Diwrnodau Agored Israddedig
Os ydych chi'n ystyried astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, dewch i ddarganfod bywyd myfyrwyr mewn diwrnod cyffrous llawn profiadau, sesiynau gwybodaeth a theithiau.
Digwyddiadau ar y gweill
Archebwch eich lle yn ein digwyddiad Diwrnod Agored nesaf ar 19 Hydref 2024.
Cofrestrwch i gael newyddion diweddaraf y brifysgol, gan gynnwys negeseuon ebost atgoffa am y Diwrnodau Agored.
Beth i’w ddisgwyl
Dewch i weld drosoch chi eich hun sut beth yw astudio a byw ym mhrifddinas Cymru. Bydd y digwyddiad arbennig yma'n rhoi’r wybodaeth y bydd ei hangen arnoch chi i wneud penderfyniad hyderus am eich dyfodol.
Darllenwch ein tudalennau gwybodaeth i ymwelwyr a cynllunio eich diwrnod i weld yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i gyrraedd Caerdydd a theithio o amgylch y campws.
Darllenwch raglen ein Diwrnod Agored i gael gwybod beth i’w ddisgwyl yn ein digwyddiad nesaf.
Pam astudio gyda ni?
Ewch ar daith fideo dan arweiniad myfyrwyr i weld mwy o'n campws, a dysgwch mwy am yr opsiynau astudio sydd ar gael i chi.
Ffyrdd eraill o ddarganfod mwy am ein campws
Dyma rai o’r cyfleoedd eraill i ymweld â ni a chael blas ar sut beth fydd astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.
Eich cydymaith hanfodol wrth ymweld â'n campws ar gyfer Diwrnodau Agored neu daith hunan-dywys.