Ewch i’r prif gynnwys

Cyllid i gyrsiau penodol

Dyma’r cyllid sydd ar gael i fyfyrwyr sy'n astudio cwrs neu bwnc penodol.

Os ydych chi'n ystyried gyrfa ym maes gofal iechyd, gwaith cymdeithasol, newyddiaduraeth neu MBA, efallai y bydd cyllid a chymorth ychwanegol ar gael ichi.

DyfarniadPwy all fod yn gymwys?Y swm
Cyllid y GIG ar gyfer Therapi Galwedigaethol Cyn-gofrestru a Ffisiotherapi Cyn-gofrestruMae bod yn gymwys ar gyfer cyllid y GIG yn amodol ar i fyfyrwyr newydd ymrwymo ymlaen llaw i weithio yng Nghymru am 18 mis ar ôl cymhwyso.Mae'r cyllid yn amrywio yn seiliedig ar incwm yr aelwyd.
Bwrsariaethau gwaith cymdeithasolMyfyrwyr o Gymru a Lloegr.Mae'r cyllid yn amrywio, fel arfer yn seiliedig ar incwm yr aelwyd.
MBA Ysgoloriaeth Gwerth CyhoeddusMyfyrwyr sydd wedi ymrestru ar raglen MBA yn Ysgol Busnes Caerdydd. £7,500 dros gyfnod o ddwy flynedd.
Ysgoloriaeth Cwrs Hyfforddiant y BarMae’n rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd dosbarth cyntaf o sefydliad yn y DU a dal cynnig ar gyfer ein Cwrs Hyfforddiant y Bar (PgDip) neu Gwrs Hyfforddiant y Bar (LLM)Y cyllid yw £1,000.
Bwrsariaethau’r Stationers’ FoundationMyfyrwyr o'r DU sy’n astudio naill ai Newyddiaduraeth Newyddion neu Newyddiaduraeth Data.£9,000 yw’r gostyngiad yn y ffioedd.

Ysgoloriaethau i fyfyrwyr rhyngwladol

Gall ysgoloriaethau cyllido i fyfyrwyr rhyngwladol roi cymorth ariannol hollbwysig, gan eich galluogi i ddilyn addysg uwch dramor. Yn aml, bydd yr ysgoloriaethau hyn yn cwmpasu’r ffioedd dysgu, y costau byw a chostau academaidd eraill, gan leddfu'r baich ariannol o astudio mewn gwlad arall.

Rhagor o wybodaeth am ysgoloriaethau rhyngwladol.

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Cyswllt Myfyrwyr