Ewch i’r prif gynnwys

Cemeg Ddamcaniaethaol a Chyfrifiadurol

Mae gan yr Ysgol Cemeg dîm ymchwil sy'n ehangu ac yn torri tir newydd ym maes cemeg ddamcaniaethol a chyfrifiadurol, gan wneud ymchwil i ddamcaniaethau ac agweddau cyfrifiadurol yn ogystal â dysgu peiriannol a chemeg ddigidol sy’n seiliedig ar ddata.

Mae'r tîm hwn yn cwmpasu sawl grŵp ymchwil sy'n arbenigo mewn damcaniaethau ac agweddau cyfrifiadurol, ynghyd â datblygu a defnyddio dulliau modelu.

Ymhlith y meysydd dan sylw mae

  • efelychu deunyddiau a mecanweithiau catalytig
  • cemeg gynaliadwy, gan gynnwys lliniaru CO2, trawsnewid biomas a chynhyrchu H2
  • strwythur a swyddogaeth biofoleciwlau
  • efelychu problemau rhwymo rhwng cyffur a’r derbynnydd
  • efelychu deunyddiau ar gyfer storio a thrawsnewid ynni
  • adweithiau cludo solidau, màs a gwefr
  • rhagfynegi strwythur a phriodweddau
  • datblygu dull ar gyfer efelychiadau deinamig gwell

Gall myfyrwyr yn y maes hwn ddisgwyl meithrin dealltwriaeth ddofn o’r prosesau ffisegol sylfaenol sydd wrth wraidd yr holl ffenomenau cemegol. Hefyd, mae lle amlwg i sgiliau fel codio, cyfrifiadura perfformiad uchel a dadansoddi rhifiadol, sgiliau mathemategol a sgiliau ym maes gwyddor data.

Mae pob grŵp yn y maes hwn yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr arbrofol yma ym Mhrifysgol Caerdydd ac mewn mannau eraill. Noddir llawer o’r gwaith yn y maes hwn gan y diwydiant, gan gynnwys BP, Johnson Matthey a NIC3E.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Dr Ben Ward

Administrative contact

Mae ymchwil mewn cemeg ddamcaniaethol a chyfrifiadurol yn cwmpasu ystod eang o broblemau pur a phroblemau cymhwysol. Ymhlith y rhain mae datblygu dulliau newydd ar gyfer rhagfynegi priodweddau cemegol ac efelychu strwythur, dynameg ac adweithedd moleciwlau a deunyddiau.

Ymhlith y meysydd penodol sydd o ddiddordeb ar hyn o bryd mae defnyddio dylunio cyfrifiadurol i greu moleciwlau a deunyddiau newydd i'w defnyddio mewn catalysis ac ynni cynaliadwy, meddyginiaethau a diagnosteg, efelychu ymddygiad deinamig adweithiau, arwynebau, solidau a biomoleciwlau, a dadansoddi manwl o fondio cemegol mewn moleciwlau organig ac nad yw’n organig.

Ymhlith yr enghreifftiau o ymchwil sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd mae dylunio aloiau newydd i ddal a defnyddio CO2, efelychu rôl metelau mewn clefydau niwroddirywiol megis clefyd Alzheimer a strwythur electronig uwch-ddargludyddion. Mae llawer o'r gwaith hwn yn cael ei wneud ar y cyd â gwaith arbrofol, ym Mhrifysgol Caerdydd a ledled y byd.

Mae yna hefyd ddiddordeb mawr mewn datblygu meddalwedd a gwneud defnydd effeithiol o gyfrifiaduron paralel mawr perfformiad uchel. Cefnogir y grŵp gan seilwaith cyfrifiadurol ardderchog, gan gynnwys y cyfleuster Cyfrifiadura Ymchwil Uwch (ARCCA), Uwchgyfrifiadura Cymru (SCW) a chyfleusterau cenedlaethol megis ARCHER2.

Mae goruchwylwyr ymchwil ôl-raddedig sy'n gweithio yn y maes hwn yn cynnwys:

Prosiectau

Mae gennym restr helaeth o brosiectau ymchwil y mae goruchwylwyr yn gweithio arnynt ar hyn o bryd ac rydym yn croesawu ymgeiswyr sydd â diddordeb yn y prosiectau hyn.

Mae angen i unrhyw un sy’n dymuno cyflwyno cais ar gyfer y prosiectau hyn fod wedi sicrhau cyllid drostynt eu hunain. Gallai hyn fod gan noddwyr allanol, benthyciadau i fyfyrwyr neu drwy hunan-ariannu.

Yn ogystal â hyn, mae gennym ystod o brosiectau ymchwil â chyllid allanol. Sicrhewch eich bod yn bodloni’r meini prawf cymhwystra penodol o ran cyllid cyn gwneud cais.

Mae croeso ichi gysylltu â'r academyddion yn uniongyrchol i gael sgwrs anffurfiol neu ragor o wybodaeth

Dylid cyflwyno cais drwy wasanaeth gwneud ceisiadau Prifysgol Caerdydd. Nodwch deitl a goruchwyliwr y prosiect ar eich cais.

Gwybodaeth am y Rhaglen

I gael gwybodaeth am strwythur y rhaglen, gofynion mynediad a sut i wneud cais ewch i’r rhaglen Cemeg.

Gweld y Rhaglen
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig