Niwrowyddoniaeth Weledol
Mae Niwrowyddoniaeth Gweledol yn faes ymchwil y gallwch chi ganolbwyntio eich astudiaethau yn ein rhaglen PhD Gwyddorau’r Golwg ynddo.
Nodweddion unigryw
- Canolfan rhagoriaeth ryngwladol
- Labordai gyda chyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer meithrin organau a chelloedd, histoleg, niwrowyddoniaeth, dadansoddiad protein, bioleg moleciwlaidd, trawsheintio genyn, geneteg moleciwlaidd, amsugno/sbectrosgopeg allyriadau, a delweddu microsgopig
- Wedi gwneud nifer o ddarganfyddiadau newydd yng nghyd-destun y thema hwn:
- Nodi’r genyn sy’n gyfrifol am brif ffurf atroffi optig
- Mae lipofuscin yn eneradur radical heb eu ffoto-gymhelliant sy’n achosi camweithredu mewn celloedd
- ae metalloproteinases matrics yn cael eu uwchreoleiddio yn natblygiad myopia mewn mamaliaid a nodi aelod newydd o’r teulu MMP
- Mae niwed i’r system weledol centriffwgal yn newid datblygiad y llygaid a’i gyflwr gwrthdynnol, gan awgrymu bod yr ymennydd yn dylanwadu ar emetropeiddiad
- Wedi datblygu modelau genetig neu arbrofol arloesol ar gyfer astudio trawsblannu cornbilennol, datblygiad ocwlar, glawcoma ac atroffi optig, olrhain niwral, niwed ocsidaidd i’r retina ac amrywiaeth o glefydau’r llygaid
- Cefnogir gan grantiau gan MRC, BBSRC, Ymddiriedolaeth Wellcome, NIHR/NISCHR, UE, Elusennau Meddygol, Gwasanaeth Iechyd a’r sector preifat
Cyswllt
Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol
Tony Redmond
Themâu ymchwil
- Modelau genetig o glefyd ar y llygaid
- Deall ac atal dystroffi cornbilennol
- Trosglwyddiad genynnau
- Strwythur pen y nerf optig mewn llygaid iach a glawcomataidd
- Clefydau symudiad llygaid, ystwyth a chanhwyllau’r llygaid
- Effaith plastigrwydd niwral ar glefyd y llygaid
- Heneiddio a thrafferthion celloedd
- Difrod ocsidiol a thrafferthion retinol
- Bioleg bôn-gelloedd
- Difrod golau i’r llygad
- Mecanweithiau ac atal marwolaeth celloedd niwral
Arian
Gallwch chwilio am ysgoloriaeth neu gael rhagor o wybodaeth am gyllid.
Ffioedd dysgu
Myfyrwyr o'r DU
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.
Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)
Gwybodaeth am y Rhaglen
I gael gwybodaeth am strwythur y rhaglen, gofynion mynediad a sut i wneud cais ewch i’r rhaglen Gwyddorau'r Golwg.
Gweld y Rhaglen