Ysgrifennu Creadigol
Mae’r rhaglen PhD mewn Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol ar gyfer myfyrwyr ac awduron sy’n dymuno cwblhau gwaith creadigol sylweddol o ansawdd y gellir eu marchnata. Mae ein cwrs MA mewn Ysgrifennu Creadigol yn sylfaen ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno ymgymryd â PhD.
Mae'r rhaglen PhD yng Nghaerdydd yn addas ar gyfer unigolion sy'n awyddus i ymuno â chymuned ffyniannus o awduron—o nofelwyr a chofyddion i feirdd a sgriptwyr—y mae pob un ohonynt yn rhannu'r diben cyffredin o fod eisiau ymgolli yng nghyfansoddiad darn sylweddol o ymchwil greadigol.
Mae'r rhaglen yn cynnwys elfen hanfodol orfodol lle mae myfyrwyr yn cysylltu'r gwaith creadigol y maent yn ei gynhyrchu i'w gyd-destunau beirniadol a diwylliannol ehangach ac yn gwerthuso'r cyfraniad cysyniadol a damcaniaethol y mae'r gwaith yn ei gynrychioli.
Nodau'r rhaglen
- Mae'r rhaglen PhD wedi'i chynllunio i alluogi myfyrwyr i lunio darn gwreiddiol o waith creadigol—nofel, casgliad o gerddi neu straeon byrion, drama, sgript ffilm, neu waith ffeithiol-greadigol—ynghyd â sylwebaeth feirniadol fyfyriol.
- Mae’r rhaglen yn cynnig gwybodaeth ac arbenigedd i’ch arwain at rôl mewn Addysg Uwch, neu gyflogaeth sy’n gofyn am sgiliau lefel uwch mewn ymchwil neu wybodaeth pwnc uwch.
- Mae'r rhaglen yn recriwtio ystod amrywiol o fyfyrwyr Cartref/UE a Rhyngwladol sydd am gymryd rhan mewn amgylchedd ymchwil a nodweddir gan arbenigedd ymchwil o’r radd flaenaf ym mhob agwedd ar ysgrifennu creadigol.
Nodweddion unigryw
- Mae'r rhaglen PhD yn cynnig cyfres seminar fisol sy'n benodol i fyfyrwyr ymchwil Ysgrifennu Creadigol.
- Mae gan yr Ysgol gyllid ar gael bob blwyddyn i fyfyrwyr PGR sy’n dymuno mynychu cynadleddau neu ymweld â llyfrgelloedd neu archifdai er mwyn cynorthwyo eu hastudiaethau PhD.
- Anogir myfyrwyr i fynychu’r encil awduron blynyddol yn Neuadd Gregynog, tŷ gwledig gyda threftadaeth artistig nodedig sydd wedi’i leoli yng nghefn gwlad godidog canolbarth Cymru.
- Anogir myfyrwyr PhD hefyd i gyhoeddi a gellir gofyn am gyngor gan staff Ysgrifennu Creadigol; y mae pob un ohonynt yn awduron cyhoeddedig.
- Mae gan fyfyrwyr PhD fynediad at ystod amrywiol o gyfleoedd hyfforddiant ymchwil a datblygu proffesiynol, gan gynnwys rhaglen hyfforddi generig a gweithdai rheolaidd sy'n gyfle i fyfyrwyr gyflwyno gwaith sy’n mynd rhagddo
- Mae gan fyfyrwyr PhD fynediad at gyfres bwrpasol o ystafelloedd ymchwil
- Gall myfyrwyr PhD wneud cais am rolau addysgu graddedigion sy’n astudio’r radd israddedig wrth i gyfleoedd o'r fath godi. Mae cymorth gan Academi Dysgu ac Addysgu'r Brifysgol drwy'r Rhaglen Cymrodoriaeth Gyswllt ar gael i'r rheini sy'n ymgymryd â rolau tiwtora graddedigion.
Ffeithiau allweddol
Math o astudiaeth | Amser llawn, rhan amser |
---|---|
Cymhwyster | PhD |
Hyd amser llawn | PhD 3 blynedd |
Hyd rhan-amser | PhD 5 blynedd |
Derbyniadau | Ionawr, Ebrill, Hydref |
Mae ein myfyrwyr PhD mewn Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol yn cynhyrchu gwaith deinamig mewn moddau a ffurfiau sefydledig. Cynhyrchir gwaith ar draws ystod o genres (hybrid) o farddoniaeth arbrofol a straeon byrion i sgriptiau radio a ffilm, nofelau uchelgeisiol a ffeithiol naratif arloesol ac fe'u cefnogir gan oruchwylwyr sy'n academyddion profiadol, cyhoeddedig gydag enw da rhyngwladol sefydledig ac sy’n datblygu. Mae ein myfyrwyr wedi'u hyfforddi ymhellach yn eu gallu i fyfyrio'n feirniadol ar eu gwaith eu hunain. Bydd y cydbwysedd rhwng dadansoddiad hunanfyfyriol o'r elfen greadigol ar y naill law a'r cyd-destun disgyblu a deallusol ehangach ar y llaw arall yn amrywio yn ôl cyfuchliniau pob prosiect doethuriaethol. Er hynny, dylai'r sylwebaeth fod yn ddadansoddiad gwerthusol trylwyr o'r diriogaeth y mae'r gwaith creadigol yn ymyrryd ynddi, ac o'r ffyrdd y cyflawnir yr ymyriad hwnnw.
Ceir enghreifftiau o bynciau PhD diweddar a chyfredol isod:
- ‘Gwener Gwylaidd: Arbrofion mewn Gweld" (Naratif Ffeithiol)
- "Byd o Ymddangosiadau: Diffinio Dull Ôl-Estynnol mewn Byd Barddol Cyfoes"
- “Galar Barddonol: Ysgrifennu Marwolaeth Dibynnwr”
- ‘Cynrychiolaethau o’r Eidal mewn Llenyddiaeth Saesneg’ a nofel
- “Gwraidd a Brigyn: Cyfeiriad yn y Nofel Drefol mewn Ffuglen Gymraeg Gyfoes yn Saesneg”
- 'Y Werin a’r Crachach: Nofel”
- ‘Myth a’i Gofrestriad’ Eiddo Deallusol a Masnachwyr a Nofel
Asesiad
Mae'r rhaglen PhD yn cynnwys paratoi darn gwreiddiol o waith creadigol—ffuglen, ffeithiol, sgript neu sgript sgrîn, casgliad o gerddi neu straeon byrion—a sylwebaeth feirniadol.
Bydd ymgeiswyr ar gyfer PhD Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol yn cyflwyno un o’r canlynol:
- Rhyddiaith: nofel, stori fer, gwaith ffeithiol creadigol neu ddrama/sgript ar gyfer ffilm; ni fydd y sylwadau beirniadol a’r darn creadigol fel arfer yn fwy na 100,000 o eiriau. Ni fydd y sylwadau beirniadol yn llai na 20,000 o eiriau.
- Barddoniaeth: tua 60 tudalen o gasgliad o gerddi, rhyddiaith barddoniaeth neu ficro-ffuglen, gyda sylwadau beirniadol heb fod yn llai na 20,000 o eiriau.
- Cais Creadigol-Critigol integredig sydd heb fod yn fwy na 100,000 o eiriau.
“Wedi’u lleoli ar ryngwyneb traddodiadau, methodolegau, dulliau damcaniaethol, disgyblaethau ac arferion gwahanol, mae ein hymchwil arloesol yn ennyn cwestiynau heriol a difyr ar gyfer ein staff a, thrwy ein goruchwyliaeth PhD a’n addysgu’n seiliedig ar ymchwil hefyd ar gyfer ein myfyrwyr ar bob lefel.” Yr Athro Ann Heilmann, Cyfarwyddwr Ymchwil yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth.
Amgylchedd ymchwil
Mae’r Ysgol wedi llwyddo i gipio’r 4ydd safle yn y DU am effaith ymchwil a’r 5ed safle o ran pŵer ymchwil ym maes Iaith a Llenyddiaeth Saesneg (REF2021). Mae hyn yn dyst o ymrwymiad yr Ysgol i ddatblygiad deallusol a phroffesiynol ei myfyrwyr ôl-raddedig yn seiliedig ar ddarparu profiad goruchwylio o ansawdd uchel, hyfforddiant ymchwil lefel uwch a mynediad at yr adnoddau sydd eu hangen i helpu pob myfyriwr i ffynnu'n ddeallusol a gweithio'n gynhyrchiol.
Mae myfyrwyr yn cynnal dadansoddiad anghenion datblygu rheolaidd gyda'u tîm goruchwylio er mwyn sicrhau eu bod yn cael mynediad at yr hyfforddiant sydd ei angen arnyn nhw.
Mae’r Ysgol yn cynnal cynhadledd flynyddol i alluogi myfyrwyr PhD gael y cyfle i rannu eu gwaith gyda’u cyfoedion mewn amgylchedd cefnogol, cyffrous ac aml-ddisgyblaethol.
Mae Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol yn llawn llyfrau a chyfnodolion academaidd yn ein holl feysydd, adnoddau electronig sylweddol a chasgliadau arbenigol megis Llyfrau Prin Caerdydd. Mae’n archif gyfoethog o fwy na 14,000 o eitemau sy’n amrywio o incwnabwla o’r bymthegfed ganrif i lyfrau cain yr ugeinfed ganrif.
Mewn marchnad swyddi gystadleuol, anogir a chefnogir ein myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau fydd yn eu gwneud yn gyflogadwy, beth bynnag fo cyfeiriad eu gyrfa. Rydym yn gwerthfawrogi profiad cyfoethog ein nifer o fyfyrwyr tramor, ac yn darparu ar gyfer eu hanghenion penodol o ran cyd-destun diwylliannol eu hastudio a gofynion ysgrifennu’n gain mewn ail iaith. Mae cymorth ychwanegol ar gael drwy Ganolfan Datblygu Ysgrifennu'r Ysgol.
Mae’r rhaglen yn cynnig paratoad delfrydol i’r rhai hynny syn dymuno dilyn gyrfaoedd mewn ysgrifennu llawrydd a’r maes academaidd, yn ogystal â gyrfaoedd mewn newyddiaduraeth, cyhoeddi, addysgu, , cysylltiadau cyhoeddus, rheoli celfyddydau a gweinyddu.
Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth
Gallai ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol fod yn gymwys i wneud cais am fenthyciad doethuriaeth ôl-raddedig gan Lywodraeth y DU..
Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaethArian
Edrychwch ar ein prosiectau a'n hysgoloriaethau PhD diweddaraf a chael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ariannu eraill.
Ffioedd dysgu
Myfyrwyr o'r DU
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.
Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)
Croesewir ceisiadau gan raddedigion sydd ag o leiaf 2.1 ar lefel israddedig (mewn unrhyw ddisgyblaeth academaidd). Er bod gradd feistr mewn Ysgrifennu Creadigol neu Lenyddiaeth Saesneg yn fantais, nid yw'n hanfodol, er y byddai disgwyl bod gan ymgeiswyr sydd ddim yn meddu ar radd feistr brofiad proffesiynol amlwg ar ffurf cyhoeddiadau.
Argymhellir eich bod yn anfon e-bost at y gweinyddwr ôl-radd ar encap-pg@caerdydd.ac.uk gyda’ch cynnig ymchwil a sampl o waith creadigol cyn gwneud cais ffurfiol.
Gofynion Iaith Saesneg
Mae'r Ysgol yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr y tu allan i'r Deyrnas Unedig. Ar gyfer siaradwyr Saesneg anfrodorol, mae sgôr gyffredinol IELTS o 7.5 gydag o leiaf 7.0 ym mhob is-sgôr yn hanfodol.
Darllenwch ein Gofynion Iaith Saesneg am ragor o wybodaeth.
Yn ogystal â ffurflen gais, cynnig ymchwil a dogfennau ategol, rydym hefyd angen copïau o waith creadigol diweddar, bydd cyfrif geiriau hwn yn dibynnu yn fawr ar genre’r gwaith a gynhyrchir ond byddem yn disgwyl tua 3,000 o eiriau o ryddiaith neu 10-15 o gerddi.
Dylai ymgeiswyr gynnwys cynnig ymchwil (tua 1000 o eiriau), dau eirda academaidd, sampl o ysgrifennu creadigol, copïau o dystysgrifau gradd BA ac MA a thrawsgrifiad o'r marciau.
Rhagor o wybodaeth a chanllawiau ar gyfer y Datganiad Personol neu ddeunydd ategol.
Cynnig ymchwil
Dylai'r cynnig ymchwil fod tua 1,000 o eiriau o hyd. Dylai hyn roi amlinelliad o nodau ac amcanion eich prosiect a nodi sut rydych yn ei weld yn cyfrannu at y maes, yn nhermau creadigol a beirniadol fel ei gilydd.
Yn ogystal â hyn, rydym angen copïau o waith creadigol diweddar, a bydd y cyfrif geiriau yn dibynnu'n fawr iawn ar genre’r gwaith a gynhyrchir. Byddem yn disgwyl tua 3,000 o eiriau o ryddiaith neu 10-15 cerdd.
Dylai ymgeiswyr hefyd gynnwys dogfennau ategol ar ffurf dau eirda academaidd, copïau o dystysgrifau gradd BA ac MA a thrawsgrifiad o farciau.
Y broses dderbyn
Mae Cyfarwyddwr y Rhaglen Ymchwil Ôl-raddedig Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol yn asesu pob cais. Ystyrir ansawdd a hyfywedd y prosiect, yn ogystal â gallu'r staff i'w oruchwylio. Bydd hyn yn cynnwys ymgynghori â goruchwylwyr posibl. Yna, gwahoddir ymgeiswyr sy'n pasio'r cam asesu cychwynnol am gyfweliad.
Cyswllt
Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol
Derbyniadau Ôl-raddedig ENCAP
Cyswllt gweinyddol