Ewch i’r prif gynnwys

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch chi’n dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2025 neu ar ôl hynny, efallai y byddwch chi’n gallu gwneud cais am gyllid gan Lywodraeth y DU i ôl-raddedigion i gefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion ar wahân i gyllid ar gyfer israddedigion ac nid yw unrhyw gyllid a gawsoch yn flaenorol yn ystod eich amser yn fyfyriwr israddedig, yn gysylltiedig â'ch benthyciad ar gyfer astudiaethau ôl-radd.

Bydd y benthyciad sydd ar gael i chi’n fyfyriwr ôl-raddedig yn dibynnu ar ble rydych chi fel arfer yn byw cyn i chi ddechrau eich cwrs a'r cwrs rydych chi'n bwriadu ei astudio. Bydd y pecyn ariannu sydd ar gael i chi yn dibynnu ar y cwrs o’ch dewis a ble rydych chi’n byw cyn dechrau astudio.

Sylwch, os ydych chi’n fyfyriwr israddedig cyfredol yng Nghymru ac yn bwriadu symud ymlaen ar unwaith i ddilyn cwrs ôl-raddedig ar ôl graddio, y bydd yn rhaid ichi wneud cais i'r corff cyllido yn seiliedig ar ble roeddech chi'n byw cyn ichi ddechrau eich cwrs israddedig.

Mynnwch gip ar yr wybodaeth sy’n ymwneud â chyllid ar gyfer y wlad rydych chi fel arfer yn byw ynddi:

Os ydych chi’n byw yng Nghymru fel arfer ac yn bwriadu dechrau cwrs Meistr ym mis Medi 2025 yna gallwch chi wneud cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru i gael cyllid ôl-raddedig.

Pa gyllid sydd ar gael?

Gallai pob myfyriwr cymwys sydd fel arfer yn byw yng Nghymru cyn dechrau’r cwrs, ac sy'n astudio cwrs cymwys, gael benthyciad nad yw’n destun prawf modd hyd at uchafswm o £19,255 dros gyfnod y cwrs er mwyn helpu i dalu costau ffioedd dysgu a chostau byw cyffredinol.

Bydd y cyllid hwn yn cael ei dalu'n uniongyrchol i fyfyrwyr, fel arfer ar ffurf tri thaliad; un ar ddechrau pob tymor. Fel arfer, byddwch chi’n cael y taliad cyntaf ymhen 3-5 diwrnod gwaith ar ôl ichi orffen ymrestru a chasglu eich cerdyn adnabod. Felly, mae'n bwysig gwneud yn siŵr bod arian gennych chi ar gyfer o leiaf bythefnos pan fyddwch chi’n cyrraedd y Brifysgol.

Yn wahanol i gyllid israddedig, nid oes benthyciad penodol o ran ffioedd dysgu ac mae’n rhaid talu ffioedd dysgu yn uniongyrchol i'r Brifysgol.

Os byddwch chi’n astudio ar gwrs rhan-amser cymwys, yna bydd y cyllid yn cael ei rannu ar draws blynyddoedd academaidd eich cwrs. Yr uchafswm sydd ar gael ar gyfer cwrs rhan-amser fydd yn dechrau ym mis Medi 2025 yw £19,255 o hyd.

Bod yn gymwys

Bydd p’un a allwch chi gael cyllid i ôl-raddedigion gan Gyllid Myfyrwyr Cymru yn dibynnu ar:

  • eich cenedligrwydd a’ch gwlad breswyl
  • eich cwrs
  • eich prifysgol neu goleg
  • eich oedran
  • eich astudiaethau blaenorol
  • os ydych chi’n derbyn cyllid arall, megis bwrsariaeth y GIG neu fwrsariaeth Gwaith Cymdeithasol

Mae rhagor o fanylion am y meini prawf o ran bod yn gymwys ar gael ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Arian ychwanegol gan Gyllid Myfyrwyr Cymru

Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau personol hwyrach y bydd cyllid ychwanegol ar gael ichi drwy'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl os oes gennych chi anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor. Ewch i Gyllid Myfyrwyr Cymru i gael rhagor o wybodaeth.

Sut i wneud cais am gyllid

Nid yw’r cyfnod ymgeisio i fyfyrwyr sydd fel arfer yn byw yng Nghymru, ac sy’n bwriadu dechrau cwrs ym mis Medi 2025, ar agor eto. Gwiriwch gyda Chyllid Myfyrwyr Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch pryd fydd y cyfnod ymgeisio i ddechrau yn 2025 yn agor.

Cyllid ychwanegol gan Brifysgol Caerdydd

Costau byw yng Nghaerdydd

Mae Caerdydd yn cael ei hystyried yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy'r DU i fyw ynddi yn ystod eich astudiaethau. Defnyddiwch ein teclyn cyfrifo costau byw i weld faint mae’n ei gostio i fyw yng Nghaerdydd ar gyfartaledd yn fyfyriwr ôl- raddedig amser llawn.

Ad-dalu benthyciad i ôl-raddedigion

Bydd y rhai sy'n cael benthyciad i ôl-raddedigion drwy Gyllid Myfyrwyr Cymru ym mlwyddyn academaidd 2025/26 yn ad-dalu hyn o dan y Cynllun Benthyciadau i Ôl-raddedigion.

Os byddwch chi’n ad-dalu unrhyw fenthyciadau i israddedigion (benthyciad ffioedd dysgu a/neu fenthyciad cynhaliaeth), bydd ad-daliadau’r benthyciad i ôl-raddedigion yn cael eu cymryd ar ben ad-daliadau’r benthyciad i israddedigion.  Mae hyn yn golygu ei bod yn bosibl y byddwch chi’n ad-dalu eich benthyciadau Israddedig ac Ôl-raddedig ar yr un pryd os byddwch chi’n ennill mwy na’r trothwy ad-dalu.

Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am sut mae benthyciadau i ôl-raddedigion yn cael eu had-dalu yma.

Os ydych chi’n byw fel arfer yn Lloegr ac yn bwriadu dechrau cwrs Meistr ym mis Medi 2025, yna gallwch chi wneud cais i Student Finance England i gael cyllid ôl-raddedig.

Pa gyllid sydd ar gael?

Gallai pob myfyriwr cymwys sydd fel arfer yn byw yn Lloegr cyn dechrau’r cwrs, ac sy'n astudio cwrs cymwys, gael benthyciad nad yw’n destun prawf modd hyd at uchafswm o £12,858 dros gyfnod y cwrs er mwyn helpu i dalu costau ffioedd dysgu a chostau byw cyffredinol.

Bydd y cyllid hwn yn cael ei dalu'n uniongyrchol i fyfyrwyr, fel arfer ar ffurf tri thaliad; un ar ddechrau pob tymor. Fel arfer, byddwch chi’n cael y taliad cyntaf ymhen 3-5 diwrnod gwaith ar ôl ichi orffen ymrestru a chasglu eich cerdyn adnabod. Felly, mae'n bwysig gwneud yn siŵr bod arian gennych chi ar gyfer o leiaf bythefnos pan fyddwch chi’n cyrraedd y Brifysgol.

Yn wahanol i gyllid israddedig, nid oes benthyciad ffioedd dysgu penodol ar gael ac mae angen talu ffioedd dysgu yn uniongyrchol i'r brifysgol.

Os byddwch chi’n astudio ar gwrs rhan-amser cymwys, yna bydd yr arian yn cael ei rannu ar draws blynyddoedd academaidd eich cwrs. Yr uchafswm sydd ar gael ar gyfer y cwrs rhan-amser fydd yn dechrau ym mis Medi 2025 yw £12,858 o hyd.

Bod yn gymwys

Bydd p’un a allwch chi gael cyllid i ôl-raddedigion gan Student Finance England yn dibynnu ar:

  • eich cenedligrwydd a’ch gwlad breswyl
  • eich cwrs
  • eich prifysgol neu goleg
  • eich oedran
  • eich astudiaethau blaenorol
  • os ydych chi’n derbyn cyllid arall, megis bwrsariaeth y GIG neu fwrsariaeth Gwaith Cymdeithasol

Mae rhagor o fanylion am y meini prawf bod yn gymwys ar gael ar wefan Student Finance England.

Arian ychwanegol gan Student Finance England

Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau personol efallai y bydd cyllid ychwanegol ar gael ichi drwy'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl os oes gennych chi anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor. Ewch i Student Finance England i gael rhagor o wybodaeth.

Sut i wneud cais am gyllid

Nid yw’r cyfnod ymgeisio i fyfyrwyr sydd fel arfer yn byw yng Lloegr, ac sy’n bwriadu dechrau cwrs ym mis Medi 2025, ar agor eto. Gwiriwch gyda Student Finance England i gael y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch pryd fydd y cyfnod ymgeisio i ddechrau yn 2025 yn agor.

Cyllid ychwanegol gan Brifysgol Caerdydd

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig ystod o fwrsariaethau ac ysgoloriaethau gan ddibynnu ar eich amgylchiadau penodol.

Costau byw yng Nghaerdydd

Mae Caerdydd yn cael ei hystyried yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy'r DU i fyw ynddi yn ystod eich astudiaethau. Defnyddiwch ein teclyn cyfrifo costau byw i weld faint mae’n ei gostio i fyw yng Nghaerdydd ar gyfartaledd yn fyfyriwr ôl-raddedig amser llawn.

Ad-dalu benthyciad i ôl-raddedigion

Bydd y rhai sy'n cael benthyciad i ôl-raddedigion drwy Gyllid Myfyrwyr Lloegr ym mlwyddyn academaidd 2025/26 yn ad-dalu hyn o dan y Cynllun Benthyciadau i Ôl-raddedigion.

Os byddwch chi’n ad-dalu unrhyw fenthyciadau i israddedigion (benthyciad ffioedd dysgu a/neu fenthyciad cynhaliaeth), bydd ad-daliadau’r benthyciad i ôl-raddedigion yn cael eu cymryd ar ben ad-daliadau’r benthyciad i israddedigion.  Mae hyn yn golygu ei bod yn bosibl y byddwch chi’n ad-dalu eich benthyciadau Israddedig ac Ôl-raddedig ar yr un pryd os byddwch chi’n ennill mwy na’r trothwy ad-dalu.

Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am sut mae benthyciadau i ôl-raddedigion yn cael eu had-dalu yma.

Gellir cael mwy o wybodaeth am sut i wneud cais ar gael ar Student Awards Agency Scotland.

Gellir cael mwy o wybodaeth am sut i wneud cais ar gael ar wefan gwasanaethau llywodraeth nidirect.

Tîm Cyngor a Chyllid Myfyrwyr

Telephone
+44 (0)29 2251 8888
<Globe
Cyflwyno ymholiad