Cynghorau Ymchwil
Mae’r saith Cyngor Ymchwil yn y DU yn darparu cyllid gan y llywodraeth ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig myfyrwyr y DU a’r UE. Mae'r arian yn cael ei roi yn uniongyrchol i'r sefydliadau ymchwil, yn cynnwys Prifysgol Caerdydd.
Ni roddir y cyllid hwn fel arfer i fyfyrwyr o’r tu allan i’r UE.
Mae’r Cynghorau Ymchwil yn gweinyddu eu hysgoloriaethau drwy brifysgolion sydd â hanes profedig o hyfforddiant ôl-raddedig rhagorol a wneir yng nghyd-destun ymchwil o’r radd flaenaf.
Ni yw'r prif bartner yng Nghanolfan Hyfforddiant Doethurol Cymru y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), ac rydym yn rhan o amrywiaeth o Bartneriaethau Hyfforddiant Doethurol, Canolfannau Hyfforddiant Doethurol a phartneriaethau diwydiannol unigol.
Mae ysgoloriaethau ar gael o'r sefydliadau canlynol:
- Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC)
- Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol (BBSRC)
- Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC)
- Cyngor Ymchwil Meddygol (MRC)
- Cyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol (NERC)
- Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg (STFC)
Bydd ysgoloriaethau PhD hefyd yn cael eu rhestru yn ein teclyn chwilio am arian ac ysgoloriaethau pan fyddant ar gael.
Dilynwch ni ar Twitter neu Facebook os ydych am gael y newyddion diweddaraf am gyfleoedd am nawdd ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae dyfarniad llawn fel arfer yn cynnwys talu ffioedd dysgu yn ogystal â thâl i dalu costau byw. Mae dyfarniad llawn fel arfer yn cynnwys talu ffioedd dysgu. Mae’r tal ychwanegol yn ddi-dreth. Mae cynghorau ymchwil y DU yn cyhoeddi isafswm tal doethur cenedlaethol ar gyfer eu dyfarniadau.
Os ydych yn fyfyriwr o'r DU (at ddibenion cyfrifo ffioedd) neu'n fyfyriwr o'r UE sydd wedi byw yn y DU am dair blynedd cyn dechrau eich cwrs (gan gynnwys at ddibenion addysgol), rydych chi'n gymwys i gael dyfarniad llawn (h.y. ffioedd a thâl).
Mae'r dyddiadau cau yn amrywio, felly dylech ystyried pa ddewisiadau sydd ar gael mewn da bryd. Bydd ysgoloriaethau PhD a'u dyddiadau cau hefyd yn cael eu rhestru gan ein teclyn chwilio am arian ac ysgoloriaethau pan fyddant ar gael.
Mae'r broses o gyflwyno cais yn amrywio ond bydd angen i chi wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol fel arfer. Cewch fanylion llawn am sut i gyflwyno cais yn ein teclyn chwilio am arian ac ysgoloriaethau.
Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Saesneg y Cyngor Ymchwil.
Porwch drwy ein cronfa ddata o wobrau ariannu ôl-raddedig.