Ewch i’r prif gynnwys

Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol NERC

Bydd cyfanswm o 190 o ysgoloriaethau ymchwil ôl-raddedig a ariennir yn llawn yng Ngwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd ar gael ar draws Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol GW4 +.

NERC Science of the Environment

Nod y rhaglen PhD 3.5 blynedd hon fydd cyflwyno rhagoriaeth ymchwil, amlddisgyblaethol a chyflogadwyedd ar yr un pryd.

Mewn ymateb i feini prawf cymhwysedd newydd UKRI, mae Prifysgol Caerdydd yn falch o gyhoeddi y bydd yn cynnig gostyngiadau ffioedd rhyngwladol i ymgeiswyr llwyddiannus UKRI. Bydd y ffioedd yr un peth â lefel y ffioedd cartref. Mae'r dull hwn yn sicrhau y bydd myfyrwyr waeth beth yw eu cenedligrwydd neu sefyllfa ariannol yn gallu ymgeisio am ein hysgoloriaethau UKRI. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn efrydiaeth a ariennir yn llawn ac ni chodir y gwahaniaeth ffioedd rhyngwladol arnynt.

Themâu ymchwil

Mae'r prosiectau sydd ar gael yn dod o dan un o'r tair Thema Ymchwil sy'n cwmpasu hyd a lled Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd NERC:

  • Daear Gadarn: Daear Gadarn a Daeareg y Planedau; Peryglon Naturiol; ac Adnoddau
  • Byd Byw: Ecoleg, Cadwraeth a Bioamrywiaeth; Genomau ac Esblygiad; a Chylchoedd Biogeogemegol
  • Planed sy'n Newid: Atmosfferau, Moroedd ac Iâ; Newid yn yr Hinsawdd ac Effeithiau; a Dŵr

Partneriaethau

Mae GW4+ yn un o 15 o Bartneriaethau Hyfforddiant Doethurol NERC, a hon yw'r un fwyaf o'i math yn y DU. Mae'r bartneriaeth craidd yn cynnwys:

  • Prifysgol Bryste
  • Prifysgol Caerwysg
  • Prifysgol Caerfaddon
  • Prifysgol Caerdydd
  • Arolwg Antarctig Prydain (BAS)
  • Arolwg Daearegol Prydain (BGS)
  • Y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg (CEH)
  • Y Swyddfa Dywydd
  • Amgueddfa Hanes Naturiol (NHM)
  • Labordy Morol Plymouth (PML)

Mae hefyd yn dod â thros 30 o sefydliadau ymchwil, diwydiannol a thrydydd sector ynghyd i roi amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddiant, ymchwil a datblygu arloesol. Nod y Bartneriaeth yw sicrhau bod o leiaf 30 y cant o fyfyrwyr yn gweithio gyda phartneriaid academaidd. Bydd hyn yn rhoi profiad diwydiannol gwerth chweil iddynt fydd yn eu galluogi i ddilyn amrywiaeth eang o yrfaoedd amgylcheddol.

Mae'r broses o gyflwyno cais ar gyfer yr ysgoloriaethau PhD a ariennir yn llawn yn dechrau fis Hydref bob blwyddyn er mwyn dechrau astudio ddiwedd mis Medi y flwyddyn ganlynol.

Rydym hefyd yn bartner yng Nghanolfan Hyfforddiant Doethurol mewn Olew a Nwy NERC a'r Ganolfan Hyfforddiant Doethurol NERC GW4 (CDT) mewn Dŵr Croyw.

Rhagor o wybodaeth

Gallwch ymweld â'n gwefan DTP am ragor o fanylion a sut i wneud cais.

Cysylltwch â ni i ddangos eich diddordeb yn y cyllid hwn os hoffech dderbyn y newyddion diweddaraf am unrhyw ysgoloriaethau pellach sy'n cael eu cyhoeddi o dan y cynllun hwn.