Ewch i’r prif gynnwys

Logisteg a Rheoli Gweithrediadau

Mae Logisteg a Rheoli Gweithrediadau yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o’n rhaglen PhD Astudiaethau Busnes.

Ein nod yw cael timau rhyngddisgyblaethol o academyddion yn hyrwyddo gwybodaeth, theori ac arfer yn rheoli logisteg a gweithrediadau a thrwy hynny arwain y byd.

Mae'r adran yn cynnwys pedwar o grwpiau ymchwil unigryw sy’n cynnal prosiectau ymchwil penodol a chyffredin. Y pedwar grŵp yw

  • y Ganolfan Ymchwil i Fentrau Di-wastraff
  • y Grŵp Dynameg Systemau Logisteg
  • y Ganolfan Ymchwil i Ddiwydiant Modurol
  • y Grŵp Ymchwil i Drafnidiaeth a Llongau

Nodweddion unigryw

  • Mae’r adran yn perfformio ymchwil cadwyn gyflenwi o’r radd flaenaf, ac mae ganddo enw da am ragoriaeth mewn logisteg a gweithrediadau o ran modelu ac efelychu, ynghyd â thraddodiad hir o ymchwil gwreiddiol mewn llongau, trafnidiaeth a phorthladdoedd, a chynaliadwyedd.
  • Gall myfyrwyr fanteisio ar gyllid teithio gan yr adran i fynychu cynadleddau neu weithdai yn ystod y rhaglen tair neu bedair blynedd.
  • Mae’r adran yn rhedeg rhaglen siaradwyr gwadd bywiog gydag academyddion ac ymarferwyr o statws rhyngwladol.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

PhD Programme Office, Cardiff Business School

Administrative contact

Mae meysydd ymchwil penodol yn cynnwys:

  • Ymchwil cadwyn cyflenwi: deinameg, rheoli a marchnata
  • Modelu ac efelychu logisteg
  • Llongau, trafnidiaeth a logisteg
  • Cynaliadwyedd ac economeg diwydiant modurol.

Mae gan yr Adran bedwar thema ymchwil strategol trawsbynciol:

Goruchwylwyr

Mae rhestr o’r staff academaidd sy’n gallu darparu goruchwyliaeth i’w gael ar wefan Ysgol Busnes Caerdydd.

Bydd y rhaglen PhD yn eich paratoi naill ai am yrfa fel ysgolhaig academaidd blaenllaw neu i ragori mewn busnes proffesiynol neu wneud penderfyniadau polisi cyhoeddus uwch.

Gwybodaeth am y Rhaglen

I gael gwybodaeth am strwythur y rhaglen, gofynion mynediad a sut i wneud cais ewch i’r rhaglen Astudiaethau Busnes.

Gweld y Rhaglen
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig