Deiliaid cynnig ôl-raddedig sydd wedi eu heffeithio gan weithredu diwydiannol
Rydym yn cymryd camau i sicrhau nad yw myfyrwyr sydd wedi eu heffeithio gan weithredu diwydiannol, gan gynnwys y boicot marcio ac asesu cenedlaethol, dan anfantais ar gyfer eu hastudiaethau gyda ni yn y dyfodol.
Bydd y canllawiau hyn yn rhoi gwybod am yr hyn sydd angen i chi ei wneud os oes gennych:
- cynnig amodol gan Brifysgol Caerdydd ar gyfer astudio ôl-raddedig neu astudio pellach arall
- cynnig amodol gan Brifysgol Caerdydd gan gynnwys gradd mewn modiwl/au penodol
- cynnig am Ysgoloriaeth Prifysgol Caerdydd ar gyfer astudio ôl-raddedig neu astudio pellach arall
Ychwanegu tystiolaeth i'ch cofnod derbyn
Os oes gennych gynnig amodol gan Brifysgol Caerdydd ac mae gweithredu diwydiannol yn effeithio ar eich marciau a/neu ddyfarniad terfynol, bydd angen i chi lanlwytho cymaint o wybodaeth a thystiolaeth â phosibl i'ch cofnod derbyn yn sims.cf.ac.uk.
Bydd angen i chi wneud hyn hefyd os oedd eich cynnig amodol yn cynnwys gradd mewn modiwl (au) penodol.
Dylai'r wybodaeth a'r dystiolaeth gynnwys:
- Trawsgrifiadau dros dro wedi'u llofnodi neu eu stampio sy'n cynnwys manylion y graddau a gyflawnoch ar lefel y modiwl ac yn gyffredinol, gyda manylion modiwlau ychwanegol rydych wedi'u cwblhau.
- Tystysgrifau dros dro wedi'u llofnodi neu stampio sy'n cadarnhau'r radd gyfartalog a gafwyd a/neu’r radd derfynol a ragwelir.
- Dyddiad eich dyfarniad i'w restru fel dyddiad y trawsgrifiad/tystysgrif dros dro ddiweddaraf.
- Llythyr ‘tebygol o gwblhau’ gan eich sefydliad – mae'r llythyr hwn yn ofyniad hanfodol i bob ymgeisydd sydd wedi’u heffeithio gan y gweithredu diwydiannol.
Beth i'w gynnwys mewn llythyr ‘tebygol o gwblhau’
Rhaid i lythyr ‘tebygol o gwblhau’ gynnwys:
- Eich manylion personol, fel y gallwn gadarnhau bod y llythyr yn ymwneud â chi.
- Cadarnhad eich bod yn debygol iawn o gwblhau eich rhaglen. Gwybodaeth ynghylch a yw holl elfennau'r rhaglen wedi'u cwblhau.
- Pryd fydd eich gradd yn debygol o gael ei dyfarnu.
- Manylion cyswllt ar gyfer yr adran a fydd yn ei chyhoeddi, i'w defnyddio at ddibenion gwirio
Gwnewch gais am eich fisa yn y DU (myfyrwyr rhyngwladol)
Os oes gennych gynnig diamod i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, byddwn yn rhoi datganiad Cadarnhad o Gael Eich Derbyn i Astudio (CAS) i chi. Gallwch ddefnyddio hwn i wneud cais am eich fisa.
Mae'r dogfennau (gwybodaeth a thystiolaeth) yr ydym yn gofyn amdanyn nhw yn cadarnhau bod eich cais i Brifysgol Caerdydd yn bodloni'r gofynion i allu bwrw ymlaen â'ch fisa myfyriwr. Dyma'r dogfennau y dylech eu cyflwyno gyda'ch cais am fisa, gan gynnwys y llythyr ‘tebygol o gwblhau’.
Ysgoloriaethau Prifysgol Caerdydd
Bydd gwybodaeth a ddefnyddir i gadarnhau eich lle hefyd yn cael ei defnyddio gan y tîm sy'n gyfrifol am ddyfarnu Ysgoloriaeth Prifysgol Caerdydd i wirio a ydych wedi bodloni'r gofynion gofynnol ar gyfer dyfarniad.
Rhoi eich canlyniadau terfynol
Os dyfernir lle i chi ar sail canlyniadau dros dro, bydd angen i chi ddarparu'ch canlyniadau terfynol unwaith y byddwch wedi eu derbyn. Bydd unrhyw radd yn y dyfodol yn cael ei dal yn ôl hyd nes y bydd y rhain yn cael eu darparu.
Os oes angen fisa myfyriwr arnoch i astudio yn y DU, efallai y byddwch hefyd yn torri'r gofynion fisa os na fyddwch yn darparu'ch canlyniadau terfynol cyn gynted ag y byddant ar gael.
Cysylltu â ni
Tîm derbyn
Os yw eich ymholiad yn un brys, gallwch gysylltu â’r tîm drwy ffonio +44 (0)29 2087 9999. Oriau swyddfa: 08:30 i 17:00 GMT Dydd Llun i Ddydd Gwener.