Ewch i’r prif gynnwys

Cyrsiau rhan amser i oedolion

Cyrsiau rhan amser yn y dyniaethau, ieithoedd, busnes, cyfrifiadura, gwleidyddiaeth a'r gyfraith, gwyddoniaeth a'r amgylchedd, ac astudiaethau cymdeithasol.

Bydd 50-51 Plas y Parc ar gau rhwng 21 Rhagfyr a 13 Ionawr. Mae unrhyw addysgu wyneb yn wyneb sydd wedi’i drefnu ar gyfer yr wythnos sy’n dechrau 6 Ionawr wedi cael ei symud i'r wythnos ganlynol.

Rydyn ni bellach wedi symud i’n cartref newydd. Ein lleoliad newydd yw 50-51 Plas y Parc, Caerdydd CF10 3AT.

Dewch i gael eich ysbrydoli gan ein hamrywiaeth o gyrsiau rhan amser ar lefelau ac ar adegau sy'n eich siwtio chi. Rydyn ni’n cynnig cyrsiau yn yr ystafell ddosbarth a chyrsiau ar-lein fel ei gilydd. Bydd dull cyflwyno pob cwrs wedi’i nodi yn nisgrifiad pob cwrs.

Gallwch hefyd astudio i ennill cymwysterau ac rydym yn cynnig llwybrau at astudio gradd israddedig gyda'r brifysgol.

Porwch drwy fwy na 250 o gyrsiau rhan-amser byr ac dewch i astudio gyda Dysgu Gydol Oes

Newyddion diweddaraf

Hayley Bassett

Y daith o’r llwybr i swydd ddelfrydol

17 Tachwedd 2024

Dechreuodd taith Hayley i lwyddiant gyda Llwybr Archwilio’r Gorffennol a arweiniodd at BA, MA a PhD.

Onyinye Tete

Nid yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu

14 Tachwedd 2024

Mae oedran a phrofiad bywyd ein myfyrwyr yn amrywio, ac roedden nhw am ddefnyddio eu straeon i annog eraill i ddychwelyd i'r ystafell ddosbarth gan nad oes gan freuddwydion derfynau amser.

Dewiniaeth, Blaidd-ddynion a Hud

2 Hydref 2024

UMae arbenigwyr o brifysgolion ym mhob cwr o Gymru yn arwain cwrs byr newydd y Gymdeithas Hanesyddol.

Rydym ni wedi datblygu nifer o lwybrau i'ch helpu chi i astudio am radd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Darllenwch pam fod astudio cwrs byr gyda ni yn ddewis da.

Y cynlluniau sydd ar gael a'r meini prawf os ydych chi'n chwilio am gymorth ariannol.

Darllenwch sut i gofrestru ar eich cwrs.