaidd
Fel rheol, dylai ymgeiswyr feddu ar radd Baglor Dosbarth Cyntaf neu Ail Ddosbarth Uchaf (neu gymhwyster rhyngwladol cyfatebol) neu radd Meistr mewn daearyddiaeth ddynol, cynllunio neu ddisgyblaeth gwyddor gymdeithasol gysylltiedig, gydag isafswm gradd gyfartalog o 60% yn unedau'r cwrs a addysgir a'ch traethawd hir. (neu gyfwerth rhyngwladol o 60%).
Gofynion Iaith Saesneg
Byddwn ni’n chwilio am y safon hon: isafswm sgôr cyffredinol o 6.5 yn IELTS, o leiaf sgôr o 7.0 yn yr adran ysgrifennu, a sgôr o ddim llai na 6.0 yn yr adrannau eraill. Sgoriau lleiafswm prawf TOEFL - o leiaf 100 yn gyffredinol, 25 yn ysgrifenedig, ac o leiaf 20 ym mhob is-sgil.
Darllenwch ein Gofynion Iaith Saesneg am ragor o wybodaeth.
Mae mynediad yn cynnwys sawl cam. I ddechrau, mae angen i ymgeiswyr gyflwyno cynnig ymchwil o 1000 o eiriau a datganiad personol heb fod yn fwy na 500 gair. Dylid anfon y rhain at y tîm Derbyn Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig: Ruth Leo ac Patricia Aelbrecht. Os bydd yn llwyddiannus ar y cam hwn, gwahoddir yr ymgeisydd i ddarparu pecyn llawn o ddogfennau sy'n cynnwys tystysgrifau gradd, llythyrau argymhelliad, CV a chymwysterau iaith Saesneg ar y porth ar-lein.
Y cynnig ymchwil, a ddylai gynnwys y canlynol:
- disgrifiad o nodau ymchwil, arwyddocâd, gwreiddioldeb ac amseroldeb
- y prif gwestiynau ymchwil y byddwch yn eu gofyn
- ymagwedd ddamcaniaethol a throsolwg beirniadol o lenyddiaeth academaidd berthnasol
- dyluniad/dulliau arfaethedig
- ystyriaethau moesegol
Ni ddylai’r cynnig fod yn hwy na 1000 o eiriau (ac eithrio ystyriaethau a chyfeiriadau moesegol).
Datganiad personol
Mae'n ofynnol i ddarpar ymgeiswyr nodi'r graddau o "ffit" rhwng eu hymchwil arfaethedig ac un neu fwy o grwpiau ymchwil yr ysgol. Rhaid i ymgeiswyr nodi dau oruchwyliwr posibl a chael cytundeb goruchwylio dros dro gan o leiaf un ohonynt cyn gwneud cais. Mae manylion cyhoeddiadau diweddar, prosiectau parhaus a diddordebau ymchwil penodol ein staff i gyd ar gael yma.
Sut caiff eich cais ei ystyried
Adolygir ceisiadau yn ôl y meini prawf canlynol, gan gynnwys:
- argaeledd 2 oruchwylydd priodol;
- gwreiddioldeb, perthnasedd a chryfder eich cynnig ymchwil;
- Cymwysterau academaidd a/neu brofiad proffesiynol perthnasol.
Ein nod yw prosesu pob cais o fewn chwe wythnos a byddwn yn cysylltu â chi gyda'n penderfyniad cyn gynted â phosibl. Caiff cynigion eu hadolygu gan arbenigwr yn y maes. Efallai y bydd gofyn i chi fynychu cyfweliad wyneb yn wyneb neu ar Zoom. Ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol sy'n dymuno dechrau ym mis Hydref, cyflwynwch eich cais erbyn diwedd mis Mai i ganiatáu amser i brosesu cais am fisa.
Cydrabboldeb ac Amrywiaeth
Fel Ysgol rydym wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Er mwyn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau hanesyddol a pharhaus mewn Addysg Uwch, rydym yn ceisio cynyddu'r nifer sy'n recriwtio grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd. Anogir a chroesewir yn arbennig geisiadau gan ymgeiswyr Du/Du Prydeinig, Asiaidd/Asiaidd Prydeinig ac o leiafrifoedd ethnig.
Cyswllt
Cyswllt/Cysylltiadau Academaidd
Dr Patricia Lopes Simoes Aelbrecht
Uwch Ddarlithydd mewn Dylunio Trefol, Cynllunio ac Astudiaethau Rhyngddiwylliannol
- aelbrechtp@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 5735