Ewch i’r prif gynnwys

Bwrsariaethau gwaith cymdeithasol

Mae bwrsariaethau gwaith cymdeithasol ar gael i fyfyrwyr o Gymru a Lloegr.

Bydd pwy y mae angen i chi gyflwyno cais iddo i ariannu eich cwrs yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw cyn i’ch cwrs ddechrau.  Bydd y myfyrwyr hynny sy’n byw yng Nghymru cyn i’w cwrs ddechrau’n cyflwyno cais i Gofal Cymdeithasol Cymru.  Bydd y rhai sy’n byw yn Lloegr cyn i’w cwrs ddechrau’n cyflwyno cais i Awdurdod Busnes y GIG.

Bwrsariaethau Gwaith Cymdeithasol i fyfyrwyr o Gymru

Cyllid yng Nghymru  Ffigurau’n seiliedig ar ddechrau’r cwrs yn 2024/25.

Bwrsariaeth (cyfraniad at gostau byw a ffioedd dysgu)£12,715Heb ei asesu ar sail incwm y cartref
Grant Oedolion Dibynnol£2,645Wedi’i asesu ar sail incwm y cartref
Lwfans Dysgu i Rieni£1,505

Wedi’i asesu ar sail incwm y cartref

Grant Gofal Plant

un plentyn - hyd at £8,330 y flwyddyn

dau neu ragor o blant - hyd at £14,285 y flwyddyn

Wedi’i asesu ar sail incwm y cartref

Bwrsariaethau gwaith cymdeithasol i fyfyrwyr o Loegr

Cyllid yn Lloegr  Ffigurau’n seiliedig ar ddechrau’r cwrs yn 2024/25.

Grant nad yw’n dibynnu ar brawf modd

£3,362.50

Heb ei asesu ar sail incwm y cartref

Grant sy’n dibynnu ar brawf modd

hyd at £2,721

Wedi’i asesu ar sail incwm y cartref

Lwfans Oedolion Dibynnol

£2,757

Wedi’i asesu ar sail incwm y cartref

Lwfans Dysgu i Rieni

£1,573

Wedi’i asesu ar sail incwm y cartref

Lwfans Gofal Plant

un plentyn – £155.25 yr wythnos

dau neu ragor o blant – hyd at £14,285 y flwyddyn

Wedi’i asesu ar sail incwm y cartref

Lwfans i Fyfyrwyr Anabl

hyd at £5,414 ar gyfer costau offer arbenigol

hyd at £20,725 ar gyfer costau cynorthwyydd anfeddygol

hyd at £1,741 ar gyfer costau cyffredinol eraill sy’n gysylltiedig â’r cwrs

Nid yw myfyrwyr sy'n gymwys ar gyfer y fwrsariaeth yn gymwys i wneud cais am fenthyciad i ôl-raddedigion.