Canllaw Amgen ar gyfer Cyllid Ôl-raddedig
Mae Prifysgol Caerdydd wedi tanysgrifio i Arweiniad Amgen am Arian i Ôl-raddedigion.
Mae'r llawlyfr hwn yn esbonio sut mae dod o hyd i ffynonellau arian eraill - yn enwedig elusennau - sy’n cynnig grantiau i myfyrwyr ymchwil ac addysgir ôl-raddedig presennol a darpar.
Mae elusennau yn ffynhonnell ariannu sy’n cael eu tanbrisio, ac yn aml maen nhw’n rhoi gwobrau i fyfyrwyr unrhyw bwnc ac unrhyw genedl. Mae sicrhau cyllid hefyd yn rhoi hwb i’ch CV, yn enwedig os ydych chi’n ystyried gyrfa academaidd.
Dau fyfyriwr ôl-raddedig luniodd y llawlyfr yn sgîl cael gafael ar dros £45,000 trwy 55 o wahanol elusennau.
Yn y canllaw hwn, byddwch yn gweld enghreifftiau o ddatganiadau ariannol a phersonol model, a dros 500 o ddolenni i ffynonellau ariannu’r sector gwirfoddol. Cyhoeddir yr Arweiniad Amgen yn annibynnol gan GradFunding.
I ofyn am eich copi am ddim o’r arweiniad, llenwch y ffurflen briodol: