Canolfan Hyfforddiant Doethurol NERC mewn Asesu Risg Ecotocsicolegol Tuag at Ddefnydd Cemegol Cynaliadwy (ECORISC)
Bydd Canolfan Hyfforddiant Doethurol ECORISC yn cynhyrchu cenhedlaeth o wyddonwyr arloesol fydd yn galli nodi, deall a rheoli risgiau cemegolion yn effeithiol.
Trwy gyfuno dealltwriaeth fecanistig, datblygiadau damcaniaethol a dulliau modelu, byddwn yn cyfrannu at ddatblygu fframweithiau asesu risg rhagfynegol. Bydd hyn yn galluogi cymdeithas i elwa o ddefnydd cemegol yn ogystal â diogelu'r amgylchedd naturiol, nawr ac yn y dyfodol.
Mae ECORISC yn dod â màs critigol o wyddonwyr o fri rhyngwladol ynghyd o brifysgolion Efrog, Caerdydd, Caerwysg, Caerhirfryn, Sheffield, a Chanolfan Ecoleg a Hydrolody y DU (UKCEH) sydd ymhlith y gorau yn y DU ym meysydd y Gwyddorau Biolegol, Cemeg a Gwyddor yr Amgylchedd. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ymchwil ein sefydliadau wedi canolbwyntio ar gynaliadwyedd amgylcheddol, fel y gwelwyd gan y buddsoddiadau cyfalaf sylweddol ym maes y gwyddorau amgylcheddol.
Themâu
Mae ein prif themâu ymchwil yn cynnwys:
- Canfod, tynged, cludo a defnyddio cemegolion yn yr amgylchedd naturiol.
- Datblygu dealltwriaeth fecanistig o effeithiau integreiddiol cemegolion ar unigolion.
- Allosod effeithiau a fesurir ar unigolion i effeithiau ar boblogaethau a chymunedau a'r gwasanaethau ecosystem y maent yn eu darparu.
- Effeithiau cymysgeddau cemegol, gan gynnwys mewn cyfuniad â straenwyr amgylcheddol eraill.
- Asesiad risg ar draws graddfeydd gofodol ac amserol.
- Rhoi gwyddorau risg amgylcheddol ar waith.
Hyfforddiant
Dros ddwy flynedd gyntaf eich rhaglen PhD ECORISC byddwch yn cael hyfforddiant pwnc-benodol, a ddarperir mewn cydweithrediad â'n sefydliadau partner, mewn:
- ecotocsicoleg
- cemeg yr amgylchedd
- ecoleg
- asesiad risg
- y sgiliau craidd sydd eu hangen ar gyfer arbenigwr amgylcheddol
- Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn sicrhau cam 1 o gymhwyster Asesydd Risg Ardystiedig SETAC (CRA).
- Digwyddiadau heriau blynyddol
- Blwyddyn 1af – Digwyddiad her data
- 2il Flwyddyn – Asesu risg yn seiliedig ar brosiectau
- 3edd Flwyddyn - Digwyddiad troi gwyddoniaeth yn bolisi
- Cyflwynir ein digwyddiad olaf mewn cydweithrediad â'n partneriaid polisi fel Defra a JNCC. Byddwch yn ystyried pwnc amgylcheddol ‘amserol’ a thrwy chwarae rôl, byddwch yn ystyried y ffordd orau o droi’r wyddoniaeth sylfaenol yn y maes yn bolisi, ac yn esbonio’r polisi i gynulleidfa anarbenigol. Daw'r her i ben drwy gynnal gwrandawiad ffug o Bwyllgor Dethol Amgylcheddol Tŷ'r Cyffredin.
- Lleoliadau gwaith ac interniaethau
Argaeledd
Mae gennym hyd at 13 o ysgoloriaethau PhD peirianneg wedi'u hariannu. Dylai myfyrwyr fod o safon uchaf o safbwynt elfennau academaidd a theilyngdod.
Gofynion mynediad
Yn agored i fyfyrwyr yr UE, Rhyngwladol (y tu allan i'r UE) a'r DU (cartref).
Mae cynhwysiant yn elfen ganolog o raglen ECORISC. Rydym yn awyddus iawn i gael ceisiadau gan grwpiau sydd heb eu cynrychioli’n ddigonol. Rydym hefyd yn defnyddio nifer o ddulliau, fel y posibilrwydd o weithio’n rhan-amser, er mwyn sicrhau bod y rhaglen ar gael i bawb.
Partneriaid
Sefydliadau craidd
Bydd yr holl fyfyrwyr ECORISC wedi’u lleoli yn un o’n sefydliadau ECORISC craidd:
- Prifysgol Efrog
- Prifysgol Caerdydd
- Prifysgol Caerwysg
- Prifysgol Caerhirfryn
- Prifysgol Sheffield
- UKCEH
Partneriaid
Bydd ein 28 o bartneriaid o feysydd ymchwil, diwydiant, polisi neu sefydliadau trydydd sector yn cynnig arbenigedd mewn datblygu ysgoloriaethau ymchwil, goruchwyliaeth, hyfforddiant, cynghorwyr effaith ac interniaethau.
Sefydliadau ymchwil
- Cefas
- Fera
Sefydliadau rheoleiddio a llywodraethol
- Asiantaeth yr Amgylchedd
- Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
- HSE
- JNCC
- SEPA
- Cwmnïau cemegol, fferyllol a phlaladdwyr
- Agilent
- Astrazeneca
- Bayer
- Corteva
- GSK
- Reckitt Benkiser
- Syngenta
- Shell
- Cwmnïau dŵr
- South West Water
- Dŵr Cymru
- Cwmnïau ymgynghori
- CEA
- Peter Fisk Associates
- Ramboll
- WCA
- Wood
Sefydliadau ymchwil contract
- Smithers
Cwmnïau meddalwedd
- Simomics
Sefydliadau trydydd sector
- Greenpeace
- Ymddiriedolaeth Afonydd
- RSPB
- SETAC
Darganfod mwy:
Ewch i gwefan y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol i gael mwy o fanylion am y ganolfan a sut i wneud cais.
I gael rhagor o wybodaeth am ysgoloriaethau ymchwil y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol ym Mhrifysgol Caerdydd, cysylltwch â'r Athro Peter Kille.
Ewch i'n tudalen am ysgoloriaethau ymchwil neu gael rhagor am gyllid.