Gweminarau israddedig
Cyfres Darganfod Caerdydd
Cyfres o weminarau sy’n rhad ac am ddim i fyfyrwyr Blwyddyn 12 a Blwyddyn 13 ac sydd â diddordeb mewn mynd i'r brifysgol yw Darganfod Caerdydd.
Mae Darganfod Caerdydd yn gyfres o gyflwyniadau a sesiynau cynghori ar ystod o bynciau sy’n ymwneud ag addysg uwch. Mae'r sesiynau wedi'u teilwra i'ch tywys drwy'r broses o wneud penderfyniadau - gan gynnwys sut i ddewis cwrs a sut beth yw diwrnod arferol myfyriwr prifysgol.
Digwyddiadau i ddod
Teitl y sesiwn | Disgrifiad o'r sesiwn | Dyddiad ac Amser |
---|---|---|
Gwneud y fwyaf o ddigwyddiadau UCAS | Gall ffeiriau gyrfaoedd a phrifysgolion fel digwyddiadau UCAS deimlo ychydig yn frawychus ond does dim rhaid iddyn nhw fod. Ymunwch â ni i glywed ein hawgrymiadau ar sut i wella eich profiad yn ddigwyddiadau UCAS. | 23 Ionawr 2025 17:00 -18:00 |
Sgiliau Astudio | Nid oes ffordd gywir i astudio. Mae'n ymwneud â darganfod beth sy'n gweithio orau i chi. Yn ein gweminar, byddwch yn dysgu mwy am wahanol dechnegau astudio ac awgrymiadau ar gyfer gwneud y fwyaf o'ch amser adolygu. | 5 Chwefror 2025 17:00 - 18:00 |
Llety ym Mhrifysgol Caerdydd | Mae byw yn llety prifysgol yn ffordd wych o ddechrau bywyd yn y brifysgol a chwrdd â myfyrwyr newydd eraill. Ymunwch â ni yn ein gweminar i glywed am yr ystod eang o lety sydd gennym i'w gynnig, y costau a sut i wneud cais. | 6 Mawrth 2025 17:00 -18:00 |
Beth i’w ddisgwyl
Mae ein gweminarau am ddim yn gyfle perffaith i ddod i adnabod Prifysgol Caerdydd os ydych wedi colli diwrnod agored ar y campws neu os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am astudio gyda ni.
Byddwch chi’n gallu gwylio a gwrando ar ein staff a’n myfyrwyr, ond fyddan nhw ddim yn gallu eich gweld na'ch clywed chi (felly fydd dim angen camera gwe neu feicroffon arnoch).
Cewch y cyfle i gyflwyno cwestiynau yn ystod y weminar.
Sgyrsiau wedi'u recordio
Gallwch chi ddal i fyny â digwyddiadau'r gorffennol yn ein cyfres o weminarau, sef Holi Caerdydd, drwy wylio recordiadau'r digwyddiadau.
Pam astudio ym Mhrifysgol Caerdydd?
Yn y sesiwn yma, byddwch yn darganfod beth sy’n gwneud Caerdydd i sefyll allan, a hefyd byddwch yn clywed persbectif uniongyrchol gan rai o’n myfyrwyr presennol sy’n rhoi cipolwg ar sut beth yw byw ym mhrifddinas Cymru.
Gwneud y fwyaf o ddigwyddiadau UCAS
Gall ffeiriau gyrfaoedd a phrifysgolion fel digwyddiadau UCAS deimlo ychydig yn frawychus ond does dim rhaid iddyn nhw fod. Darganfyddwch awgrymiadau ar sut i wella eich profiad yn ddigwyddiadau UCAS.
Astudio Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Caerdydd
Darganfyddwch sut beth yw astudio iaith dramor fodern ym Mhrifysgol Caerdydd dan arweiniad staff o'n Hysgol Ieithoedd Modern. Maen nhw'n trafod buddiannau addysgol, personol a gyrfaol.
Sgiliau astudio
Nid oes ffordd gywir i astudio. Mae'n ymwneud â darganfod beth sy'n gweithio orau i chi. Yn ein gweminar, byddwch yn dysgu mwy am wahanol dechnegau astudio ac awgrymiadau ar gyfer gwneud y fwyaf o'ch amser adolygu.
Llety ym Mhrifysgol Caerdydd
Mae byw yn llety prifysgol yn ffordd wych o ddechrau bywyd yn y brifysgol a chwrdd â myfyrwyr newydd eraill. Mae ein gweminar yn trafod yr ystod eang o lety sydd gennym i'w gynnig, yn ogystal â beth sydd yn digwydd ar ôl llety flwyddyn gyntaf.
Beth allai wneud yn ystod yr haf?
Darganfyddwch beth allwch chi ei wneud dros wyliau'r haf cyn i'r flwyddyn academaidd ddechrau. O brofiad gwaith i roi ar eich datganiad personol i ymweld â phrifysgolion a dinasoedd posibl.
Cyflwyniad i Addysg Uwch a Dewis Cwrs
Mae'r sgwrs hon yn gynnig trosolwg cyffredinol ar prifysgolion, gan gynnwys pynciau allweddol megis sut i dewis cwrs, dulliau addysgu prifysgol, bywyd myfyrwyr a chyllid. Mae ein sgwrs hefyd yn edrych ar fanteision mynd i'r brifysgol ac yn archwilio'r cwestiynau y dylai myfyrwyr fod yn eu gofyn i'w hunain - gan ganolbwyntio'n benodol ar bedwar elfen bwysig: y cwrs, y campws, yr yrfa a'r ddinas.
Pam astudio ym Mhrifysgol Caerdydd Nghaerdydd? (ar gyfer siaradwyr Cymraeg)
Bydd y sgwrs hon yn cael ei chyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn y sesiwn yma, byddwch yn darganfod beth sy’n gwneud Caerdydd i sefyll allan a pham mae'n dewis gwych i siaradwyr Cymraeg. Byddwch hefyd yn cael cipolwg ar sut beth yw byw ym mhrifddinas Cymru.
Holi Caerdydd
Dewch i wybod rhagor am fywyd ym Mhrifysgol Caerdydd gan y timau Llety, Derbyn Myfyrwyr, Cyllid a Recriwtio Myfyrwyr, gan gynnwys rhai o’n myfyrwyr presennol.
Cyfweliadau Prifysgol
Mae cymryd rhan mewn cyfweliadau yn gallu fod yn brofiad brawychus i lawer o fyfyrwyr. Fodd bynnag, mae ein cyflwyniad Technegau Cyfweld yn trafod y gwahanol fathau o gyfweliadau, cyngor ar sut i baratoi a gwallau cyffredin i’w hosgoi. Rydym yn gobeithio gallwn roi’r hyder i fyfyrwyr fynd i’r afael â chyfweliadau gydag agwedd bositif er mwyn iddynt berfformio ar eu gorau yn y cyfweliad.
Cysylltu â ni
Os oes gennych chi gwestiynau, cysylltwch â’n timau israddedig.
Peidiwch â cholli allan. Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf ac i wybod pa bryd mae’n Diwrnodau Agored.