Perfformio
Mae Perfformio yn arbenigedd sydd ar gael yn ein cyfres o raddau ymchwil Cerddoriaeth (MPhil, PhD).
Mae’r cynllun hwn yn addas i raddedigion Cerddoriaeth sy’n dymuno cyfuno astudiaeth cerddorol academaidd ac ymarferol i lefel doethuriaeth.
Rydym yn cynnig ystod eang o arbenigedd, ond mae’r meysydd canlynol yn arbennig o gryf:
- Offerynnau bysellfwrdd, yn enwedig piano, harpsicord ac organ
Asesu
Ar gyfer PhD ym maes Perfformio Cerddoriaeth, dylid cyflwyno ar un o'r ffurfiau canlynol:
- perfformiad 90 munud ynghyd â thesis o oddeutu 50,000 gair neu argraffiad ysgolheigaidd gyda sylwebaeth feirniadol;
- portffolio o berfformiadau o oddeutu 220 munud i gyd, wedi'i ategu gan sylwebaeth ysgrifenedig sy’n oddeutu 20,000 gair.
Gall perfformiadau fod yn fyw neu'n recordiad sain a fideo (DVD neu gyfatebol), neu'n gyfuniad.
Yn dilyn yr arholi, bydd recordiad o'r perfformiad(au), mewn fformat y cytunir arno gan yr Ysgol Cerddoriaeth, yn rhan o'r cofnod parhaol.
Asesir cyflwyniadau ar ffurf arfer gan yr un meini prawf generig ag unrhyw MPhil neu PhD arall ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn hyn o beth dylai cyflwyniad ar ffurf arfer gynrychioli ymchwil parhaus i agwedd o berfformio cerddorol, yn hytrach na samplau o ymarfer proffesiynol. Deellir bod ymchwil yn y cyd-destun hwn fel proses ymchwilio a allai arwain at syniadau newydd, a rennir yn effeithiol
Nodweddion unigryw
- Arbenigedd rhyngwladol cydnabyddedig a phrofiad mewn perfformio/ymarfero perfformio
- Cyfleoedd a chyfleusterau perfformio ardderchog
- Darlithoedd rheolaidd, dosbarthiadau meistr a gweithdai gan ysgolheigion nodedig a pherfformwyr
- Casgliad o offerynnau cyfnod i'w defnyddio gan y myfyrwyr.
- Mae myfyrwyr yn mynychu grŵp trafod ôl-raddedig sy'n mynd i'r afael ag amrywiaeth eang o faterion
- Mae'r Ysgol yn trefnu gweithdai a dosbarthiadau meistr i wella profiad y myfyriwr mewn cyfansoddi a pherfformio
Cyswllt
Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol
Huw Rhys Thomas
Postgraduate Research (PGR) and Research Administrator
- Siarad Cymraeg
- thomash6@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2251 1092
Cyswllt/Cysylltiadau Academaidd
Arian
Gallwch chwilio am ysgoloriaeth neu gael rhagor o wybodaeth am gyllid.
Ffioedd dysgu
Myfyrwyr o'r DU
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.
Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)
Gwybodaeth am y Rhaglen
I gael gwybodaeth am strwythur y rhaglen, gofynion mynediad a sut i wneud cais ewch i’r rhaglen Cerddoriaeth.
Gweld y Rhaglen