Ewch i’r prif gynnwys

Deunyddiau Cyflwr Solid

Mae’r Ysgol Cemeg wedi datblygu cryfder penodol mewn Cemeg Deunyddiau a Chyflwr Solid, gyda grŵp ymchwil pwrpasol i’r maes cyffrous hwn o astudiaeth. Fel rhan o’r rhaglen Cemeg (PhD/MPhil), gall myfyrwyr gynnal eu hymchwil yn y grŵp hwn.

Mae ymchwil yn canolbwyntio ar ddeall priodweddau sylfaenol deunyddiau, datblygu a gwella agweddau newydd ar dechnegau arbrofol ar gyfer ymchwilio’r priodweddau hyn, ac archwilio’r posibilrwydd ar gyfer datblygu defnydd y deunyddiau o dan sylw.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Dr Ben Ward

Administrative contact

Mae prosiectau ymchwil cyfredol yn cynnwys:

  1. Datblygu dealltwriaeth sylfaenol o briodweddau strwythurol a deinamig solidau moleciwlaidd (gan gynnwys cyfansoddion cynhwysiant solid, solidau anghymesur, systemau wedi’u bondio â hydrogen, a deunyddiau di-drefn) a phrosesau crisialu’r deunyddiau hyn.
  2. Mesur y rhyngweithio rhwng cydrannau’r systemau ‘mater meddal’, i ddeall a rheoli eu strwythur a deinameg, gyda phwyslais benodol ar geliau ac ewynau sy’n hunan-greu, amddiffyn deunyddiau actif drwy gyfunedd, eu hymddygiad mewn biogeliau, hydoddiannau ychwanegyn/arwynebyn/polymer, a defnydd polymerau fel gyrwyr ar gyfer rhyddhau cyffuriau dan reolaeth ac wedi’u targedu.
  3. Datblygu a defnyddio agweddau newydd ar dechnegau arbrofol ar gyfer esbonio priodweddau deunyddiau - mae pynciau o ddiddordeb penodol yn cynnwys datblygiadau mewn EPR a sbectrosgopeg ENDOR mewn amrywiaeth o feysydd newydd (gan gynnwys nodweddu systemau catalytig ac arwynebau solid), datblygu a defnyddio technegau newydd ar gyfer pennu strwythur gan ddefnyddio data diffreithiant pelydr-X powdr, ag agweddau sylfaenol a chymhwysol o’r ffenomen birefringence pelydr-X.

Gwybodaeth am y Rhaglen

I gael gwybodaeth am strwythur y rhaglen, gofynion mynediad a sut i wneud cais ewch i’r rhaglen Cemeg.

Gweld y Rhaglen
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig