Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol AHRC
Mae Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru a De a Gorllewin Lloegr AHRC (SWW2) yn gonsortiwm sy’n cynnwys Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Aberystwyth, Amgueddfa Cymru, Prifysgol Spa Caerfaddon, Prifysgol Bryste, Prifysgol Cranfield, Prifysgol Caerwysg, Prifysgol Reading, Prifysgol Southampton a Phrifysgol Gorllewin Lloegr.
Trosolwg
Gan adeiladu ar y cryfderau a’r partneriaethau a ddatblygwyd ar SWW1, mae SWW2 yn cynnig efrydyddiaethau ôl-raddedig sydd wedi’i dylunio er mwyn hyfforddi cenhedlaeth newydd o ymchwilwyr proffesiynol yn y Celfyddydau a'r Dyniaethau ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd, gan gynnwys y byd academaidd a’r sectorau diwylliannol a diwydiannol.
Mewn ymateb i feini prawf cymhwysedd newydd UKRI, mae Prifysgol Caerdydd yn falch o gyhoeddi y bydd yn cynnig gostyngiadau ffioedd rhyngwladol i ymgeiswyr llwyddiannus UKRI. Bydd y ffioedd yr un peth â lefel y ffioedd cartref. Mae'r dull hwn yn sicrhau y bydd myfyrwyr waeth beth yw eu cenedligrwydd neu sefyllfa ariannol yn gallu ymgeisio am ein hysgoloriaethau UKRI. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn efrydiaeth a ariennir yn llawn ac ni chodir y gwahaniaeth ffioedd rhyngwladol arnynt.
Meysydd pwnc
Y Dyniaethau
- Archaeoleg
- Clasuron
- Astudiaethau Diwylliannol ac Amgueddfa
- Hanes
- Astudiaethau Cyfreithiol a’r Gyfraith
- Athroniaeth
- Gwyddor Wleidyddol ac Astudiaethau Rhyngwladol (Diplomyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol)
- Diwinyddiaeth a Chrefydd
- Daearyddiaeth Ddiwylliannol
Dylunio a'r celfyddydau
- Celfyddydau Gweledol: Hanes Celfyddyd Gain, Theori ac Ymarfer
- Celfyddydau Gweledol: Hanes, Theori ac Ymarfer Celfyddydau Cymhwysol
- Celfyddydau Gweledol: Hanes, Theori ac Ymarfer Celfyddydau Digidol a Ffotograffiaeth
- Celfyddydau Gweledol (gan gynnwys Theori ac Estheteg y Celfyddydau; Celfyddydau Cymunedol a Hanes Celfyddydau Sain; Hanes, Theori ac Ymarfer ar Sail Ffilmiau ac Amser)
- Cerddoriaeth
- Dawns
Iaith ac astudiaethau diwylliannol
- Ieithoedd a Llenyddiaeth (gan gynnwys Astudiaethau Americanaidd, Ysgrifennu am Fywyd, Hanes a Datblygiad yr Iaith Saesneg, Theori Llenyddol a Diwylliannol, Astudiaethau Ôl-drefedigaethol, Llenyddiaeth Gymharol, Llenyddiaeth Ganoloesol, Astudiaethau Cymharol, Rhyw a Rhywioldeb)
- Ieithoedd a Llenyddiaeth: Astudiaethau Asiaidd a Dwyreiniol
- Ieithoedd a Llenyddiaeth: Ethnograffeg ac Anthropoleg
- Ieithoedd a Llenyddiaeth: Astudiaethau Celtaidd
- Ieithoedd a Llenyddiaeth: Ysgrifennu Creadigol
- Astudiaethau Diwylliannol (Polisi, Rheoli’r Celfyddydau a’r Diwydiannau Creadigol)
- Astudiaethau Diwylliannol a Diwylliant Poblogaidd
Bydd ceisiadau am fynediad ym mis Hydref 2024 yn agor ddydd Llun 27 Tachwedd 2023, ac yn cau ddydd Llun 22 Ionawr 2024.
Partneriaethau
Mae cydweithio rhwng y prifysgolion sy’n aelodau a sefydliadau partner yn ganolog i ethos y DTP, a byddwch yn cael eich cefnogi gan dîm goruchwylio ar y cyd o Brifysgol Caerdydd a sefydliad arall yn y consortiwm. Gall myfyrwyr hefyd elwa ar allu defnyddiol adnoddau cyfunol y Bartneriaeth a chyfleoedd hyfforddi. Yn ogystal, bydd gan fyfyrwyr gyfleoedd ar gyfer lleoliadau gwaith gydag ystod o bartneriaid yn y sectorau creadigol a diwylliannol.
Rhagor o wybodaeth
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru a De a Gorllewin Lloegr.
Cysylltwch â ni a nodwch eich diddordeb mewn Cyllid Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol AHRC De, Gorllewin a Chymru ac os ydych eisiau cael y newyddion diweddaraf am unrhyw ysgoloriaethau pellach sy'n cael eu cyhoeddi gan y cynllun.
Gallwch chwilio am ysgoloriaeth neu gael rhagor o wybodaeth am gyllid.