Cyfansoddi
Mae Cyfansoddi yn arbenigedd sydd ar gael yn ein cyfres o raddau ymchwil Cerddoriaeth (MPhil, PhD).
Mae'r rhaglen hon yn cynnig cyfle i astudio gyda chyfansoddwyr blaenllaw ag arbenigedd â bri yn rhyngwladol a phrofiad mewn cyfansoddi cerddoriaeth gyfoes.
Mae’n ceisio cynnig gwybodaeth ac arbenigedd ar gyfer gyrfa mewn cyfansoddi cerddoriaeth broffesiynol.
Mae myfyrwyr cyfansoddi hefyd yn cael clywed eu cerddoriaeth yn cael ei ymarfer a’i recordio mewn gweithdai gyda pherfformwyr ac ensembles proffesiynol. Mae hyn yn cynnig profiad heb ei ail o weithio gydag ymarferwyr i wireddu eich syniadau cyfansoddiadol mewn awyrgylch gyfeillgar ac adeiladol.
Mae seminarau cyfansoddi yn digwydd yn rheolaidd (naill ai’n wythnosol neu bob pythefnos) drwy gydol y flwyddyn academaidd. Cynigir agweddau ar dechneg cyfansoddiadol, repertoire newydd a chyfweliadau â chyfansoddwyr sy’n ymweld wrth i gyfleoedd godi.
Hefyd bydd cyfleoedd i arwain eich cerddoriaeth gyda Grŵp Cerddoriaeth Gyfoes y Brifysgol ac ensembles sy’n ymweld.
Asesu
Mae gofyn i ymgeiswyr ar gyfer y cynllun hwn gyflwyno gwaith sylweddol neu bortffolio o weithiau o gyfansoddi gwreiddiol, ynghyd â sylwebaeth ysgrifenedig (rhwng 10,000 ac 20,000 o eiriau ar gyfer PhD; rhwng 5,000 a 10,000 o eiriau ar gyfer MPhil) yn darparu dadansoddiad beirniadol ac yn gosod y gwaith yn ei gyd-destun academaidd. Dylai’r cyflwyniad gynnwys deunydd ategol wedi’i recordio, sydd mewn fformat priodol a benderfynwyd gan yr Ysgol.
Asesir cyflwyniadau ar ffurf arfer gan yr un meini prawf generig ag unrhyw MPhil neu PhD arall ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn hyn o beth dylai cyflwyniad ar ffurf arfer gynrychioli ymchwil parhaus i agwedd o gyfansoddiad cerddorol, yn hytrach na samplau o ymarfer proffesiynol. Deellir bod ymchwil yn y cyd-destun hwn fel proses ymchwilio a allai arwain at syniadau newydd, a rennir yn effeithiol
Nodweddion unigryw
Mae myfyrwyr ymchwil yn cael lwfans i gefnogi mynychu cynadleddau, cael deunyddiau ymchwil, recordio eu perfformiadau cerddoriaeth, neu gynnal ymchwil perthnasol i ffwrdd oddi wrth Caerdydd.
Cyfleusterau wedi'u hadnewyddu ar gyfer ôl-raddedigion cerddoriaeth gan gynnwys cyfres o ystafelloedd cyfrifiadur ac astudio ymroddedig, cyfleusterau hi-fi a phiano electronig, cegin ac ystafell gyffredin.
Yn dibynnu ar addasrwydd unigol (e.e. hyfedredd iaith) a diddordebau ymchwil, gall ôl-raddedigion ddewis cymryd cyfnod i astudio i dramor yn un o Ysgolion Cerddoriaeth cyswllt y Brifysgol Ewropeaidd.
Cyswllt
Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol
Huw Rhys Thomas
Postgraduate Research (PGR) and Research Administrator
- Siarad Cymraeg
- thomash6@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2251 1092
Cyswllt/Cysylltiadau Academaidd
Arian
Gallwch chwilio am ysgoloriaeth neu gael rhagor o wybodaeth am gyllid.
Ffioedd dysgu
Myfyrwyr o'r DU
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.
Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)
Gwybodaeth am y Rhaglen
I gael gwybodaeth am strwythur y rhaglen, gofynion mynediad a sut i wneud cais ewch i’r rhaglen Cerddoriaeth.
Gweld y Rhaglen