Proses ymgeisio i ôl-raddedigion
Yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud cais am gwrs ôl-raddedig a addysgir neu gwrs ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda'n canllaw cam wrth gam.
Nid yw Prifysgol Caerdydd yn codi ffi am gyflwyno cais ar gyfer unrhyw un o’n rhaglenni ôl-raddedig.
Os ydych yn dymuno gwneud cais am fodiwlau nad ydynt yn graddau neu fodiwlau annibynnol, cysylltwch â'n tîm am ragor o fanylion.
Y broses ymgeisio
Dilynwch y camau isod i ddysgu sut i wneud cais am ein rhaglenni gradd i ôl-raddedigion a beth y gallwch chi ei ddisgwyl ar ôl i chi wneud hynny:
Mae’n bosibl y bydd gan brosiectau ymchwil a ariennir ac ysgoloriaethau eu cyfarwyddiadau gwneud cais eu hunain a allai fod yn wahanol i'r broses isod.
- Dewiswch gwrs a addysgir neu faes ymchwil.
- Gwiriwch y dyddiad dechrau a’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.
- Gwiriwch y gofynion mynediad - os nad ydych wedi bodloni'r gofynion mynediad hyd yma, fel arfer gallwch barhau i wneud cais am gwrs. Efallai y cewch gynnig lle ar yr amod eich bod yn bodloni'r gofynion cyn i chi ddechrau'r cwrs.
- Gwiriwch y gallwch dalu’r ffioedd (maen nhw'n amrywio gan ddibynnu ar y cwrs) a’r costau byw
- Edrychwch ar ein tudalennau cyllid i weld y cymorth ariannol sydd ar gael - os ydych yn bwriadu gwneud cais am gyllid, rydym yn cynghori eich bod yn cyflwyno'ch cais o leiaf ddau fis cyn dyddiad cau’r ysgoloriaeth.
- Ysgrifennwch gynnig ymchwil a dod o hyd i oruchwyliwr i drafod eich cynnig (ar gyfer prosiectau ymchwil wedi’u hunan-ariannu yn unig).
- Casglwch ynghyd y dogfennau ategol sy'n ofynnol ar gyfer eich cais.
- Gwnewch gais drwy ein porth ymgeisio ar-lein ar ein tudalennau cyrsiau a meysydd ymchwil - gallwch arbed eich cais a dychwelyd ato yn nes ymlaen, felly nid oes angen i chi ei gwblhau ar unwaith.
- Arhoswch i ni brosesu eich cais.
- Byddwn yn anfon cynnig atoch - dysgwch beth mae eich cynnig yn ei olygu.
- Dylech ymateb i'r cynnig erbyn y dyddiad cau sydd wedi’i nodi.
- Dilynwch y camau nesaf.
Ymgeiswyr rhyngwladol
Os ydych chi’n fyfyriwr rhyngwladol sy’n ymgeisio i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, efallai y bydd angen i chi hefyd ystyried:
- Gwneud cais am fisa
- Cadarnhau a oes gennych chi’r cymwysterau priodol drwy fynd i dudalen berthnasol
- Bodloni'r gofynion iaith Saesneg
- Ystyried cwrs iaith Saesneg
Help i baratoi eich cais
Os na allwch gyflwyno cais drwy ein ffurflen ar-lein, neu os oes angen cymorth pellach arnoch, cyflwynwch gais drwy'r post.
Os oes angen unrhyw gymorth arnoch gyda'ch cais, cysylltwch â'n tîm.
Dogfennau ategol
Bydd angen i chi lanlwytho rhai dogfennau yn rhan o'ch cais. Mae'r dogfennau sydd eu hangen arnom yn dibynnu ar y cwrs a'ch amgylchiadau, felly gwiriwch y gofynion cyn i chi gasglu ynghyd unrhyw wybodaeth ategol.
Dylai'r holl ddogfennau fod yn Saesneg neu gyda chyfieithiadau ardystiedig.
Os nad oes gennych yr holl dystiolaeth sydd ei hangen eto, gallwch barhau i wneud cais a lanlwytho eich dogfennau ategol pan fyddant ar gael.
Bydd angen y canlynol arnoch chi:
- copïau o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau academaidd (neu drawsgrifiad rhannol os ydych yn dal i astudio)
- manylion cyswllt canolwr – gofynnwch i'ch canolwr lenwi ein ffurflen adroddiad canolwr neu gael geirda wedi'i lofnodi a'i ddyddio ar bapur â phennawd
- tystiolaeth o lefel eich Saesneg (os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf) – gweler ein gofynion Iaith Saesneg
- copi o'ch pasbort (os oes angen fisa arnoch i astudio yma)
yn dibynnu ar y cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y bydd gofyn i chi ddarparu dogfennau ychwanegol, megis:
- rhagor o eirdaon
- datganiad personol
- portffolio
- cynnig ymchwil
Os nad oes angen dogfennau ychwanegol ar eich cwrs, ni fydd opsiwn i'w darparu ar y ffurflen gais ac nid oes angen eu cyflwyno ar wahân.
Olrhain eich cais
Ar ôl i chi gyflwyno eich cais, byddwn yn e-bostio enw defnyddiwr a chyfrinair atoch chi. Byddwch yn gallu mewngofnodi ac olrhain cynnydd eich cais ar unrhyw adeg.
Byddwn yn anfon negeseuon e-bost pwysig atoch drwy gydol y broses ymgeisio – felly gwiriwch eich e-byst yn rheolaidd, gan gynnwys eich ffolder post sothach.
Sut byddwn ni'n asesu'ch cais
Ein nod yw prosesu eich cais cyn pen 4 i 6 wythnos os yw'r holl ddogfennau wedi'u darparu, ond oherwydd nifer uchel iawn y ceisiadau, efallai y bydd yn cymryd mwy o amser i ni adolygu’ch cais. Byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y bydd gennyn ni newyddion i’w rannu gyda chi.
Os oes gennych ddyddiad cau ar gyfer ysgoloriaeth, rhowch wybod i ni yn eich cais a byddwn yn ceisio gwneud penderfyniad mewn pryd, lle bo hynny'n bosibl.
Gall eich ysgol academaidd gysylltu â chi'n uniongyrchol os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnynt neu os ydynt am eich gwahodd am gyfweliad. Byddwch yn derbyn e-bost yn gofyn i chi wirio eich porth ymgeiswyr am ragor o fanylion.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein penderfyniad
Byddwn yn rhoi gwybod i chi am ganlyniad eich cais drwy e-bost ac yn y porth ymgeiswyr.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gweld eich llythyr o gynnig yn ein porth ymgeisio ar-lein.
Cynnig diamod
Mae hyn yn golygu eich bod wedi cael cynnig lle - llongyfarchiadau! Nawr y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw derbyn y cynnig.
Cynnig amodol
Mae hyn yn golygu eich bod wedi cael cynnig am le, ond mae rhywbeth ar goll o'ch cais – yn fwy na thebyg un o'ch dogfennau ategol, neu nid ydych wedi cwblhau un o'r cymwysterau sydd eu hangen i gael lle yn y Brifysgol eto. Bydd eich llythyr cynnig yn nodi'n glir y dystiolaeth y mae angen i chi ei chyflwyno. Ar ôl i ni gael popeth, bydd eich cynnig yn newid i Ddiamod.
Ceisiadau aflwyddiannus
Gallwch ofyn am adborth ar eich cais os yw’n aflwyddiannus
O bryd i'w gilydd, efallai y bydd yr ysgol academaidd yn meddwl ei bod yn fwy priodol cynnig lle i chi ar gwrs gwahanol. Yn yr achos hwn, byddwn yn rhoi gwybod i chi am y cynnig i newid cwrs a byddwch yn gallu gweld y manylion trwy fewngofnodi i'ch porth ymgeiswyr.
Dylech ymateb i'r cynnig erbyn y dyddiad cau sydd wedi’i nodi.
Os ydych yn derbyn cynnig, gallwch ei dderbyn drwy:
- ddefnyddio ein gwasanaeth ymgeisio ar-lein
- e-bostio’r Tîm Derbyn Myfyrwyr
Efallai bydd angen blaendal er mwyn sicrhau lle ar raglenni ôl-raddedig penodol. Pan fydd angen blaendal, bydd y manylion yn y llythyr sy’n cynnig lle i chi’n ffurfiol.
Mae eich cynnig yn amodol arnoch chi'n derbyn eich lle ac yn bodloni union amodau eich cynnig o leiaf 14 diwrnod cyn dyddiad dechrau eich rhaglen, oni bai bod y Brifysgol yn cytuno fel arall.
Y camau nesaf
Pan fydd eich lle wedi’i gadarnhau, byddwn ni’n ysgrifennu atoch chi i'ch croesawu’n swyddogol i Brifysgol Caerdydd ac yn rhoi unrhyw wybodaeth arall sydd ei hangen arnoch chi.
Dysgwch sut y gallwch ddechrau paratoi ar gyfer dod i Brifysgol Caerdydd.
Cysylltu
I gael rhagor o wybodaeth am wneud cais i astudio gyda ni, gofynnwch gwestiwn i ni gan ddefnyddio'r ffurflen gyswllt.
Wrth lenwi'r ffurflen, rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl i'n helpu i ateb eich ymholiad.
Yn barod i wneud cais? Dechreuwch arni nawr gyda'n gwasanaeth geisiadau ar-lein (SIMS).