Bwrsariaethau’r Stationers’ Foundation
Mae’r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant wedi ffurfio partneriaeth â The Stationers’ Foundation i gynnig dwy fwrsariaeth hael i fyfyrwyr y DU sy’n astudio naill ai Newyddiaduraeth Newyddion neu Newyddiaduraeth Data.
Mae'r Stationers' Foundation (TSF) yn gangen o The Stationers' Company, cwmni lifrai yn Ninas Llundain ar gyfer diwydiannau sy'n ymwneud â chyfathrebu.
Yn ogystal â bwrsariaeth ariannol hael o £9000, a weinyddir yn ostyngiad yn y ffioedd, mae'r Sefydliad yn cynnig cymorth mentora trwy gydol eich astudiaethau gan aelod priodol o'r Sefydliad. Gallai'r mentoriaid hyn gefnogi myfyrwyr i wneud cysylltiadau â diwydiant ac archwilio cyfleoedd ar gyfer profiad gwaith. Bydd gan fyfyrwyr llwyddiannus hefyd aelodaeth o'r TSF am dair blynedd.
Mae un bwrsariaeth ar gael ym mhob blwyddyn academaidd ar gyfer y rhaglenni canlynol:
Bod yn gymwys
I fod yn gymwys ar gyfer y fwrsariaeth hon rhaid i ymgeiswyr fod:
- dan 30 oed yn y mis Medi mae'r rhaglen yn dechrau
- yn byw yn y DU
- statws myfyriwr sy’n talu ffioedd dysgu yn y DU
- cynnal cynnig amodol neu ddiamod ar gyfer rhaglen berthnasol
- yn gallu mynd i seremoni wobrwyo ym mis Tachwedd ar ôl i’r rhaglen ddechrau, yn Stationers’ Hall, Llundain. (Nid oes treuliau ar gael ar gyfer y digwyddiad hwn).
- barod i gyflwyno adroddiadau tymhorol gorfodol i'r mentor a neilltuwyd.
Bydd un bwrsariaeth ar gael ar gyfer pob rhaglen, bob blwyddyn. Dyfernir bwrsariaethau ar sail teilyngdod academaidd, angen ariannol ac ansawdd y cais.
Os dyfernir Bwrsariaeth Stationers’ Foundation i chi, ni fyddwch yn gymwys i dderbyn unrhyw gyllid ychwanegol gan Brifysgol Caerdydd, gan gynnwys Ysgoloriaeth Rhagoriaeth Meistr neu Ostyngiad i Gynfyfyrwyr.
Sut i wneud cais
Bydd angen i ddeiliaid cynigion i'r rhaglenni perthnasol, sydd â diddordeb ac sy'n gymwys ar gyfer y fwrsariaeth, gyflwyno ffurflen gais i gyfarwyddwr y cwrs ym Mhrifysgol Caerdydd (a restrir isod) erbyn y dyddiadau canlynol er mwyn cael eu sgrinio a'u cynnwys ar y rhestr fer:
- Newyddiaduraeth Newyddion (MA) – dydd Gwener 24 Mai
- Newyddiaduraeth Gyfrifiadurol a Data (MSc) – dydd Llun 17 Mehefin.
Y broses ddethol
Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyfweliad wyneb yn wyneb yn yr haf cyn i'r rhaglen ddechrau. Bydd y cyfweliad hwn yn rhoi cyfle i ymgeiswyr roi cyflwyniad byr i gefnogi eu cais a dangos enghreifftiau o'u gwaith.
Bydd y panel cyfweld yn cynnwys o leiaf ddau Ymddiriedolwr o’r Stationers’ Foundation a’r Cyfarwyddwr(wyr) Cwrs perthnasol o Brifysgol Caerdydd.
Cysylltiadau
Cathy Duncan
Course Director, MA News Journalism
Aidan O’Donnell
Course co-Director, MSc Computational & Data Journalism