Ewch i’r prif gynnwys

Teithiau a chyfleusterau

Ewch ar daith o gwmpas y cyfleusterau sydd ar gael i’n myfyrwyr a gweld detholiad o’n hopsiynau llety.

Teithiau o gwmpas y campws

Dewch ar daith gerdded o gwmpas Campws Parc Cathays gydag un o’n harweinwyr myfyrwyr. Mae pob taith yn para tua 45 munud.

Amser: Drwy gydol y dydd (bydd y daith olaf yn gadael am 15:15)
Lleoliad: Mae teithiau'n gadael o Rodfa'r Bedol, Prif Adeilad (ochr Rhodfa'r Amgueddfa)

Teithiau o gwmpas y ddinas

Ewch ar daith fws am ddim o amgylch canol y ddinas a’i golygfeydd. Mae pob taith yn para tua 50 munud.

Amser: 09:30, 10:30, 11:30, 13:00, 14:00 a 15:00
Lleoliad: Rhodfa'r Brenin Edward VII, y tu allan i'r Deml Heddwch

Noder, mae’r galw’n dueddol o fod yn uwch yn y prynhawn.

Chwaraeon Prifysgol Caerdydd

Bydd modd i chi weld y canolfannau canlynol:

Canolfan Ffitrwydd a Datblygiad Corfforol

Amser: Drwy gydol y dydd
Lleoliad: Ffordd Senghennydd

Dewch i weld y Ganolfan Ffitrwydd a Datblygiad Corfforol. Mae’r Ganolfan yn cynnig tri llawr sy’n llawn offer cardio, ymwrthedd a phwysau.

Pentref Hyfforddiant Chwaraeon

Amser: Drwy gydol y dydd
Lleoliad: Tal-y-bont

Dewch i weld y Pentref Hyfforddiant Chwaraeon sydd ag ystod o gyfleusterau chwaraeon dan do ac awyr agored.

Mae bws gwennol ar gael yn ystod y digwyddiad. Noder mae’r bws gwennol Llwybr 1 hefyd yn stopio wrth safle Tal-y-bont ar ei daith yn ôl o Barc y Mynydd Bychan i Gampws Parc Cathays.

Llyfrgelloedd y brifysgol

Mae llyfrgelloedd y Brifysgol yn agos at yr ysgolion academaidd. Mae detholiad o lyfrgelloedd ar agor i chi ymweld â nhw.

Campws Parc Cathays

Amser 10:00 - 16:00

  • Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol
  • Llyfrgell Gwyddoniaeth, Prif Adeilad
  • Llyfrgell Trevithick, Adeilad Trevithick

Campws Parc y Mynydd Bychan

Amser: Drwy gydol y dydd

  • Llyfrgell Iechyd, Adeilad Cochrane

Bydd staff y llyfrgelloedd ar gael yn Arddangosfa'r Diwrnod Agored. Bydd Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol, y Llyfrgell Gwyddoniaeth a'r Llyfrgell Trevithick ar agor am 10.00am ond bydd y Llyfrgell Iechyd ar gael drwy'r dydd.

Caplaniaeth y brifysgol

Ar hyn o bryd, mae gan Dîm y Gaplaniaeth gaplaniaid Cristnogol (Anglicanaidd, Methodistaidd, Uniongred a Chatholig), Bwdhaidd, Iddewig a Mwslimaidd. Rydyn ni yma i bawb. Bydd aelodau o dîm y Gaplaniaeth ar gael i sgwrsio gyda darpar fyfyrwyr a'u teuluoedd ar ffydd a phrofiad y brifysgol.

Amser: Drwy gydol y dydd 
Lleoliad:
Caplaniaeth y Brifysgol, 61 Plas y Parc
Lleoliad: Caplaniaeth Gatholig y Brifysgol, 62 Plas y Parc