Ewch i’r prif gynnwys

Ysgoloriaethau Meistr

Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Meistr

Rydyn ni’n falch iawn o gadarnhau y gallwch chi wneud cais nawr i’r cynllun Ysgoloriaethau Meistr ar gyfer dechrau astudio yn 2025/26.

Rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi hyd at £500,000 yn y cynllun cystadleuol hwn am ysgoloriaethau, i gefnogi myfyrwyr gyda ffi statws cartref sy’n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2025/26.

Mae’r Ysgoloriaethau’n werth £3,000 yr un, a chânt eu dyfarnu ar ffurf gostyngiad ffioedd dysgu.

Heb yr Ysgoloriaeth Rhagoriaeth Meistr, does dim ffordd y byddwn i wedi gallu ariannu'r cwrs ôl-raddedig a arweiniodd at yr yrfa roeddwn i wedi bod eisiau ei gwneud ers blynyddoedd lawer, felly rydw'n i'n ddiolchgar iawn am y cyfle

Lucy, MSc Rheoli Adnoddau Dynol

Cymhwysedd

Mae holl fyfyrwyr y DU yn gymwys i wneud cais am yr Ysgoloriaeth. Fel arfer mae angen i chi fod wedi cyflawni o leiaf 2.1 neu gyfwerth yn eich gradd gyntaf i fod yn gymwys. Mae angen i chi gyflwyno cais i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd a chael cynnig i astudio cyn y gellir cadarnhau eich statws ffioedd

Pennir eich statws ffioedd yn unol â’r Rheoliadau Ffioedd. Cewch wybodaeth am ffioedd statws yng Nghymru ar wefan UKCISA.

Rhaglenni cymwys

Dim ond rhaglenni amser llawn a rhan-amser ôl-raddedig a addysgir sy’n arwain at radd feistr sydd wedi’u cynnwys yn rhan o gynllun yr ysgoloriaeth:

  • Rhaglen amser llawn sy’n arwain at radd feistr a addysgir
  • Rhaglen rhan-amser sy’n arwain at radd feistr a addysgir
  • MRes Biowyddorau
  • MRes Niwrofioleg Bôn-gelloedd

Os ydych chi’n astudio eich rhaglen yn rhan-amser, byddwch yn cael 50% o’r ysgoloriaeth yn y flwyddyn gyntaf a 50% o’r ysgoloriaeth yn yr ail flwyddyn.

Os ydych yn astudio rhaglen amser llawn sy’n para dros flwyddyn, ni chewch arian o’r ysgoloriaeth hon neu’r ysgoloriaeth ddilynol ar gyfer y blynyddoedd ychwanegol.

Rhaglenni heb eu cynnwys

Nid yw’r rhaglenni canlynol wedi’u cynnwys felly nid ydynt yn gymwys ar gyfer Ysgoloriaeth Rhagoriaeth Meistr:

  • Rhaglenni dysgu o bell
  • Astudiaethau Pensaernïol (MArch)
  • Rhaglenni a addysgir yn arwain at ddiploma graddedig (GDip), tystysgrif ôl-raddedig (PgCert) neu ddiploma ôl-raddedig (PgDip)
  • Graddau ymchwil sy’n arwain ar radd Meistr mewn Athroniaeth (MPhil)

Ni fyddwch yn gymwys chwaith os oes gennych eisoes Dystysgrif neu Ddiploma Ôl-raddedig a’ch bod yn mynd ymlaen i gam Meistr y radd ar hyn o bryd.

Ar wahân i’r MRes yn y Biowyddorau neu Niwrofioleg Bôn-gelloedd, ni chewch hawlio arian ysgoloriaeth ar gyfer rhaglenni ymchwil ôl-raddedig sy’n arwain at MPhil.

Derbyn cyllid arall

Gallwch fod yn gymwys ar gyfer Ysgoloriaeth Rhagoriaeth Meistr hyd yn oed os ydych yn derbyn:

Os ydych yn fyfyriwr yn y DU sy'n derbyn Ysgoloriaeth Meistr Prifysgol Caerdydd gwerth £3,000, ni allwch dderbyn y gostyngiad cyn-fyfyrwyr yn ogystal â hynny.

Ni fyddwch yn gymwys i dderbyn yr Ysgoloriaeth Rhagoriaeth Meistr os ydych chi hefyd yn derbyn cyllid llawn ar gyfer eich ffioedd dysgu drwy unrhyw ysgoloriaethau neu fwrsariaethau eraill, neu gan gorff noddi (megis Llywodraeth eich mamwlad, elusen neu sefydliad preifat).

Gohirio mynediad

Rhaid i’r ysgoloriaethau gael eu defnyddio wrth ddechrau ym mlwyddyn academaidd 2025/26 yn unig ac ni ellir eu defnyddio ar gyfer dechrau yn 2026/27 na thu hwnt i hynny.

Os ydych yn penderfynu oedi cyn cychwyn yn y Brifysgol ar ôl ennill ysgoloriaeth, byddwch yn colli’ch ysgoloriaeth a bydd yn rhaid i chi gyflwyno cais newydd y flwyddyn ganlynol. Ni all y rhai sydd eisoes yn astudio rhaglen ôl-raddedig ei defnyddio ychwaith.

Gallwch bori drwy ein rhaglenni A-Y.

Os nad ydych yn siŵr a ydych yn gymwys i gyflwyno cais am yr ysgoloriaethau hyn, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch ebost at: studentconnect@caerdydd.ac.uk

Dyddiadau pwysig

Dyma’r dyddiadau pwysig ar gyfer ysgoloriaethau 2025/26:

DyddiadYr hyn mae angen i chi wneud

Dydd Llun 7 Ebrill 2025

Rhaid cyflwyno

(a) cais i astudio rhaglen ôl-raddedig gymwys a addysgir a

(b) cais am ysgoloriaeth

erbyn y dyddiad hwn os ydych am gael eich ystyried yn y rownd gyntaf.

Dydd Llun 7 Gorffennaf 2025

Rhaid cyflwyno

(a) cais i astudio rhaglen ôl-raddedig gymwys a addysgir a

(b) cais am ysgoloriaeth

erbyn y dyddiad hwn os ydych am gael eich ystyried yn yr ail a thrydedd rownd.

Wythnos ar ôl cael hysbysiad ffurfiol o gynnig ysgoloriaeth

Rhaid derbyn ysgoloriaethau ymhen wythnos ar ôl cael hysbysiad o gynnig ffurfiol. Os ydych eisoes wedi derbyn cynnig i astudio, bydd angen i chi dderbyn y cynnig hwn yn gadarn hefyd. Byddwn yn ailddyrannu ysgoloriaethau na chaiff eu derbyn.

Ni fyddwn yn ystyried ceisiadau sy’n cyrraedd ar ôl y dyddiad cau cyntaf tan ar ôl yr ail ddyddiad cau. Ni fyddwn yn ystyried ceisiadau sy’n cyrraedd ar ôl yr ail ddyddiad cau.

Cofiwch hefyd wneud yn siŵr ein bod ni wedi derbyn eich cais am raglen, gan gynnwys cyfeiriadau a thrawsgrifiadau, erbyn yr un dyddiad cau er mwyn i chi fod yn gymwys i gyflwyno cais am yr ysgoloriaeth.

Sut i wneud cais

Gwneir ceisiadau ar-lein dryw’r Porth Ymgeiswyr. Unwaith caiff eich cais ei dderbyn, bydd dolen i’r ffurflen gais ar gyfer yr Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Meistr ar gael ar Borth Cyflwyno Cais Ar-lein SIMS.

Bydd ymgeiswyr newydd yn derbyn manylion mewngofnodi ar gyfer y Porth Ymgeiswyr drwy ebost. Bydd myfyrwyr presennol a blaenorol yn gallu mewngofnodi gan ddefnyddio eu manylion mewngofnodi presennol, a dod o hyd i’r ddolen ar gyfer gwneud cais am yr ysgoloriaeth ar y sgrîn ‘Fy Nghais’ ar SIMS.

Gallai gymryd hyd at 48 awr ar ôl cyflwyno eich cais ar gyfer y rhaglen cyn i chi gael mynediad llawn at y Porth Ymgeiswyr. Felly, rydym yn eich cynghori i wneud cais ar gyfer eich rhaglen astudio ymhell ymlaen llaw.

Byddwch yn dal i allu cael mynediad at y ffurflen gais tan yr ail ddyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais am ysgoloriaeth. Os nad yw’r ffurflen gais ar gael, anfonwch ebost at studentconnect@caerdydd.ac.uk er mwyn i ni roi cyngor i chi.

Byddwn yn ystyried un cais ar gyfer ponb ymgeisydd, a dim ond y cais mwyaf diweddar i chi ei gyflwyno a gaiff ei ystyried.

Mae arweiniad ar gael isod hefyd ynghylch sut i lenwi’r ffurflen gais.

Os byddwch yn profi unrhyw broblemau wrth gyflwyno, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Myfyrwyr.

Derbyn cynnig

Rhaid derbyn ysgoloriaethau ymhen wythnos ar ôl cael hysbysiad o gynnig ffurfiol. Byddwn yn ailddyrannu ysgoloriaethau na chaiff eu derbyn. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio eich ebost gohebu’n rheolaidd.

Telerau ac amodau

Amodau’r cynnig

  • Mae’r ysgoloriaeth sy’n cael ei chynnig yn amodol ar ymrestru i ddilyn y rhaglen a nodir yn y cais. Os na dderbynnir eich cynnig i astudio erbyn dydd Gwenr 29 Awst 2025 yna gellir tynnu cynigion ysgoloriaeth yn ôl.
  • Mae’r cynnig hefyd yn ddarostyngedig i unrhyw amodau eraill a amlinellir yn yr ebost a anfonwyd atoch yn cynnig yr ysgoloriaeth.
  • Bydd angen derbyn y telerau a’r amodau hyn cyn y gellir dyfarnu’r ysgoloriaeth.
  • Rhaid derbyn y Telerau ac Amodau erbyn y dyddiad nodwyd yn yr ebost sy’n cynnig eich ysgoloriaeth.
  • Disgwylir i chi fod wedi cyrraedd a chofrestru ym Mhrifysgol Caerdydd erbyn y dyddiad dechrau a nodir yn y llythyr sy’n cynnig lle i chi, neu’r dyddiad a nodir gan eich Ysgol academaidd.
  • Dim ond ar gyfer y rhaglen a nodir ar eich ffurflen gais am ysgoloriaeth y gellir defnyddio’r ysgoloriaeth. Ni ellir trosglwyddo ysgoloriaethau rhwng unigolion a dim ond ar gyfer gradd Meistr a addysgir neu radd Meistr Ymchwil (MRes) ym Mhrifysgol Caerdydd y gellir eu defnyddio.
  • Bydd pob penderfyniad a wneir gan y Panel yn derfynol ac ni fydd modd apelio. Oherwydd y nifer uchaf o geisiadau a dderbyniwyd, ni fydd adborth ar gael.

Eich ysgoloriaeth

  • Bydd yr ysgoloriaeth ar ffurf gostyngiad yn y ffi dysgu ac ni thelir dim arian yn uniongyrchol i chi. Bydd yr ysgoloriaeth yn lleihau’r swm sy’n daladwy i’r Brifysgol. Yna bydd gweddill y ffioedd dysgu'n daladwy yn ôl ein polisi ffioedd dysgu.
  • £3,000 yw swm yr ysgoloriaeth ar gyfer gradd Meistr a addysgir 180 credyd.
  • Os ydych yn fyfyriwr yn y DU sy'n derbyn Ysgoloriaeth Meistr Prifysgol Caerdydd gwerth £3,000, ni allwch dderbyn y gostyngiad cyn-fyfyrwyr yn ogystal â hynny.
  • Disgwylir i chi dalu am weddill eich astudiaethau o ffynonellau eraill.
  • Mae Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Meistr ar gael ar gyfer hyd at un flwyddyn academaidd ar gyfer rhaglenni llawn-amser, a dwy flynedd academaidd ar gyfer myfyrwyr rhan-amser. Ni fydd myfyrwyr sy’n astudio cwrs llawn amser dros flwyddyn o hyd, neu gwrs rhan-amser dros ddwy flynedd o hyd, yn cael mwy o arian ar gyfer y blynyddoedd ychwanegol.
  • Ar gyfer rhaglenni rhan amser, mae’r ysgoloriaeth a amlinellir 2.2 yn 2.2 yn gymwys pro rata dros ddwy flynedd o astudio.
  • Yn yr ysgoloriaeth, nid oes modd cael arian yn lle’r gostyngiad ar y ffi dysgu, na throsglwyddo’r arian nac unrhyw amrywiad arall.
  • Chi sy’n atebol am bob cost arall sy’n gysylltiedig â’ch astudiaeth nad yw wedi’i chynnwys yn benodol yn y llythyr sy’n cynnig ysgoloriaeth i chi.
  • Dim ond i fyfyrwyr sy’n ariannu eu hunain y mae’r ysgoloriaethau ar gael. Os yw eich ffioedd dysgu’n cael eu hariannu’n llawn neu’n rhannol gan gorff noddi arall (megis llywodraeth eich mamwlad neu sefydliad preifat), bydd rhaid i chi ad-dalu’r ysgoloriaeth i Brifysgol Caerdydd hyd at y cyfanswm a delir gan y corff sy’n eich noddi. Nid yw hyn yn cynnwys cyllid ar ffurf benthyciad.

Eich cyfrifoldebau

  • Disgwylir i chi gychwyn eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd ym mis Medi 2025. Nid oes modd gohirio’r ysgoloriaeth hon i’r dyfodol. Os na fyddwch yn gallu dod ym mis Medi 2025, bydd angen gwneud cais newydd am ysgoloriaeth er mwyn eich ystyried am unrhyw ysgoloriaeth yn y dyfodol.
  • Mae disgwyl i chi gwblhau’ch cwrs o fewn yr hyd safonol a nodir. Os ceir toriad yn eich astudiaethau, nid oes modd trosglwyddo’r ysgoloriaeth i’r dyfodol.
  • Bydd rhaid i chi ddilyn, a chydymffurfio’n llwyr â rheolau a rheoliadau Prifysgol Caerdydd, ynghyd â’r holl amodau a thelerau academaidd a'r amodau a thelerau eraill sy’n gysylltiedig â’ch rhaglen astudio.
  • Bydd angen i chi dalu gweddill eich ffioedd dysgu yn ôl ein polisi ffioedd dysgu.
  • Disgwylir i chi gymryd rhan mewn gweithgareddau cysylltiadau cyhoeddus a llysgenhadol yn ystod eich amser ym Mhrifysgol Caerdydd. Gallant gynnwys cyfweliadau, cyfleoedd tynnu llun a mynd i ddigwyddiadau (ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhain), ond ni fyddant yn tarfu ar eich astudiaethau. Ni ddisgwylir y bydd dros 50 awr o weithgareddau gwirfoddol drwy gydol eich astudiaethau.

Terfynu

  • Mae gan Brifysgol Caerdydd yr hawl unrhyw dro, ac fel y mynna, i derfynu’ch ysgoloriaeth os gwelir:
    • Eich bod wedi torri rheolau neu reoliadau Prifysgol Caerdydd gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, Reoliadau Academaidd y Brifysgol.
    • Eich bod wedi ymddwyn yn amhriodol sy’n anghyson, ym marn Prifysgol Caerdydd, â’i hethos a’i ffordd o weithredu.
    • Eich bod wedi torri amodau a thelerau’r ysgoloriaeth yn sylweddol, fel y nodwyd yn y cytundeb hwn.
    • Eich bod wedi methu â sicrhau cynnydd boddhaol yn eich astudiaethau academaidd.
  • Prifysgol Caerdydd yn unig fydd yn penderfynu ar derfynu o’r fath, ac ni fydd dim rhwymedigaeth ar y Brifysgol.

Drwy lenwi’r ffurflen ar-lein sydd yn eich ebost i dderbyn yr ysgoloriaeth, tybir eich bod wedi deall y telerau ac amodau hyn ac yn eu derbyn yn llawn.

Canllawiau pellach

Darllenwch y canllawiau hyn cyn llenwi’r ffurflen gais ar gyfer Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Meistr Prifysgol Caerdydd. Cymerwch ofal wrth lenwi’r ffurflen oherwydd gall camgymeriadau arwain at y cais yn cael ei wrthod.

Tudalen 1: Manylion personol

Rhif Cais Myfyriwr Prifysgol Caerdydd

Rhowch y rhif myfyriwr 7 digid unigryw y mae Prifysgol Caerdydd wedi’i roi i chi. Mae’r rhif ar unrhyw ohebiaeth gan ein Hadran Gofrestru e.e. y llythyr sy’n cynnig lle i chi. Rhaid cynnwys hwn er mwyn i chi gael eich ystyried ar gyfer dyfarniad.

Cyfeiriad ebost

Rhai defnyddio cyfeiriad ebost dilys. Dyma’r dull cysylltu sydd orau gennym, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi’r cyfeiriad yn gywir a gwirio'n rheolaidd am gyfathrebiadau o ran yr Ysgoloriaeth.

Teitl y cwrs/gradd

Rhowch deitl y rhaglen ôl-raddedig a addysgir yr ydych wedi cael gwneud cais i’w hastudio ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ysgol Academaidd yr ydych wedi cyflwyno cais iddi

Nodwch ym mha Ysgol y cynhelir eich rhaglen. Os cynhelir eich rhaglen mewn mwy nag un ysgol, dewiswch bob ysgol berthnasol. Os nad ydych yn siŵr, edrychwch ar ein cronfa ddata o gyrsiau.

Tudalen 2 a 3: Cymwysterau diweddaraf / cymwysterau heb eu cadarnhau

Rhowch enw a chyfeiriad llawn (gan gynnwys gwlad) y sefydliad addysgol y buoch ynddo wrth i chi gwblhau’ch cymhwyster diweddaraf.

Rhowch ddyddiadau’r cyfnod y buoch yno, manylion unrhyw gymwysterau y ceisiwyd eu hennill neu y llwyddwyd eu hennill, gan gynnwys yr enw llawn a’r pwnc, y graddau a gawsoch neu y disgwylir y chi eu cael, a dyddiad dyfarnu’r cymwysterau (neu y disgwylir dyfarnu’r cymwysterau).

Nid oes angen i chi anfon unrhyw ddogfennau ategol atom. Ni fyddwn yn ystyried unrhyw wybodaeth ategol a anfonir.

Tudalen 4: Datganiadau ategol

Ysgrifennwch gyfres o ddatganiadau byr i ategu eich cais am ysgoloriaeth. Dim ond hyd at 200 gair (tua 1,400 gair fesul adran) a ganiateir (200 gair fesul adran, 1,400 o gymeriadau, gan gynnwys bylchau gwyn).

Dim ond gwybodaeth sy’n berthnasol i’ch cais y dylech ei chynnwys, a pheidiwch mynd dros uchafswm y geiriau a ganiateir. Ni fyddwn yn ystyried unrhyw wybodaeth sy’n mynd dros yr uchafswm. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio hwn drwy ddefnyddio meddalwedd prosesu geiriau.}>

Cewch ddehongli’r adran Datganiadau Cefnogi ar y ffurflen gais fel y mynnwch. Ni ddarperir canllawiau ar sut y dylid dehongli’r rhan hon a’i hateb. Byddwn yn asesu eich gallu i ddehongli’r cwestiynau ac ymateb yn briodol iddynt yn rhan o’r broses asesu ar gyfer yr ysgoloriaethau. Nid oes enghreifftiau o ffurflenni cais a datganiadau ategol ar gael.

Mae penderfyniadau’r paneli dewis yn derfynol ac ni fydd modd apelio. O ganlyniad i nifer y ceisiadau a gafwyd, ni roddir adborth ynghylch ceisiadau.

Tudalen 5: Y dudalen olaf

Ariannu eich astudiaethau

Nodwch sut rydych yn bwriadu talu am weddill eich ffioedd dysgu neu eich costau byw.

Nid yw'r Ysgoloriaeth Rhagoriaeth Meistr yn talu’r ffioedd dysgu llawn nac yn rhoi unrhyw gymorth tuag at dalu costau byw. Felly, ni ddylech ddibynnu’n llwyr ar gael ysgoloriaeth i ariannu hyn. Cewch ragor o wybodaeth am ffynonellau arian eraill ychwanegol ar ein gwefan.

Ni fydd myfyrwyr sy’n cael eu hariannu’n llawn gan ffynonellau eraill (megis y Llywodraeth, elusennau neu sefydliadau preifat) yn gymwys i gael ysgoloriaeth.

Nid yw’r Benthyciad Ôl-raddedig sydd ar gael drwy Gyllid Myfyrwyr Cymru a Lloegr (gan ddibynnu ar leoliad y cartref) yn cael ei ystyried yn ysgoloriaeth ac os mai dyma yw eich unig ffynhonnell arall o gyllid, byddech yn dal i fod yn gymwys am yr Ysgoloriaeth Rhagoriaeth Meistr lawn.

Marchnata a chysylltiadau cyhoeddus

Rhaid i’r ymgeiswyr llwyddiannus gytuno i ganiatáu i Brifysgol Caerdydd ddefnyddio’r wybodaeth a gesglir ar gyfer gweithgareddau marchnata megis:

  • cyhoeddiadau
  • gwefannau
  • gweithgareddau recriwtio
  • gweithgareddau hyrwyddo’r ysgoloriaeth.

Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus gytuno hefyd i fynd i unrhyw ddigwyddiadau gwobrwyo a bod yn llysgennad i Brifysgol Caerdydd yn ystod eu hastudiaethau ac am 5 mlynedd ar ôl graddio.

Datganiad

Cadarnhewch fod yr holl wybodaeth yn y cais hwn yn gywir.

Hwyrach y byddwn yn cysylltu â chi i gael mwy o wybodaeth neu dystiolaeth o’r hyn yr ydych wedi’i gyflwyno yn eich datganiadau ategol.

Datrys problemau

Mae SIMS yn defnyddio cyfuniad o ddata ceisiadau a rhaglenni i benderfynu a yw’r ddolen ar gyfer gwneud cais yn cael ei dangos ai peidio. Os ydych chi wedi gwirio eich bod yn gymwys ar gyfer yr ysgoloriaeth, ond yn methu â gweld y ddolen ar gyfer gwneud cais yn SIMS, cysylltwch â ni drwy ebost yn studentconnect@caerdydd.ac.uk.

Nid SIMS sy’n ymdrin â’r cais ar gyfer ysgoloriaeth, felly ni all SIMS ddiweddaru statws eich cais am ysgoloriaeth. Mae’r dderbynneb a geir wrth gyfer cyflwyno cais yn ddigon i gadarnhau eich bod wedi cyflwyno cais. Byddwn yn cysylltu â chi drwy ebost i roi gwybod i chi pan fydd penderfyniad wedi’i wneud. Mae’n bosibl y bydd eich gwasanaeth ebost yn rhoi ein negeseuon ebost yn y ffolderi sbam/sothach.

Bydd y paneli dewis yn y Brifysgol yn ystyried meini prawf pwysig yn eich cais yn ogystal â’ch datganiad ategol wrth asesu’ch ffurflen gais:

  • Rhagoriaeth academaidd: Rydym am weld myfyrwyr yn dangos eu llwyddiannau academaidd yn ogystal ag enghreifftiau eraill o’u datblygiad personol, megis dysgu drwy brofiad gwaith, gwaith gwirfoddol, neu brofiadau dysgu allgyrsiol;
  • Cyfraniad i gymdeithas: Byddwn yn edrych yn ffafriol ar ymgeiswyr sy’n dangos eu bod yn ymwybodol o sut bydd ennill cymhwyster ym Mhrifysgol Caerdydd yn helpu i gyfrannu at eu cymuned, eu cymdeithas neu eu gwlad;

Mae penderfyniad y panel dewis yn derfynol ac ni fydd modd apelio.

Cynnig diamod i astudio

Mae ‘cynnig diamod’ yn golygu eich bod wedi bodloni’r holl ofynion academaidd ac anacademaidd ar gyfer cwrs fel y pennwyd gan y tiwtor derbyn, ac mae’r Brifysgol yn cynnig lle i chi astudio ar gwrs. Mae’n bosib y bydd angen prawf o gymwysterau ond bydd y Brifysgol yn cysylltu â chi os bydd angen hyn.

Cynnig amodol i astudio

Mae ‘cynnig amodol’ yn golygu bod y Brifysgol wedi gwneud cynnig i chi astudio ar yr amod eich bod yn bodloni amodau penodol. Dyma’r amodau sy’n angenrheidiol yn ôl y tiwtor derbyn er mwyn i chi fodloni’r gofynion mynediad ar gyfer y cwrs. Os byddwch yn cael cynnig amodol i astudio, yna dylech anfon eich trawsgrifiadau i’r Swyddfa Derbyn Myfyrwyr cyn gynted ag y byddwch yn eu cael. Os bydd y tiwtor derbyn o’r farn eich bod wedi bodloni’r amodau, bydd eich cynnig yn un ‘diamod’ wedyn.

Os byddwch yn llwyddiannus ac yn cael eich dewis i gael ysgoloriaeth, bydd y Brifysgol yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl ar ôl y dyddiad cau dan sylw.

Derbyn eich cynnig

Bydd yn ofynnol ar bob derbynnydd i dderbyn yr ysgoloriaeth a’i hamodau yn ffurfiol, drwy lenwi ffurflen dderbyn ar-lein. Ni roddir estyniadau mewn unrhyw amgylchiadau. Mae’n hanfodol eich bod yn gwirio eich ebost yn rheolaidd ar gyfer cyfathrebiadau oddi wrthym.

Efallai fod yr ysgoloriaeth a gynigir i chi yn amodol ar ennill gradd benodol yn eich gradd, a gallai fod yn radd uwch na’r hyn oedd yn ofynnol yn eich cynnig amodol i astudio.

Derbyn taliadau’r ysgoloriaeth

Cyflwynir ysgoloriaethau ar ffurf gostyngiad mewn ffioedd dysgu. Os ydych wedi llwyddo i gael ysgoloriaeth, byddwn yn gwneud y taliadau angenrheidiol tuag at ffioedd dysgu’r Brifysgol ar eich rhan, a byddwn yn rhoi gwybod i chi am hyn.

Y rhai sy’n cael yr ysgoloriaeth sy’n gyfrifol am sicrhau bod yr holl ffioedd a chostau eraill (gan gynnwys gweddill y ffioedd dysgu, ffioedd llety) yn cael eu talu erbyn y dyddiadau cau priodol.

Nid yw’r ysgoloriaethau yn talu’r holl ffioedd dysgu. Rhaid i’r myfyriwr dalu unrhyw gostau ychwanegol ar gyfer astudio a ddaw i ran enillwyr yr ysgoloriaeth ac nad ydynt yn dod o dan fanylion yr ysgoloriaeth y mae wedi’i chael.

Lleoliadau gwaith

Gyda rhaglenni amser llawn, dim ond ar gyfer blwyddyn gyntaf eich rhaglen y mae’r ysgoloriaeth ar gael. Os ydych yn astudio rhaglen amser llawn sy’n para dros flwyddyn, ni chewch arian o’r ysgoloriaeth hon neu’r ysgoloriaeth ddilynol ar gyfer y blynyddoedd ychwanegol.

Os byddwch yn rhoi’r gorau i astudio, neu os gofynnir i chi wneud hynny, cyn i chi gwblhau’ch gradd, neu os nad ydych yn cwblhau’ch gradd o Brifysgol Caerdydd, bydd yn rhaid i chi ad-dalu rhan o’r arian neu’r holl arian a gawsoch o’r Ysgoloriaeth Rhagoriaeth Meistr ar sail pro rata.

Eich cyfrifoldebau

Yn ystod eich cyfnod astudio ac ar ei ôl, mae’n bosib y gofynnir i chi gymryd rhan mewn gweithgareddau hyrwyddo ar ran y Brifysgol. Gall hyn gynnwys derbyniadau a digwyddiadau cymdeithasol, erthyglau tystiolaeth a chyhoeddusrwydd neu hyd yn oed helpu mewn gweithgareddau yn eich mamwlad.

Cysylltu

Anfonwch ebost at studentconnect@caerdydd.ac.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ysgoloriaethau, y broses o gyflwyno cais neu os bydd angen rhagor o arweiniad arnoch.