Llenyddiaeth Saesneg
Mae'r rhaglen PhD mewn Llenyddiaeth Saesneg yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ôl-raddedig wneud cyfraniad gwreiddiol at wybodaeth yn eu dewis faes astudio a dod yn rhan o gymuned ymchwil ffyniannus sy'n adnabyddus yn rhyngwladol.
Rydym yn croesawu ceisiadau am ymchwil ar draws yr ystod gronolegol a damcaniaethol o Lenyddiaeth Saesneg.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu goruchwylio gan staff academaidd sy'n gweithio o flaen y gad yn eu meysydd ac yn arwain trafodaeth yn amgylcheddau'r ddisgyblaeth sy'n newid yn barhaus.
Anogir myfyrwyr doethurol i wthio y tu hwnt i ffiniau mannau cyffredin critigol, i feddwl yn wahanol ac i gymryd rhan lawn ym mywyd deallusol cyfoethog yr Ysgol. Yn ogystal â gweithio'n agos gyda goruchwyliwr, neu oruchwylwyr ymroddedig, gall myfyrwyr ddatblygu eu prosiectau yng nghyd-destun diwylliant ymchwil rhyngddisgyblaethol deinamig sydd ag adnoddau da.
Nodau'r rhaglen
Pen draw’r PhD mewn Llenyddiaeth Saesneg yw darn cyson o waith ysgrifenedig sy'n gwneud cyfraniad gwreiddiol at wybodaeth a dealltwriaeth mewn maes astudio dewisol. Mae myfyrwyr PhD llwyddiannus yn cael eu hyfforddi yn yr arferion beirniadol a damcaniaethol mwyaf soffistigedig i baratoi ar gyfer gyrfa mewn Addysg Uwch neu gyflogaeth broffesiynol sydd angen sgiliau ymchwil uwch a gwybodaeth am bynciau ar y lefel uchaf.
Rydyn ni’n gwerthfawrogi profiad cyfoethog ein nifer o fyfyrwyr tramor, ac yn darparu ar gyfer eu hanghenion penodol o ran cyd-destun diwylliannol eu hastudio, gyda chymorth Canolfan Datblygu Ysgrifennu’r Ysgol, a gofynion ysgrifennu’n gain mewn ail iaith.
Nodweddion unigryw
- Diwylliant ymchwil rhyngddisgyblaethol deinamig a chefnogol sy'n cysylltu bywiogrwydd lleoliad llenyddol a diwylliannol Caerdydd â chyd-destunau rhyngwladol ehangach y ddisgyblaeth
- Hyfforddiant i ddatblygu a gwella sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn cynyddu eu cyflogadwyedd, ym maes Addysg Uwch neu y tu allan iddo, mewn marchnad swyddi sy'n gynyddol gystadleuol
- Mynediad at ystod amrywiol o gyfleoedd hyfforddiant ymchwil a datblygu proffesiynol, gan gynnwys rhaglen hyfforddi generig a gweithdy traethawd ymchwil sy'n gyfle i fyfyrwyr gyflwyno gwaith sy’n mynd rhagddo
- Mynediad at gyfres bwrpasol o ystafelloedd ymchwil
- Cyfleoedd addysgu i raddedigion ar y radd israddedig ar gais wrth i gyfleoedd o'r fath godi, gyda chymorth gan Academi Dysgu ac Addysgu'r Brifysgol trwy'r Rhaglen Cymrodoriaeth Gyswllt ar gyfer y rhai sy'n ymgymryd â rolau tiwtora i raddedigion.
- Gall myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig wneud cais am gyllid Ysgol i fynychu cynadleddau academaidd a/neu gynnal ymweliadau archifol/llyfrgell.
Ffeithiau allweddol
Math o astudiaeth | Amser llawn, rhan amser |
---|---|
Cymhwyster | PhD, MPhil |
Hyd amser llawn | 3 blynedd (PhD), 1 flwyddyn (MPhil) |
Hyd rhan-amser | 5 mlynedd (PhD), 2 flynedd (MPhil) |
Derbyniadau | Ionawr, Ebrill, Hydref |
Sgiliau a ddatblygwyd
Yn ogystal â gweithio'n agos gyda goruchwyliwr, mae myfyrwyr doethuriaeth yn mynychu gweithdy traethawd ymchwil wythnosol, sy'n cynnig hyfforddiant ymchwil sy'n benodol i ddisgyblaeth yn ogystal â chyfleoedd i rannu gwaith ar y gweill gyda myfyrwyr eraill.
Mae'r gweithdai'n cael eu cynnal ochr yn ochr â'r rhaglen hyfforddiant ymchwil a sgiliau proffesiynol integredig, sy'n cynnwys sgiliau rheoli gyrfa, a gynigir gan yr Academi Ddoethurol.
Asesiad
Asesir y PhD drwy gyflwyno traethawd ymchwil o 80,000 o eiriau ac arholiad viva voce.
Asesir y PhD drwy gyflwyno traethawd ymchwil o 50,000 o eiriau ac arholiad viva voce.
‘Rwy’n cael fy nharo’n arbennig gan ein diddordeb cyffredin yn yr hyn sy’n digwydd mewn traddodiadau, methodolegau, dulliau damcaniaethol, disgyblaethau ac arferion gwahanol. Mae’n rhoi mynediad arbennig i Gaerdydd i ymchwil arloesol sy’n ennyn cwestiynau newydd a chyffrous drwy’r amser ar gyfer ein staff, drwy oruchwyliaeth PhD a’n haddysgu dan arweiniad ymchwil, yn ogystal â’n myfyrwyr ar bob lefel.’ (Yr Athro Ann Heimann, Cyfarwyddwr Ymchwil yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth)
Amgylchedd ymchwil
Mae’r Ysgol wedi llwyddo i gipio’r 4ydd safle yn y DU am effaith ymchwil a’r 5ed safle o ran pŵer ymchwil ym maes Iaith a Llenyddiaeth Saesneg (REF2021). Mae darparu profiad goruchwylio o safon, hyfforddiant ymchwil lefel uwch a mynediad at yr adnoddau sydd eu hangen i helpu pob myfyriwr i ffynnu'n ddeallusol a gweithio'n gynhyrchiol yn sail i ymrwymiad yr Ysgol i ddatblygiad deallusol a phroffesiynol ei myfyrwyr ôl-raddedig.
Ceir tystiolaeth o fywiogrwydd cymuned ymchwil Llenyddiaeth Saesneg gan yr ystod amrywiol o glystyrau ymchwil: diwylliannau digidol; diwylliannau gweledol; rhywedd a rhywioldeb a diwylliannau Cymreig.
Yn ogystal, mae'r Ysgol yn cynnal cynhadledd ymchwil flynyddol dan arweiniad myfyrwyr ar gyfer ôl-raddedigion sy'n gweithio mewn Llenyddiaeth Saesneg, Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol, Theori ac Athroniaeth Beirniadol a Diwylliannol, a'r nod yw meithrin sgyrsiau rhyngddisgyblaethol a gwella sgiliau ymchwil a chyflogadwyedd unigol myfyrwyr.
Mae Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol yn cynnwys casgliadau sylweddol ym mhob un o'n meysydd pwnc, ynghyd ag adnoddau electronig helaeth. Mae hefyd yn gartref i Gasgliadau ac Archifau Arbennig , sy'n dal casgliadau arbenigol, megis Llyfrau Prin Caerdydd (casgliad o dros 14,000 o eitemau sy'n amrywio o incunabula o'r bymthegfed ganrif i lyfrau gwasg gain yr ugeinfed ganrif), yn ogystal â deunyddiau sy'n ymwneud â Datganoli, Dwyrain a Chanol Ewrop, y Rhyfel Byd Cyntaf, Darluniau, Hanes llafur, Llenyddiaeth a diwylliant Cymru, Dewiniaeth, Hanes Menywod ac Astudiaethau Rhyw, Hanes Meddygaeth a Gwyddoniaeth—a llawer mwy.
Prosiectau ymchwil
Rydym yn cynnig goruchwyliaeth arbenigol ar draws amrywiaeth damcaniaethol a chronolegol ddisgyblaeth, gyda chryfderau penodol yn y meysydd canlynol:
- Llenyddiaeth Affricanaidd-Americanaidd
- hanes llyfrau
- llenyddiaeth plant
- theori feirniadol a diwylliannol
- hanes diwylliannol
- dyniaethau digidol
- theori ac ymarfer golygu
- ysgrifennu arbrofol
- ffilm ac addasu
- rhyw ac astudiaethau rhywioldeb
- gothig
- hanesyddoliaeth (neo-Elisabethaidd, neo-ganoloesol, neo-Fictoraidd, gwrth-Ramantaidd)
- astudiaethau darlunio
- hanes llenyddol
- llenyddiaeth y ddeunawfed ganrif hir
- llenyddiaeth a’r amgylchedd
- llenyddiaeth a'r gyfraith
- llenyddiaeth a gwyddoniaeth
- llenyddiaeth a chaethwasiaeth o 1760 hyd heddiw
- diwylliant llawysgrif
- dyniaethau meddygol
- astudiaethau llenyddol a diwylliannol canoloesol (gan gynnwys bywyd tragwyddol)
- drama fodern
- llenyddiaeth fodernaidd
- lenyddiaeth Hen Norseg-Islandeg a Hen Saesneg
- llenyddiaeth ôl-drefedigaethol
- llenyddiaeth ôl-fodernaidd
- llenyddiaeth dadeni
- llenyddiaeth ramantus
- Shakespeare
- Llenyddiaeth Fictoraidd a neo-Fictoraidd
- diwylliant gweledol
- ysgrifennu Cymreig yn Saesneg
- ysgrifennu gan fenywod a hanes llenyddol menywod.
Swyddi: Awdur, Darlithydd, Golygydd, Pennaeth, Athro EFL, Athro Saesneg, Darlithydd, Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus.
Cyflogwyr: Prifysgolion o Cork (Iwerddon) i Wladwriaeth Wisconsin (UDA), Gwasg Prifysgol Rhydychen, Penguin Random House, Palgrave MacMillan, Ysgol Ffilm Llundain, Virgin Media, Llenyddiaeth Cymru, Croeso Cymru.
Cyflogwyr: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Ysgol Ffilm Llundain, Palgrave MacMillan, Prifysgolion o Cork (Iwerddon) at Wladwriaeth Wisconsin (UDA), Virgin Media, Llenyddiaeth Cymru, Croeso Cymru
Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth
Gallai ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol fod yn gymwys i wneud cais am fenthyciad doethuriaeth ôl-raddedig gan Lywodraeth y DU..
Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaethArian
Edrychwch ar ein prosiectau a'n hysgoloriaethau PhD diweddaraf a chael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ariannu eraill.
Ffioedd dysgu
Myfyrwyr o'r DU
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.
Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)
Rydym yn croesawu ceisiadau gan raddedigion gydag o leiaf 2.1 mewn Llenyddiaeth Saesneg (a/neu ddisgyblaeth berthnasol) ac MA mewn Llenyddiaeth Saesneg (a/neu ddisgyblaeth berthnasol).
Gofynion Iaith Saesneg
Mae'r Ysgol yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr y tu allan i'r Deyrnas Unedig. Yn achos y rhai nad yw Saesneg yn famiaith iddynt, mae sgôr gyffredinol IELTS o 7.5 gydag o leiaf 7.0 ym mhob is-sgôr yn hanfodol.
Darllenwch ein Gofynion Iaith Saesneg am ragor o wybodaeth.
Canllaw cam wrth gam i'r brosesymgeisio.
Cynnig ymchwil
Dylid cyflwyno cynnig ymchwil, tua 1,000 gair ar y mwyaf, gyda cheisiadau graddau ymchwil. Dylai hyn gynnwys teitl drafft a sefydlu amcanion allweddol o ran y cwestiynau ymchwil sylfaenol yr ydych yn bwriadu mynd i'r afael â hwy.
Dylai'r cynnig hefyd leoli eich gwaith mewn perthynas â maes ehangach yr ysgoloriaeth bresennol; rhoi ymdeimlad cychwynnol o'r cyfraniad gwreiddiol rydych yn gobeithio ei wneud a rhoi syniad o'ch methodoleg ymchwil arfaethedig. Dylid atodi llyfryddiaeth ragarweiniol o ffynonellau allweddol disgwyliedig hefyd.
Yn ogystal â’r ffurflen gais, y cynnig ymchwil a’r dogfennau ategol, rydym hefyd yn gofyn am draethawd ar bwnc llenyddol o’ch dewis (tua 4,000 o eiriau, yn Saesneg).
Argymhellir eich bod yn anfon e-bost at y gweinyddwr ôl-radd trwy encap-pg@caerdydd.ac.uk gyda’ch cynnig ymchwil cyn gwneud cais ffurfiol.
Rhagor o fanylion am sut rydych yn ysgrifennu eich cynnig ymchwil.
Y broses dderbyn
Mae Cyfarwyddwr Rhaglen Ymchwil Ôl-raddedig mewn Llenyddiaeth Saesneg yn asesu pob cais, gan ystyried ansawdd a dichonoldeb y prosiect ymchwil, yn ogystal â gallu'r staff i'w oruchwylio. Bydd hyn yn cynnwys ymgynghori â goruchwylwyr posibl. Yna, gwahoddir ymgeiswyr sy'n pasio'r cam asesu cychwynnol am gyfweliad.
Cyswllt
Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol
Derbyniadau Ôl-raddedig ENCAP
Cyswllt gweinyddol