Dysgu a datblygu
A chithau’n fyfyriwr ymchwil, eich nod fydd cynhyrchu traethawd ymchwil o safon uchel sy'n cyflwyno deilliannau eich prosiect yn ogystal â datblygu fel ymchwilydd annibynnol a phroffesiynol ar yr un pryd.
Gyda chyngor oddi wrth eich goruchwylwyr, byddwch yn creu cynllun ar gyfer eich hyfforddiant â'r nod o ddysgu’r sgiliau ymchwil sydd eu hangen arnoch i ymgymryd â'ch prosiect a chefnogi eich datblygiad personol a phroffesiynol.
Mae ein rhaglen yn cynnig pecyn cynhwysfawr o ddigwyddiadau dysgu rhyngddisgyblaethol a chyfleoedd datblygu sydd ar gael i bob myfyriwr ymchwil ôl-raddedig ac am ddim. Mae’r sesiynau hyn wedi’u cynllunio i ategu’r hyfforddiant disgyblaeth-benodol y byddwch yn ei gael ar lefel ysgol, ac yn cyflwyno cyfleoedd eithriadol i chi ddatblygu eich sgiliau ymchwil, personol a phroffesiynol.
Cynllun ymchwil
Yn y cyfarfod goruchwylio ffurfiol cyntaf, byddwch yn gwneud Dadansoddiad o Anghenion Hyfforddi’n rhan o’ch Cynllun Ymchwil. Bydd hwn yn cael ei adolygu a’i drafod yn rhan o’r weithdrefn Monitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil.
Wrth i chi gynllunio’r prosiect ymchwil ei hun, byddwch yn llunio cynllun i ddatblygu’n bersonol ac yn broffesiynol.
Rhinweddau Graddedigion
Mae ein rhaglen wedi'i mapio yn erbyn Rhinweddau Graddedigion y Brifysgol. Set o chwe chategori o sgiliau yw’r rhain, y bydd byd diwydiant yn eu gwerthfawrogi a’u chwennych.
- Cydweithredol
- Cyfathrebu'n effeithiol
- Ymwybyddiaeth foesegol, gymdeithasol ac amgylcheddol
- Meddwl yn annibynnol ac yn feirniadol
- Arloesi, mentro ac ymwybyddiaeth fasnachol
- Myfyriol a gwydn
Mae pob un o’r rhinweddau hyn yn cynnwys amryw o sgiliau y bydd cyflogwyr yn gofyn amdanyn nhw yn gyson pan fyddan nhw'n chwilio am weithwyr. Lluniwyd y nodweddion hyn i wella'ch profiad dysgu er mwyn ichi allu datblygu, adnabod, dangos a chyfleu'r sgiliau hyn.
Y Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr
Mae ein rhaglen hefyd yn cyd-fynd â phedwar maes y Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr. Mae’n bosibl y bydd gofyn i chi adlewyrchu’r rhain yn eich cynllun hyfforddi:
- gwybodaeth a galluoedd deallusol;
- effeithiolrwydd personol;
- ymchwil, llywodraethu a threfnu;
- ymgysylltu, dylanwad ac effaith.
Mae’r Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr, sy’n cael ei gefnogi gan UKRI ynghyd â sefydliadau a chyrff addysg uwch eraill, yn amlinellu gwybodaeth, sgiliau, ymddygiad a nodweddion personol ymchwilwyr proffesiynol effeithiol.
Mae rhagor o wybodaeth am y Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr i’w gweld ar wefan Vitae.
Adnoddau ar-lein ychwanegol
Mae gennym amrywiaeth o adnoddau ‘ar alw’ sy’n caniatáu hyblygrwydd a hwylustod ar gyfer dysgu hunangyfeiriedig:
- Dysgu Canolog
- Llwybrau Gyrfa i Ymchwilwyr
- Llwybrau Gyrfa i Ymchwilwyr
- Sgiliau Ymchwil
- Sgiliau Astudio
- Cyrsiau Ar-lein Agored Enfawr (Massive Open Online Courses neu MOOCs)
- Cymorth mathemateg ac ystadegau
- Vitae