Ewch i’r prif gynnwys

Catalysis yn Sefydliad Catalysis Caerdydd

Mae gan yr Ysgol Cemeg gryfderau penodol mewn Catalysis Heterogenaidd, Catalysis Homogenaidd a Gwyddoniaeth Arwynebau, gan gynnwys Sefydliad Catalysis Caerdydd (CCI) sy’n bwrpasol i’r maes cyffrous hwn o astudiaeth. Ni yw’r grŵp academaidd mwyaf mewn ymchwil catalysis yn y DU.

Mae catalysis wrth wraidd sawl proses gemegol, gan gynnwys y labordy ymchwil academaidd, systemau byw a chymhwyso mewn adweithyddion diwydiannol mawr. Drwy ddefnyddio catalysis yn ofalus ac yn ddeallus gellir gwneud nifer o brosesau yn gyflymach, yn lanach ac yn fwy cynaliadwy.

Mae ein hymchwil yn Sefydliad Catalysis Caerdydd yn mynd i’r afael â’r heriau mawr sy’n wynebu cymdeithas ar hyn o bryd ac mae’n cynnig atebion arloesol. Rydym yn effeithio ar feysydd allweddol megis:

  • darparu dŵr glân drwy reoli a dinistrio llygryddion
  • diogelu'r awyrgylch a darparu aer glân
  • defnyddio adnoddau presennol yn fwy effeithlon a chaniatáu defnydd o adnoddau cynaliadwy newydd
  • datblygu tanwyddau carbon isel a sero carbon
  • galluogi cynhyrchu bwyd cynaliadwy
  • datblygu catalysis ar gyfer gofal iechyd byd-eang

Mae Sefydliad Catalysis Caerdydd bellach wedi’i leoli yn y Ganolfan Ymchwil Drosi newydd. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r diwydiant i sicrhau y bydd yr atebion catalytig yr ydym yn eu darganfod neu eu dyfeisio yn cael eu hehangu a’u datblygu i dechnolegau masnachol. Mae ein myfyrwyr ymchwil yn aml yn cael cyfleoedd i weithio ar leoliadau gyda phartneriaid yn y diwydiant.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Dr Ben Ward

Administrative contact

Cawn ni ein cydnabod yn rhyngwladol am ein hymchwil flaengar, sy’n canolbwyntio ar lawer o broblemau mwyaf heriol y byd. Mae catalysis yn dechnoleg allweddol ar gyfer datblygu datrysiadau ac mae ein hymchwil yn cael effaith ar gymdeithas a’r byd diwydiant. Ymhlith ein cryfderau ymchwil mae:

  • Catalysis at ddibenion cynaliadwyedd
  • Catalysis amgylcheddol
  • Dod o hyd i gatalyddion
  • Cyfosod catalyddion
  • Mecanweithiau adweithedd catalytig
  • Ffotocatalysis
  • Biocatalysis
  • Electrocatalysis
  • Theori a modelu.

Ymhlith ein prosiectau presennol mae: datblygu catalysis at ddibenion gofal iechyd byd-eang; sicrhau dŵr glân trwy reoli a dinistrio llygryddion; lleihau allyriadau i ddiogelu’r atmosffer a darparu aer glân; defnyddio adnoddau presennol yn fwy effeithlon a defnyddio adnoddau cynaliadwy newydd; datblygu tanwydd carbon isel a di-garbon gan ddefnyddio carbon deuocsid; a, datblygu technoleg newydd i alluogi cynhyrchu bwyd cynaliadwy.

Rydyn ni wedi ein lleoli yn y Ganolfan Ymchwil Drosi (TRH) blaenllaw gwerth £110m, sy’n gartref i gyfleusterau ymchwil catalysis o’r radd flaenaf sydd wedi’u hadeiladu’n bwrpasol er mwyn paratoi, nodweddu a phrofi catalyddion.

Mae ein hadran microsgobeg yn gartref i ficrosgop AC STEM gydag eithriadau wedi’u cywiro newydd. Mae modd defnyddio’r microsgop blaengar yma yn y fan a’r lle. Mae yna hefyd amrywiaeth o ficrosgopau eraill ar gael, ac mae gan ein labordai ystod eang o dechnegau dadansoddol sy’n canolbwyntio ar ddeall catalyddion.

Mae gennyn ni ystod o adweithyddion awtoclaf ac adweithyddion cam-hylif, nifer o ficro-adweithyddion cam-nwy llif parhaus a chyfleuster profi catalyddion trwybwn uchel cam-nwy amlswyddogaethol gyda 32 gwely i ddarparu mesuriadau o berfformiad catalyddion.

Rydyn ni’n cynnal llawer o’n prosiectau ar y cyd â phartneriaid allanol, gan gynnwys prifysgolion a sefydliadau ymchwil yn y DU ac yn rhyngwladol sy’n cynnig cyfleoedd cyfnewid. Rydyn ni hefyd yn gwneud llawer o waith ar y cyd â’r byd diwydiant, er enghraifft, gyda Johnson Matthey, Dŵr Cymru Welsh Water, BASF a Topsoe.

Ymhlith yr academyddion sy'n gweithio yn y maes hwn mae:

Prosiectau

Rydyn ni’n croesawu ceisiadau ar gyfer ein prosiectau ymchwil dan oruchwyliaeth yr ydych yn ei ariannu eich hun . Dylech chi fod yn ymwybodol y bydd angen cyllid wedi'i sicrhau er mwyn gwneud cais, a gallai hyn fod gan noddwyr allanol, benthyciadau i fyfyrwyr neu drwy ariannu eich hun.

Mae gennyn ni ystod o brosiectau ymchwil â chyllid allanol. Sicrhewch eich bod chi’n bodloni’r meini prawf cymhwystra penodol o ran cyllid cyn gwneud cais.

Mae croeso i chi gysylltu â'r academyddion yn uniongyrchol i gael sgwrs anffurfiol neu am ragor o wybodaeth.

Dylid cyflwyno cais drwy wasanaeth gwneud ceisiadau Prifysgol Caerdydd.

Gwybodaeth am y Rhaglen

I gael gwybodaeth am strwythur y rhaglen, gofynion mynediad a sut i wneud cais ewch i’r rhaglen Cemeg.

Gweld y Rhaglen
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig