Cyfrifiadura Gweledol
Gallwch ganolbwyntio eich astudiaethau ar gyfrfiadureg gweledol drwy ein rhaglenni ymchwil Cyfrifiadureg a Gwybodeg (MPhil, PhD).
Drwy astudio am PhD neu MPhil ym maes cyfrifiadureg gweledol byddwch yn ymuno â’r Ysgol fel rhan o dîm llwyddiannus o ymchwilwyr gydag amrywiaeth eang o bartneriaid diwydiannol a chydweithwyr academaidd.
Nodweddion unigryw
- Mae ein diwylliant ymchwil hirsefydlog, cryf a deinamig wedi arwain at ein henw da rhyngwladol ar gyfer ymchwil o'r radd flaenaf.
- Mae’r Ysgol yn cefnogi gwaith yn y maes hwn gyda buddsoddiad sylweddol mewn cyfleusterau a seilwaith ymchwil.
- Diwylliant ymchwil bywiog sy’n cynnwys rhaglenni seminar yr Ysgol â rhaglenni seminar â thema a chyfleoedd teithio/cynhadledd.
- Cefnogaeth a hyfforddiant pwrpasol i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau o ran thema ymchwil.
- Mae gennym brofiad helaeth mewn nifer o feysydd gweledigaeth cyfrifiadur, delweddu a phrosesu fideo. Rydym yn gweithio’n agos gyda’r Ysgolion Seicoleg, Peirianneg, Deintyddiaeth a Meddygaeth, ac rydym hefyd yn cydweithio gyda phartneriaid diwydiannol, gan gynnwys Renishaw, Airbus, British Aerospace, Undeb Rygbi Cymru, Heddluoedd lleol, cynghorau a gwasanaethau iechyd.
Cyswllt
Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol
Ymchwil ôl-raddedig Cyfrifiadureg
Cyswllt/Cysylltiadau Academaidd
Mae ein ymchwil yn cwmpasu nifer o bynciau modern, sy’n esblygu ac mae ein diwylliant ymchwil hirsefydlog, gref a deinamig wedi arwain at ein henw da rhyngwladol ar gyfer ymchwil o'r radd flaenaf. Rhagor am ein meysydd ymchwil.
Wrth ystyried a ddylech ymuno â ni fel myfyriwr ymchwil, dylech adolygu'r pynciau a’r gweithgareddau i wneud yn siŵr bod gennym diddordebau tebyg. Cysylltwch ag aelod arweiniol o staff yn y maes hwn i helpu i nodi goruchwyliwr addas y gallwch drafod natur a chyfeiriad eich gwaith ymchwil gydag ef/hi.
Arian
Gallwch chwilio am ysgoloriaeth neu gael rhagor o wybodaeth am gyllid.
Ffioedd dysgu
Myfyrwyr o'r DU
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.
Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)
Gwybodaeth am y Rhaglen
I gael gwybodaeth am strwythur y rhaglen, gofynion mynediad a sut i wneud cais ewch i’r rhaglen Cyfrifiadureg a Gwybodeg.
Gweld y Rhaglen