Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol y Biowyddorau dan ofal Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Biodechnoleg a Biolegol yn y De-orllewin (SWBio DTP)
Ynghlwm wrth y SWBio DTP, a ariennir gan y BBSRC, mae partneriaeth o brifysgolion, sefydliadau ymchwil a diwydiannau byd-enwog ledled de-orllewin Lloegr a Chymru yn bennaf.
Mae gan y bartneriaeth hon rwydweithiau gwyddonol rhyngwladol, cenedlaethol a rhanbarthol a gydnabyddir yn eang am ragoriaeth ei hymchwil a’i chyfleusterau.
Trosolwg
Byddwch yn cael eich recriwtio'n uniongyrchol ar gyfer prosiect eang a rhyngddisgyblaethol a gefnogir gan dîm goruchwylio amlddisgyblaethol, a cheir nifer o brosiectau traws-sefydliadol.
Ceir cyfleoedd hefyd i:
- ddefnyddio eich ymchwil yn ystod lleoliad ym myd diwydiant (ysgoloriaethau CASE y Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol).
- ymgymryd ag ymchwil ar y cyd â'n partneriaid craidd a chyswllt (ysgoloriaethau DTP Safonol ar y cyd â phartner cyswllt).
- gweithio gydag ymchwilwyr cenedlaethol/rhyngwladol eraill.
- gwneud gwaith maes.
Strwythur y Rhaglen
Bydd ein rhaglen hyfforddi strwythuredig yn sicrhau bod gennych yr hyn y bydd ei angen arnoch a chithau’n ymchwilydd ym maes y biowyddorau, gan roi cymorth gyrfaol gyda golwg ar y byd academaidd, diwydiant a thu hwnt i hynny.
Y Flwyddyn Gyntaf
Rydym yn cyflwyno gwybodaeth eang ynghylch y dulliau ymchwil sylfaenol ym maes y gwyddorau bywyd a sut y gellid defnyddio’r rhain mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn yn sgil:
- dau brosiect cylchdroi - y ddau yn gysylltiedig â’r prosiect PhD ond mewn meysydd disgyblaethol gwahanol.
- tair uned a addysgir - hyfforddiant ym maes Ystadegau, Biowybodeg, codio, dylunio arbrofol, arloesi a deall effaith eich ymchwil.
Bydd gofyn ichi gwblhau'r flwyddyn gyntaf yn llwyddiannus i symud ymlaen i ail flwyddyn eich astudiaethau. Hefyd, os na allwch barhau â'ch PhD, mae llwybr ymadael MRes ar gael yn dilyn cwblhau'r flwyddyn gyntaf yn llwyddiannus.
Yr ail flwyddyn hyd at y bedwaredd
Bydd y blynyddoedd sy'n weddill yn debycach i PhD gonfensiynol, pan fyddwch yn canolbwyntio ar eich prosiect PhD.
Rhaid cyflwyno'r traethawd PhD cyn pen 4 blynedd (cyfwerth ag amser llawn) ar ôl dyddiad dechrau'r rhaglen.
Lleoliadau Gwaith
Er mwyn helpu i ehangu eich gorwelion gyrfaol, byddwch yn ymgymryd â
- lleoliad 3 mis o hyd o'ch dewis, a hynny’r tu allan i fyd ymchwil academaidd - ymhlith yr enghreifftiau mae gweithio ym maes polisïau, cyfathrebu gwyddonol, byd diwydiant a chyhoeddi gwyddonol
- neu leoliad diwydiannol 3-18 mis gyda'ch partner CASE – ysgoloriaethau CASE yn unig
Diben y rhain yw rhoi’r sgiliau, y profiad a’r wybodaeth ichi y mae cryn alw amdanynt ac y gellir eu defnyddio mewn llawer o sectorau gyrfaol.
Gweithgareddau carfan
Byddwch yn cael y cyfle i ymuno â nifer o weithgareddau’r bartneriaeth ar sail carfan megis cynadleddau myfyrwyr, gweithdai a digwyddiadau allgymorth. Yma byddwch yn cwrdd â myfyrwyr o bob rhan o’r bartneriaeth, gan roi ichi rwydwaith amlddisgyblaethol a chefnogol i gyd-fyfyrwyr.
Cyllid a bod yn gymwys
Bydd un o ysgoloriaethau’r SWBio DTP sy’n ariannu pedair blynedd yn llawn yn cwmpasu
- cyflog myfyriwr* (ar gyfradd safonol Cynghorau Ymchwil y DU; ar hyn o bryd £19,237 y flwyddyn ar gyfer 2024-25)
- costau ymchwil a hyfforddiant
- ffioedd dysgu (ar gyfradd safonol Cynghorau Ymchwil y DU)
- arian ychwanegol wedi'i glustnodi i gefnogi'ch hyfforddiant, gan gynnwys lleoliad 3 mis
*Mae cyflog uwch ar gael i fyfyrwyr sydd â chymhwyster sy’n radd gydnabyddedig ym maes milfeddygaeth (£28,738 y flwyddyn ar gyfer 2024-2025). Mae’n bosibl hefyd y bydd cyflogau uwch sy’n gysylltiedig â phrosiectau un o bartneriaid CASE (amlygir y rhain â *CASE yn y rhestrau o brosiectau).
Ewch i wefan SWBio DTP i gael manylion llawn am gyllid a'r gofynion cymhwysedd.
Cefnogi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)
Ein nod yn SWBio yBartneriaeth Hyfforddiant Doethurolyw cefnogi myfyrwyr o ystod o gefndiroedd ac amgylchiadau. Pan fo angen, byddwn yn gweithio gyda chi i ystyried addasiadau rhesymol i brosiectau (er enghraifft cefnogi cyfrifoldebau gofalu, anableddau, amgylchiadau personol arwyddocaol eraill) yn ogystal â gweithio hyblyg a cheisiadau i astudio’n rhan-amser, fel y gall rhagor o unigolion ddilyn PhD. Mae pob un o’n goruchwylwyr yn ein cefnogi yn hyn o beth, ac rydym eisiau ichi deimlo eich bod yn gallu trafod hyn ymhellach gyda goruchwylwyr penodol y prosiectau PhD er mwyn gweld beth sy'n ymarferol.
I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar Ein datganiad ynghylch Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) ar gyfer SWBio y Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol a Sut rydym yn cefnogi ein carfan amrywiol o fyfyrwyr.
Dyddiad cau cyflwyno cais
23:59, dydd Mercher 11 Rhagfyr 2024.
Sut i wneud cais a'r prosiectau sydd ar gael.
Rhagor o wybodaeth
Gallwch ymweld â'n gwefan DTP am rhagor o wybodaeth ac am sut i wneud cais.
Cysylltwch â ni i fynegi diddordeb mewn cael yr arian hwn a chael gwybod am ysgoloriaethau ymchwil eraill a gyhoeddir o dan y cynllun hwn.
Gallwch chwilio am ysgoloriaeth neu gael rhagor o wybodaeth am gyllid.