Y cyllid sydd ar gael ar gyfer yr MSc Therapi Galwedigaethol Cyn-gofrestru a’r MSc Ffisiotherapi Cyn-gofrestru
Ar gyfer mynediad yn 2024, ceir dau opsiwn ariannu ar gyfer myfyrwyr newydd sy'n bwriadu astudio’r rhaglen MSc Therapi Galwedigaethol Cyn-gofrestru neu’r MSc Ffisiotherapi Cyn-gofrestru.
Yn amodol ar delerau ac amodau'r cyrff cyllido, y ddau opsiwn ariannu yw:
- Cynllun Bwrsariaethau GIG Cymru NEU
- Optio allan o’r Cynllun Bwrsariaethau GIG Cymru, a chael eich ariannu gan eich Corff Cyllid Myfyrwyr yn unig
Sylwer, mae’r ffordd y caiff cyllid ei ddyrannu yn amodol ar ble roeddech chi’n byw cyn dechrau’r cwrs.
Cynllun Bwrsariaethau GIG Cymru
Mae Cynllun Bwrsariaethau GIG Cymru ar gael drwy wefan Gwasanaethau Grantiau Myfyrwyr GIG Cymru. I dderbyn y cyllid hwn, bydd angen i chi ymrwymo i weithio i'r GIG yng Nghymru am 18 mis ar ôl cymhwyso.
Yn amodol ar gytuno i ymrwymo i hyn, gweler isod am y cyllid sydd ar gael (mae'r ffigurau a gaiff eu rhestru ar gyfer y flwyddyn academaidd 24/25)
- Bydd GIG Cymru yn talu eich ffioedd dysgu
- Mae GIG Cymru yn cynnig grant nad yw'n dibynnu ar brawf modd, sy’n £1000 y flwyddyn
- Mae GIG Cymru yn cynnig bwrsariaeth prawf modd o hyd at £2,643 y flwyddyn, a hynny os byddwch chi’n byw i ffwrdd o gartref eich rhieni. Os ydych chi’n byw yng nghartref eich rhieni, yna fe gaiff uchafswm y fwrsariaeth ei leihau. Efallai y bydd wythnosau ychwanegol o gymorth bwrsariaeth ar gael, mewn achosion lle mae hyd y cwrs yn hirach na'r nifer arferol o wythnosau ar gyfer y cwrs, yn amodol ar brawf modd
Mae modd gwneud cais am y cyllid hwn drwy wefan Gwasanaethau Grantiau Myfyrwyr GIG Cymru. Ewch i'r wefan i weld y telerau a’r amodau.
Yn ychwanegol i’r cyllid uchod:
- Os mai eich preswylfa arferol oedd Lloegr cyn dechrau eich cwrs, gallwch chi hefyd wneud cais i Gyllid Myfyrwyr Lloegr am fenthyciad cynhaliaeth cyfradd sefydlog heb fod yn amodol ar brawf modd o £2,670 y flwyddyn.
- Os mai eich preswylfa arferol oedd Cymru cyn dechrau eich cwrs, ni fydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn gallu cynnig benthyciad cynhaliaeth cyfradd sefydlog
Optio allan o Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru
Os nad ydych chi’n bwriadu ymrwymo i weithio yng Nghymru am gyfnod o 18 mis ar ôl cymhwyso, bydd angen ichi optio allan o Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru.
Bydd argaeledd y cyllid amgen yn dibynnu ar ble roeddech chi’n byw cyn dechrau eich cwrs.
Eich preswylfa arferol oedd Cymru cyn dechrau eich cwrs
Os byddwch chi’n dewis optio allan o Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru, gallwch chi hefyd wneud cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru am Fenthyciad Meistr Ôl-raddedig. Ar gyfer blwyddyn academaidd 24/25, uchafswm y benthyciad sydd ar gael am hyd y cwrs yw £18,950. Gan fod y cyrsiau MSc cyn-gofrestru fel arfer yn 2 flynedd o hyd, byddai'r cyllid hwn yn cael ei rannu dros 2 flynedd. Ni fydd modd cael y benthyciad hwn a chael eich ariannu drwy Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru. Dim ond y naill neu’r llall y gellir ei ganiatáu.
Sylwer os ydych chi eisoes yn meddu ar radd Meistr neu gymhwyster uwch, bydd hynny’n effeithio ar eich cymhwysedd am Fenthyciad Meistr Ôl-raddedig.
Eich preswylfa arferol oedd Lloegr cyn dechrau eich cwrs
Os byddwch chi’n dewis optio allan o Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru, gallwch chi hefyd wneud cais i Gyllid Myfyrwyr Lloegr am gyllid. Mae hyn yn cynnwys:
- Benthyciad Ffioedd Dysgu (heb fod yn amodol ar brawf modd) o hyd at £9,250 y flwyddyn
- Benthyciad Cynhaliaeth (yn amodol ar brawf modd) rhwng £4,767 a £10,227 y flwyddyn, a hynny os byddwch chi’n byw i ffwrdd o gartref eich rhieni. Os ydych chi’n byw yng nghartref eich rhieni, yna fe gaiff uchafswm y fwrsariaeth ei leihau. Efallai y bydd wythnosau ychwanegol o gymorth benthyciad ar gael, mewn achosion lle mae hyd y cwrs yn hirach na'r nifer arferol o wythnosau ar gyfer y cwrs, yn amodol ar brawf modd gan Gyllid Myfyrwyr Lloegr
Cysylltwch â ni
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r Tîm Cyllid a Chyngor i Fyfyrwyr: