Biomeddygaeth
Mae Biofeddygaeth yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Biowyddorau.
Mae biofeddygaeth yn canolbwyntio ar fecanweithiau sy’n sail i ffisioleg, clefydau a phrosesau sy’n cymell atgyweirio ac adfywio. Mae gan yr Is-adran gryfder eang sy’n cwmpasu biocemeg, bioleg y gell, geneteg foleciwlaidd a throsglwyddo signal. Mae’r grwpiau yn Biofeddygaeth yn canolbwyntio ar amrywiaeth o systemau biolegol in vivo ac in vitro, ac yn ychwanegu at astudiaethau ar linellau celloedd a meinweoedd gyda organebau model fel y llygoden a Xenopus.
Mae Biofeddygaeth yn Is-adran a ariennir yn dda gyda chyfleusterau modern rhagorol ar gyfer amrywiaeth eang o dechnegau. Mae ganddo gysylltiadau agos gyda Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd, Athrofa Peirianneg a Thrwsio Meinwe Caerdydd (CITER), Canolfan Biofecaneg a Biobeirianneg Ymchwil Arthritis y DU yn ogystal â gyda Chanolfan Canser CR-UK Caerdydd. Hefyd, mae gan yr Is-adran nifer o bartneriaid academaidd a diwydiannol byd-eang.
Cyswllt
Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol
School of Biosciences Education Office
Mae Ymchwil yn yr Is-adran yn berthnasol i nifer o feysydd clefyd dynol, ond mae ganddo gysylltiad cryf â chanser ac adfer meinweoedd. Mae sbectrwm y gweithgareddau ymchwil yn cynnwys:
- modelau llygodaidd a addaswydd yn enetig o ganser dynol
- epigeneteg datblygiad arferol a chlefyd
- canser bronnol a marwolaeth celloedd
- bôn-gelloedd/celloedd cenedlyddol mewn organogenesis mamalaidd
- pathoffisioleg signalau calsiwm sy’n gysylltiedig yn benodol â llid y pancreas
- penderfynu tynged bôn-gelloedd
- llid, atherosglerosis a rheoleiddio mynegiant genynnau
- mecanweithiau moleciwlaidd synhwyro maetholion
- technolegau gwrthgyrff monoclonal i astudio dyfodiad afiechydon cymalau dirywiol
- bioleg synofaidd y cymalau
- strwythur a swyddogaeth y mân golagenau’r cartilag, llwybrau signalau celloedd sy'n gysylltiedig â dirywiad cartilag mecanyddol a ddylanwadir gan cytokine
- metaboledd proteoglycan cartilag mewn osteoarthritis
- rheolaeth gellog secretiad matrics all-gellog a threfnu meinweoedd cysylltiol
- mecanweithiau signalau yn rheoleiddio trosiant esgyrn a chartilag, mewn osteoporosis, arthritis gwynegol a osteoarthritis
- sut mae Marciau Epigenetig yn cyfarwyddo Datblygiad Mamalaidd ac yn hybu Clefyd Dynol
- mecanfioleg meinweodd cysylltiol
- arwyddocâd swyddogaethol proteinau synuclein yn y system nerfol arferol a’r system nerfol sy’n dirywio
- ymchwilio i fecanweithiau marwolaeth celloedd
- penderfynu tynged celloedd yn Xenopus
- egluro swyddogaeth lysomau mewn iechyd a chlefyd
- swyddogaeth celloedd cenedlyddol a bôn gelloedd bronnol arferol yng nghynhyrchiad heterogenedd ffenotypig canser y fron a bôn gelloedd canser
- technoleg cadwraeth celloedd
- datblygu dulliau cellog awtologaidd ar gyfer adfer y systemau imiwnedd a nerfol dirywiol
- rheoleiddio sianel cyfryngu mecanweithiau moleciwlaidd drwy ffosfforyleiddiad protein gwrthdro a mecanweithiau sy’n sail i reoleiddio cyfaint
- mecanweithiau morffogenetig wrth drefnu meinweoedd cysylltiol yn benodol
I gael manylion am brosiectau parhaus a phartneriaethau, ewch i wefannau aelodau unigol yr Is-adran Biofeddygaeth.
Prosiectau
Ar hyn o bryd, mae gennym amrywiaeth o brosiectau ar gael i wneud cais amdanynt yn Ysgol y Biowyddorau, ac mae rhai yn cael eu cynnig fel rhan o’n amrywiaeth o ymglymiadau DTP.
Arian
Gallwch chwilio am ysgoloriaeth neu gael rhagor o wybodaeth am gyllid.
Ffioedd dysgu
Myfyrwyr o'r DU
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.
Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)
Gwybodaeth am y Rhaglen
I gael gwybodaeth am strwythur y rhaglen, gofynion mynediad a sut i wneud cais ewch i’r rhaglen Biowyddorau.
Gweld y Rhaglen