Ewch i’r prif gynnwys

Synthesis Organig

Rydym wedi datblygu cryfder penodol mewn Synthesis Organig, gyda grŵp ymchwil pwrpasol i’r maes cyffrous hwn o astudiaeth. Fel rhan o’r rhaglen Cemeg (PhD/MPhil), gall myfyrwyr gynnal eu hymchwil yn y grŵp hwn.

Mae’r ymchwil yn ein grŵp Synthesis Organig yn bennaf yn canolbwyntio ar ddatblygu dulliau synthetig newydd a dulliau’r rhain mewn synthesis targed, fel arfer naill ai gynhyrchion naturiol neu ddeunyddiau cyfansawdd gweithredol biolegol ag arwyddocâd agrocemegol neu fferyllol. Mewn llawer o achosion, mae’r ysbrydoliaeth ar gyfer datblygu methodoleg newydd yn codi o ystyried nodweddion strwythurol targedau o'r fath.

Meysydd o ddiddordeb cyfredol yw:

  • catalysis cemeg grŵp cynradd gan ddefnyddio adweithyddion alwminiwm, boron, ac ïodin
  • adweithiau electrocemegol fel technoleg sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd
  • adweithiau mewn systemau llif
  • synthesis deunyddiau egnïol

Wedi’i ysgogi gan alw’r diwydiant ac ystyriaethau amgylcheddol, mae llawer o’n gwaith yn canolbwyntio ar ddiffinio dulliau newydd ar gyfer cynhyrchu catalytig effeithlon iawn o ran cyfansoddion o’r fath. Thema gref iawn yw ffurfio cyfansoddion drwy ychwanegu niwcleoffilau wedi’u ddatblygu gan electroffil at fondiau carbon-carbon annirlawn.

Mae organocatalysis, maes cynyddol bwysig o ran gwenwyndra nifer o fetelau pontio, yn cael ei gynrychioli’n dda o fewn ein grŵp. Mae mathau cyfredol o dargedau’n cynnwys peptidau polysyclig, alcaloidau, steroidau, alcaloidau terpen a heterogylchoedd ocsigen planhigion.

Mae gan ein grŵp ymchwil yn cynnal gwaith rhyngddisgyblaethol cryf ar y cyd yn y DU a ledled y byd. Gall ein cysylltiadau prosiectau â sefydliadau rhyngwladol arwain at fyfyrwyr yn cael lleoliadau dramor.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Dr Ben Ward

Administrative contact

Mae grwpiau ymchwil ym maes Cemeg Organig wrthi’n weithgar yn dylunio adweithiau newydd, defnyddio adweithiau er mwyn herio moleciwlau targed, yn ogystal ag ymchwilio’n drylwyr i fecanweithiau adweithiau. Mae ymchwil Cemeg Organig yn un sydd ar y rhyngwyneb ac yn gysylltiedig â meysydd gwyddonol eraill, sy’n cynnwys is-ddisgyblaethau eraill ym maes cemeg ei hun, megis cemeg fiolegol a chemeg ddeunyddiau, ffiseg, peirianneg ac ymchwil feddygol.

Yn benodol, mae’r grwpiau ymchwil yn ymchwilio i’r prif grwpiau cemegol megis cemeg halogen a chemeg galcogen, ond hefyd cemeg yng nghyswllt boron ac alwminiwm. Mae astudiaethau sylfaenol hefyd yn datblygu adweithiau catalytig newydd. Yn aml, caiff yr ymchwil ei chefnogi gan astudiaethau cyfrifiadurol law yn llaw â theori ac arbrofion. Mae’r ymchwil yn cynnwys cydweithredu agos gyda chydweithwyr mewn grwpiau eraill yn yr adran.

Yr hyn sydd o ddiddordeb i’r grwpiau ymchwil organig ym Mhrifysgol Caerdydd yw datblygu methodolegau synthetig. Er enghraifft, mae cemeg llif ac electrocemeg yn dechnegau sy'n cael eu defnyddio at ddibenion syntheseiddio cynhyrchion naturiol neu ddeunyddiau egnïol. Caiff sawl agwedd ar waith o’r fath ei wneud law yn llaw â’r byd diwydiant a dan ei nawdd.

Mae ymchwil sy'n defnyddio radioniwclidau ym maes synthesis organig yn rhyngwynebu’n uniongyrchol â meddygaeth glinigol.

Mae ein hymchwil yn gwthio ffiniau’r hyn sy’n bosibl ac mae’n gynhenid ​​ryngddisgyblaethol, sy'n cynnwys cydweithrediadau gydag arbenigwyr ym meysydd sy'n amrywio o gemeg ffisegol i fioleg glinigol neu dechnolegau sy'n sail i’r ymagweddau cynaliadwy ac ecogyfeillgar tuag at synthesis organig.

Mae goruchwylwyr ymchwil ôl-raddedig sy'n gweithio yn y maes hwn yn cynnwys:

Prosiectau

Mae gennym restr helaeth o brosiectau ymchwil y mae goruchwylwyr yn gweithio arnynt ar hyn o bryd ac rydym yn croesawu ymgeiswyr sydd â diddordeb yn y prosiectau hyn.

Mae angen i unrhyw un sy’n dymuno cyflwyno cais ar gyfer y prosiectau hyn fod wedi sicrhau cyllid drostynt eu hunain. Gallai hyn fod gan noddwyr allanol, benthyciadau i fyfyrwyr neu drwy hunan-ariannu.

Yn ogystal â hyn, mae gennym ystod o brosiectau ymchwil â chyllid allanol. Sicrhewch eich bod yn bodloni’r meini prawf cymhwystra penodol o ran cyllid cyn gwneud cais.

Mae croeso ichi gysylltu â'r academyddion yn uniongyrchol i gael sgwrs anffurfiol neu ragor o wybodaeth

Dylid cyflwyno cais drwy wasanaeth gwneud ceisiadau Prifysgol Caerdydd. Nodwch deitl a goruchwyliwr y prosiect ar eich cais.

Gwybodaeth am y Rhaglen

I gael gwybodaeth am strwythur y rhaglen, gofynion mynediad a sut i wneud cais ewch i’r rhaglen Cemeg.

Gweld y Rhaglen
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig