Bioleg Gemegol
Mae’r Ysgol Cemeg wedi datblygu cryfder penodol mewn Bioleg Gemegol, gyda grŵp ymchwil pwrpasol i’r maes cyffrous hwn o astudiaeth. Fel rhan o’r rhaglen Cemeg (PhD/MPhil), gall myfyrwyr gynnal eu hymchwil yn y grŵp hwn.
Mae ymchwil y grŵp Bioleg Cemegol sy’n tyfu’n gyflym yn adeiladu ar gryfder Cemeg yng Nghaerdydd a’i nod yw ehangu gweithgareddau traws-ddisgyblaethol rhwng y Gwyddorau Ffisegol, Meddygol a Gwyddorau Bywyd. Mae pynciau ymchwil cyfredol yn cynnwys cemeg organig synthetig, carbohydrad, asidau niwclëig a chemeg protein, glycoleiddio protein, mecanwaith a chineteg adweithiau wedi’u cataleiddio gan ensym. thermodeinameg a chinets adweithiau biomoleciwlaidd, dulliau mecaneg moleciwlaidd a cwantwm mecanyddol i gatalysis ensym, geneteg cemegol, rheoli strwythur protein yn bioffotonig, imiwnoleg a chemeg meddyginiaethol.
Mae cysylltiadau cryf gydag Ysgolion eraill fel Biowyddorau, Fferylliaeth, Optometreg a’r Ysgol Meddygaeth. Cefnogir y grŵp yn dda iawn gyda chyllid gan y cynghorau ymchwil, elusennau a’r diwydiant. Mae’n elwa ar gyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer synthesis, sbectrometreg, sbectrometreg màs, bioleg cemegol a moleciwlaidd. Oherwydd natur rhyngddisgyblaethol yr ymchwil, gall myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol, fel Cemeg, Biocemeg, Bioffiseg, Gwyddorau Cyfrifiadurol a Bioleg Foleciwlaidd, gyfrannu’n sylweddol at ein gwaith.
Cyswllt
Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol
Dr Ben Ward
Administrative contact
Meysydd ymchwil sydd ar gael yn y grŵp hwn:
- Biosynthesis Terpen: Terpenau yw’r dosbarth mwyaf toreithiog a strwythurol amrywiol o gynhyrchion naturiol ac eto maen nhw’n cael eu creu gan gronfa fechan o ragflaenwyr biosynthetig. Rydym yn defnyddio cyfuniad o gemeg organig synthetig, bioleg moleciwlaidd ac ensymoleg i ddeall sut mae terpenau’n syntheseiddio i gyflawni’r dosbarth meistr hwn mewn cemeg cyfuniadol naturiol. Drwy ddefnyddio bioleg cemegol a synthetig rydym hefyd yn defnyddio’r ensymau hyn i ehangu’r ‘terpenom’ er mwyn cynhyrchu cynhyrchion annaturiol gyda gweithgarwch biolegol newydd.
- Sail ffisegol a chemegol catalysis ensym: Mae ensymau yn aml yn cataleiddio adweithiau ar gyfraddau sy’n tynnu tuag at berffeithrwydd catalytig ond nid oes dealltwriaeth lawn o ran sut maen nhw’n cyflawni’r cyflymiad hwn. Defnyddir dihydrofolate reductase fel system model i astudio sut mae strwythur, deinameg, a thwnelu mecanyddol protein i gyd yn cydlynu i gyflawni’r cyflymiadau cyfradd a arsylwyd yn y camau cemegol sy’n digwydd.
- Nanoswitsiau Bioffotonig: Mae rhyngweithiadau protein-protein a protein-DNA wrth wraidd nifer o brosesau sy’n rheoli digwyddiadau cellog gan gynnwys y rhai hynny sy’n sylfaen i nifer o glefydau. Drwy gyfuno peptidau bach gyda moleciwlau sy’n newid siâp pan gânt eu harbelydru gyda golau gweladwy mae’n bosibl dylunio systemau sy’n galluogi ffoto-reoli ar gyfer digwyddiadau cellog o’r fath. Mae gan hyn lawr o fanteision posibl ar gyfer deall cylchedau celloedd yn well ac o ran trin clefydau.
- Biocemeg Feddygol: Mewn cydweithrediad ag Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd rydym yn targedu ensymau sy’n rhan o broses ymfudo celloedd gwyn y gwaed. Mae cyfyngu ar y broses hon yn arwain at y posibilrwydd o drin clefydau ymfflamychol fel arthritis gwynegol yn ogystal â gwella ein dealltwriaeth o’r rolau mae’r ensymau hyn yn eu chwarae mewn bioleg celloedd. Mae synthesis organig, ensymoleg a bioleg strwythurol yn cael eu cyfuno er mwyn cynhyrchu cenedlaethau newydd o gyfansoddion sy’n targedu’r ensymau hyn mewn ffordd newydd.
- Mecanweithiau flavoproteinau sy’n sensitif i olau: Mae’n hysbys bod flavoproteinau yn cataleiddio adweithiau rhydocs biocemegol ond mae wedi dod i’r amlwg yn eithaf diweddar eu bod yn chwarae rôl hanfodol mewn synhwyro golau glas mewn bacteria, ffyngau a phlanhigion yn enwedig. Mae gwaith ymchwil yn cynnwys gwaith ar fecanwaith ymateb manwl a ffotocemeg. Ar hyn o bryd rydym yn archwilio’r potensial i’w defnyddio fel ffotoswitsiau optogenetig ar gyfer rheoli cylched celloedd ar gyfer celloedd mamalaidd.
- Rhyngweithiadau peptid a phrotein gydag asidau niwclëig: Drwy reoli’r rhyngweithiadau rhwng proteinau ac asidau niwclëig mae potensial ar gyfer ffyrdd artiffisial o reoleiddio genynnau a phrosesu asid niwclëig sy’n ymwneud â dyblygu celloedd. Defnyddir synthesis organig a chemeg peptid i greu moleciwlau newydd sy’n targedu strwythurau eilaidd penodol mewn DNA ac RNA.
- Sbectrometreg màs peptidau cylchol: Mae peptidau lle mae’r terfynfaoedd wedi’u cysylltu i wneud macrogylch yn llai hyblyg ac yn gwrthsefyll proteas yn fwy na’u cymheiriaid llinol sy’n eu gwneud yn fwy deniadol o safbwynt canfod cyffuriau. Gellir syntheseiddio niferoedd mawr o beptidau ochr yn ochr ond mae nodweddu strwythurol yn fwy heriol. Mae meddalwedd yn cael ei ddatblygu i helpu gydag aseiniad cyflym strwythurau peptidau cylchol gan ddefnyddio sbectra màs digysylltedd oherwydd gwrthdaro.
Arian
Gallwch chwilio am ysgoloriaeth neu gael rhagor o wybodaeth am gyllid.
Ffioedd dysgu
Myfyrwyr o'r DU
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.
Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)
Gwybodaeth am y Rhaglen
I gael gwybodaeth am strwythur y rhaglen, gofynion mynediad a sut i wneud cais ewch i’r rhaglen Cemeg.
Gweld y Rhaglen