Mentrau Hyfforddiant Doethurol
Mae ein proffil a’n henw da am fod yn ddwys o ran ymchwil yn ein galluogi i sicrhau cyllid ar gyfer astudiaethau doethurol o amrywiaeth eang o ffynonellau. Maent yn cynnwys Cynghorau Ymchwil y Deyrnas Unedig, elusennau ac ymddiriedolaethau, cyrff y llywodraeth a diwydiant.
Yn arbennig, rydym ni’n arwain neu’n cymryd rhan mewn ystod o fentrau hyfforddiant doethurol penodol ar hyn o bryd. Mae'r rhain yn cynnwys Partneriaethau Hyfforddiant Doethurol (DTPs) neu Ganolfannau ar gyfer Hyfforddiant Doethurol (CDTs). Mae’r rhain yn rhychwantu nifer o’n meysydd academaidd ac ymchwil cryf.
Mae DTPs a CDTs yn dwyn ynghyd meysydd arbenigedd amrywiol i hyfforddi myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig fel bod ganddynt y sgiliau, y wybodaeth a’r hyder i fod yn ymchwilwyr llwyddiannus, sy’n gallu ymdrin â chwestiynau mawr y dydd a heriau’r dyfodol.
Maent hefyd yn darparu amgylchedd cefnogol a chyffrous i fyfyrwyr, yn aml gyda’r cyfle i fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi neu ddatblygu ehangach, fel dysgu iaith, ymweliadau ymchwil dramor, neu leoliadau gyda phartneriaid anacademaidd. Yn ogystal, fel myfyriwr ymchwil ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd, ein nod i chi yw cael mynediad at hyfforddiant a ddarparir drwy'r Academi Ddoethurol.
Gallwch bori drwy ein hysgoloriaethau neu gael rhagor o wybodaeth am gyllid.
Cyfloedd yn ôl Maes Ymchwil
Y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Gwyddorau Bywyd a Biofeddygol
- BBSRC Biowyddoniaeth y De-Orllewin
- Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol MRC
- DTP GW4+ NERC mewn Gwyddorau'r Ddaear a'r Amglychedd
- Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol NERC mewn Biowyddorau a Chynaliadwyedd Dŵr Croyw
- Canolfan Hyfforddiant Doethurol NERC mewn Asesu Risg Ecotocsicolegol Tuag at Ddefnydd Cemegol Cynaliadwy (ECORISC)
- Rhaglen Hyfforddiant Academaidd Clinigol GW4 ar gyfer Gweithwyr Iechyd Proffesiynol (GW4-CAT HP)