Addysg Feddygol
Mae'r llwybr MPhil / PhD mewn Addysg Feddygol wedi'i leoli yn y Ganolfan Addysg Feddygol (C4ME) yn yr Ysgol Meddygaeth, Prifysgol Caerdydd.
Gan ddod â meddygon, nyrsys, seicolegwyr, gwyddonwyr cymdeithasol ac addysgwyr profiadol ynghyd, rydym yn sicrhau bod gwaith yr ysgol yn seiliedig ar sylfeini ymchwil addysgeg cryf. Mae’r llwybr hwn yn arbennig o addas i'r rhai sydd eisoes wedi cwblhau cwrs Ôl-raddedig mewn Addysg Feddygol (neu gyfwerth), ac mae’n ffordd ardderchog o symud ymlaen tuag at sefydlu portffolio ymchwil mewn addysg feddygol.
Nodweddion unigryw
Mae gan y Ganolfan Addysg Feddygol broffil ymchwil addysgol o bwys. Mae academyddion a staff ymchwil o amrywiaeth o gefndiroedd yn cyfrannu at ein gweithgareddau ymchwil addysgol trawsddisgyblaethol ac eang eu cwmpas.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Dr Michal Tombs - tombsm2@caerdydd.ac.uk.
Cyswllt
Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol
Swyddfa Graddau Ymchwil yr Ysgol Meddygaeth
Administrative contact
Cyswllt/Cysylltiadau Academaidd
Mae ymchwil addysgol yn hanfodol er mwyn gwella ymarfer proffesiynol meddygol ac iechyd, o'r ysgol meddygaeth i hyfforddiant ôl-raddedig, a datblygiad proffesiynol parhaus. Yn y Ganolfan Addysg Feddygol (C4ME), rydym yn ymroddedig i gyfrannu at y gymuned addysg ehangach drwy rannu ein canfyddiadau ymchwil a chynnwys rhanddeiliaid allweddol yn ein hymchwil addysgol. Mae ein hallbynnau ymchwil a'n henw da yn tyfu mewn pwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol.
Meysydd ymchwil
- Asesu mewn addysg feddygol
- Cyfathrebu clinigol
- E-ddysgu mewn addysg feddygol
- Cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn addysg feddygol
- Efelychu a Rhyngweithio Peiriant-Dynol mewn Addysg Feddygol.
- Addysg ryngbroffesiynol
- Dysgu a gynorthwyir gan gymheiriaid
- Hunaniaeth broffesiynol
- Dewis mewn meddygaeth
- Ail-ddilysu meddygol
- Pontio mewn gyrfaoedd meddygol
- Dysgu ar Sail Gwaith
- Gwerthuso mewn Addysg Feddygol.
Arian
Gallwch chwilio am ysgoloriaeth neu gael rhagor o wybodaeth am gyllid.
Ffioedd dysgu
Myfyrwyr o'r DU
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.
Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)
Gwybodaeth am y Rhaglen
I gael gwybodaeth am strwythur y rhaglen, gofynion mynediad a sut i wneud cais ewch i’r rhaglen Meddygaeth.
Gweld y Rhaglen