Seryddiaeth ac Astroffiseg
Mae Seryddiaeth ac Astroffiseg yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Ffiseg a Seryddiaeth (MPhil, PhD).
Mae’r rhaglen arsylwadol yn defnyddio amrywiaeth o delesgopau rhyngwladol yn rheolaidd, gan gynnwys Telesgop James Clerk Maxwell, telesgop GEMINI a Thelesgop Isgoch y DU yn Hawaii, Arsyllfa La Palma, Telesgop Anglo-Australian, a’r Telesgop Hubble Space (HST). Mae llawer o’n gwaith yn ymwneud ag arsylwadau aml-donfedd o’r Bydysawd Cudd, y rhannau hynny o’r Bydysawd sy’n anweledig gyda thelesgopau optegol oherwydd eu bod yn oer a dan len o lwch - y rhanbarthau lle mae galaethau, sêr a phlanedau newydd yn ffurfio.
Cyswllt
Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol
Tîm Derbyn Ôl-raddedigion
School of Physics and Astronomy
Cyswllt/Cysylltiadau Academaidd
Dr Mattia Negrello
Academic contact
Mae ein prif amcanion yn ymwneud â Tharddiad: mesur yr amrywiadau y mae’r clystyrau cyntaf o alaethau wedi’u ffurfio ohonynt; ymholi i ffurfiant, strwythur ac esblygiad galaethau, heddiw ac mewn amseroedd yn y gorffennol; canfod ffurfiau newydd o fater; pennu cyflenwadau perthynol o elfennau cemegol mewn rhannau gwahanol o’r Bydysawd; canfod sêr a phlanedau yng nghamau cyntaf eu ffurfio a chofnodi gwewyr eu geni.
Caiff y gweithgareddau arsylwi ac allweddol hyn eu hategu gan raglen ddamcaniaethol cryf ac amrywiol sydd hefyd yn anelu at ateb cwestiynau Tarddiad, megis:
- beth sy'n pennu strwythur a deinameg y cymylau moleciwlaidd enfawr y mae sêr a phlanedau newydd yn ffurfio ohonynt
- effeithlonrwydd ffurfio seren a’r masau sy'n ffurfio sêr
- priodweddau clystyru sêr a pham mae'r rhan fwyaf o sêr yn cael eu geni mewn systemau deuaidd
- sut mae galaethau’n ffurfio a sut mae galaethau mewn clystyrau yn rhyngweithio â'i gilydd
- sut, pryd a ble mae’r elfennau cemegol yn cael eu syntheseiddio
- sut mae esblygiad ac ymddangosiad y Bydysawd yn cael eu heffeithio gan lwch
- sut mae'r broses o ffurfio galaeth yn ymwneud â chosmoleg, yn enwedig y strwythur ar raddfa fawr y "gwe gosmig"
Mae'r prosiectau hyn yn gwneud defnydd helaeth o fodelu cyfrifiadurol ac efelychiadau, gan ddefnyddio uwchgyfrifiaduron cenedlaethol a rhyngwladol, yn ogystal â pheiriannau cyfochrog mewnol pwerus.
Gweithgaredd mawr arall yw ymchwil sylfaenol mewn seryddiaeth perthnasedd cyffredinol a thonnau disgyrchol. Mae hyn yn cynnwys dyluniad telesgopau tonnau disgyrchol, yn enwedig y prosesau a ddefnyddir i echdynnu a dadansoddi’r signalau bach iawn maen nhw’n eu cofnodi; a rhagweld signalau i’w disgwyl o ffynonellau tebygol fel tyllau du, uwchnofa, pylser, mewndroelli a chyfuno sêr niwtron, a phrosesau cwantwm syn digwydd ar ddechra’r Bydysawd.
Arian
Gallwch chwilio am ysgoloriaeth neu gael rhagor o wybodaeth am gyllid.
Ffioedd dysgu
Myfyrwyr o'r DU
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.
Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)
Gwybodaeth am y Rhaglen
I gael gwybodaeth am strwythur y rhaglen, gofynion mynediad a sut i wneud cais ewch i’r rhaglen Ffiseg a Seryddiaeth.
Gweld y Rhaglen