Theori Feirniadol a Diwylliannol
Mae myfyrwyr ar y cwrs PhD Theori Feirniadol a Diwylliannol yn derbyn goruchwyliaeth gan staff ac academaidd gydag ymrwymiad hirdymor i ragoriaeth ac amrywiaeth mewn ymchwil, sy’n gweithio ar flaen y gad o ran ymchwil arloesol mewn theori feirniadol a diwylliannol.
Nodau'r rhaglen
Nod y rhaglen PhD yw cynnig gwybodaeth ac arbenigedd i fynd â chi at rôl mewn Addysg Uwch, neu gyflogaeth sy’n gofyn am sgiliau lefel uwch mewn ymchwil neu wybodaeth pwnc uwch.
Nodweddion unigryw
- Mae gan yr Ysgol ddiwylliant ymchwil rhyngddisgyblaethol deinamig gydag amrywiaeth o gyfresi seminar;
- Mae'r Ysgol yn cynnig dewis eang o gyfleoedd hyfforddi ymchwil, gan gynnwys gweithdy traethawd hir a grwpiau darllen;
- Mae myfyrwyr PhD parhaus yn mynychu grŵp darllen bob pythefnos a sesiwn hyfforddiant sgiliau wythnosol;
- Anogir myfyrwyr PhD i gyhoeddi;
- Mae gan yr Ysgol ystafell bwrpasol ar gyfer ei myfyrwyr ymchwil gyda chyfleusterau cyfrifiadura, gwybodaeth rhwydweithiol a mynediad at e-bost a’r rhyngrwyd;
- O’u hail flwyddyn, mae myfyrwyr yn cael y cyfle i addysgu ar raglenni gradd israddedig yr Ysgol, a chael sesiynau mentora gan aelod llawn amser o staff;
- Mae’r Ysgol yn gwneud cyllid ar gael bob blwyddyn i fyfyrwyr ôl-raddedig sy’n dymuno mynychu cynadleddau neu ymgymryd ag ymweliadau llyfrgell neu archifdy sy’n ymwneud â’u hastudiaethau PhD.
Ffeithiau allweddol
Math o astudiaeth | Amser llawn, rhan amser |
---|---|
Cymhwyster | PhD, MPhil |
Hyd amser llawn | PhD 3 mlynedd, MPhil 1 flwyddyn |
Hyd rhan-amser | PhD 5 mlynedd, MPhil 2 flynedd |
Derbyniadau | Ionawr, Ebrill, Gorffennaf, Hydref |
“Wedi’u lleoli ar ryngwyneb traddodiadau, methodolegau, dulliau damcaniaethol, disgyblaethau ac arferion gwahanol, mae ein hymchwil arloesol yn ennyn cwestiynau heriol a difyr ar gyfer ein staff a, thrwy ein goruchwyliaeth PhD a’n addysgu’n seiliedig ar ymchwil hefyd ar gyfer ein myfyrwyr ar bob lefel.” Yr Athro Alison Wray, Cyfarwyddwr Ymchwil yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth
Mae ymchwil yr Ysgol yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol am ei ragoriaeth ac roedd ymhlith y deg uchaf am ansawdd ei hymchwil Saesneg Iaith a Llenyddiaeth, gan gynnwys Ysgrifennu Creadigol, yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF2014) diweddaraf).
Yn ddiweddar mae Prifysgol Caerdydd wedi ymuno â 100 o brifysgolion uchaf y byd ar gyfer astudio Saesneg Iaith a Llen yn Sgorau Prifysgolion y Byd QS 2016.
Rydym yn croesawu ceisiadau PhD ym meysydd arbenigol staff, megis y canlynol:
- Marcsiaeth Critigol
- Hanes Diwylliannol
- Dadadeiladu
- Astudiaethau Deleuze
- Theori digidol ac astudiaethau gêm
- Eco-ddyniaethau
- Rhywedd, rhywioldeb a hunaniaeth
- Estheteg yr Almaen ac Ysgol Frankfurt
- Ôl-drefedigaethedd, Cenedl a diwylliant
- Ôl-foderniaeth
- Ôl-ddyneiddiaeth
- Damcaniaethau am y llenyddol
- Astudiaethau trawma a’r cof.
Goruchwylwyr
Mae rhagor o wybodaeth am staff a’u meysydd ymchwil ar gael ar wefan yr Ysgol.
Amgylchedd ymchwil
Mae’r Ysgol yn cymryd hyfforddiant ein myfyrwyr ymchwil o ddifrif calon a chynigiwn gyfleusterau ac arweiniad goruchwylio i helpu pob myfyriwr i ffynnu’n ddeallusol ac i weithio’n gynhyrchiol. Mae gan yr Ysgol gyfres bwrpasol o ystafelloedd ymchwil PhD gyda chyfleusterau rhwydweithio TG rhagorol. Mae gan bob myfyriwr gyllideb teithio a chyfraniad at gostau llungopïo, yn ogystal â chyfleusterau argraffu rhad ac am ddim. Rydym yn gwirio gyda’n myfyrwyr yn rheolaidd pa hyfforddiant maen nhw ei angen, ac yn sicrhau ei fod yn cael ei ddarparu. Gall ein myfyrwyr PhD wneud cais i gael profiad addysgu gyda ni, ac mae ein rhaglen ‘Dysgu Addysgu’ wedi’i achredu gan yr Academi Addysg Uwch. Mae’r Ysgol yn cynnal cynhadledd flynyddol i alluogi myfyrwyr PhD gael y cyfle i rannu eu gwaith gyda’u cyfoedion mewn amgylchedd cefnogol ac aml-ddisgyblaethol. Mae Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol yn llawn llyfrau a chyfnodolion academaidd yn ein holl feysydd pwnc, adnoddau electronig, a chasgliadau arbenigol fel Llyfrau Prin Caerdydd, casgliad cyfoethog o dros 14,000 o eitemau sy’n amrywio o incwnabwla o’r bymthegfed ganrif i lyfrau cain yr ugeinfed ganrif.
Mewn marchnad swyddi gystadleuol, anogir a chefnogir ein myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau fydd yn eu gwneud yn gyflogadwy, beth bynnag fo eu cyfeiriad gyrfa. Rydym yn gwerthfawrogi profiad cyfoethog ein nifer o fyfyrwyr tramor, ac yn darparu ar gyfer eu hanghenion penodol o ran cyd-destun diwylliannol astudiaeth a gofynion ysgrifennu’n gain mewn ail iaith.
Swyddi: Golygydd, Athro EFL, Athro Saesneg, Darlithydd, Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus, Awdur, Pennaeth
Cyflogwyr: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Ysgol Ffilm Llundain, Palgrave MacMillan, Prifysgolion o Cork (Iwerddon) at Wladwriaeth Wisconsin (UDA), Virgin Media, Llenyddiaeth Cymru, Croeso Cymru
Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth
Gallai ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol fod yn gymwys i wneud cais am fenthyciad doethuriaeth ôl-raddedig gan Lywodraeth y DU..
Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaethArian
Mae’r Ysgol yn cynnig ysgoloriaethau gwerth blwyddyn o’r ffi Cartref/UE ar sail cystadleuol. Cewch ragor o wybodaeth drwy ebostio: encap-pg@caerdydd.ac.uk.
Mae’r Ysgol yn croesawu ymholiadau gan ymgeiswyr sy’n ystyried gwneud cais am gyllid ar gyfer y PhD mewn Theori Feirniadol a Diwylliannol gan Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru a De a Gorllewin Lloegr ar gyfer 2017-2018. Cysylltwch â encap-pg@caerdydd.ac.uk â'ch ymholiad.
Edrychwch ar ein prosiectau a'n hysgoloriaethau PhD diweddaraf a chael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ariannu eraill.
Ffioedd dysgu
Myfyrwyr o'r DU
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.
Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)
Addas i raddedigion y Dyniaethau neu’r Gwyddorau Cymdeithasol. Rhaid wrth radd anrhydedd Dosbarth Cyntaf neu yn Adran Uchaf yr Ail Ddosbarth neu gymhwyster cyfwerth.
Efallai y bydd gofyn i fyfyrwyr nad ydynt wedi cwblhau MA neu gwrs dulliau hyfforddi ymchwil archwilio Modiwlau Theori ar yr MA Llenyddiaeth Saesneg.
Gofynion Iaith Saesneg
Mae'r Ysgol yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr y tu allan i'r Deyrnas Unedig. Ar gyfer siaradwyr Saesneg anfrodorol, mae sgôr gyffredinol IELTS o 7.5 gydag o leiaf 7.0 ym mhob is-sgôr yn hanfodol.
Darllenwch ein Gofynion Iaith Saesneg am ragor o wybodaeth.
Yn ogystal â chwblhau’r ffurflen gais ar-lein, y cynnig ymchwil a’r dogfennau ategol, rydym hefyd yn gofyn am draethawd enghreifftiol o tua 4,000 o eiriau yn Saesneg wedi’i ysgrifennu gennych chi ar unrhyw bwnc llenyddol neu ddiwylliannol o’ch dewis (rhywbeth rydych chi wedi’i gyflwyno o’r blaen ar gyfer eich gradd meistr, er enghraifft). Argymhellir eich bod yn anfon e-bost at y gweinyddwr ôl-radd ar encap-pg@caerdydd.ac.uk gyda’ch cynnig ymchwil a sampl o draethawd cyn gwneud cais ffurfiol.
Cyswllt
Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol
ENCAP Postgraduate Admissions
Administrative contact