Diwrnodau Agored Israddedig
Os ydych chi'n ystyried astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, dewch i ddarganfod bywyd myfyrwyr mewn diwrnod cyffrous llawn profiadau, sesiynau gwybodaeth a theithiau.
Digwyddiadau ar y gweill
Os na allwch ddod i’n Diwrnodau Agored ym mis Gorffennaf, byddwn ni’n cynnal rhagor yn yr hydref. Bydd y dyddiadau a'r manylion i gadw eich lle yn cael eu rhyddhau yn ddiweddarach yn yr haf.
Beth i’w ddisgwyl ar Ddiwrnod Agored
Dewch i weld drosoch chi eich hun sut beth yw astudio a byw ym mhrifddinas Cymru. Bydd y digwyddiad arbennig yma'n rhoi’r wybodaeth y bydd ei hangen arnoch chi i wneud penderfyniad hyderus am eich dyfodol.
Gallwch chi:
- grwydro o amgylch ein campysau
- siarad â'n myfyrwyr i gael syniad go iawn o sut beth yw bywyd myfyriwr
- cwrdd â'n hacademyddion a'n staff cymorth
- dysgu rhagor am ein cyrsiau
- gweld sut le yw ein neuaddau preswyl
- gweld sut beth yw'r ardal leol a byw yng Nghaerdydd
Pam astudio gyda ni?
Ewch ar daith fideo dan arweiniad myfyrwyr i weld mwy o'n campws, a dysgwch mwy am yr opsiynau astudio sydd ar gael i chi.
Ffyrdd eraill o ddarganfod mwy am ein campws
Dyma rai o’r cyfleoedd eraill i ymweld â ni a chael blas ar sut beth fydd astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.
Eich cydymaith hanfodol wrth ymweld â'n campws ar gyfer Diwrnodau Agored neu daith hunan-dywys.