Cyfleusterau
Rydym yn cynnig lle croesawgar i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig gysylltu, gweithio, dysgu a chymryd egwyl i ffwrdd o'r amgylchedd ymchwil.
1-3 Maes yr Amgueddfa yw ein cartref, gan olygu ein bod yng nghanol campws Cathays, ac mae gorsaf Cathays, y Prif Adeilad a Chanolfan Bywyd y Myfyrwyr gerllaw. Rydym ar agor rhwng 08:00 a 20:00, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae'r adeilad at ddefnydd myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn unig. Mae cyfleusterau pwrpasol yno ar gyfer ein cymuned, gan gynnwys:
- ystafell hyfforddi/cyfarfod fawr gyda chyfleusterau addysgu llawn*
- 12 lle desg 'galw heibio a phlygio i mewn' i'w defnyddio gyda dyfeisiau personol
- cyfleusterau cegin*
- man cymunedol ar gyfer cyfarfodydd hamddenol neu anffurfiol
- ystafell dawel
- leoedd y gellir eu cadw ar cyfarfodydd a gwaith hybrid*
- mwy na 20 o ddesgiau ar gyfer ymchwilwyr lle mae cyfrifiaduron neu ddociau a sgriniau*
*Sylwch fod y lleoedd hyn ar gael ar lawr gwaelod yr adeilad ac yn gwbl hygyrch.