Ewch i’r prif gynnwys

Llety

Ewch ar daith o amgylch detholiad o'n hopsiynau llety a'n hardaloedd byw i fyfyrwyr.

Llety yn y brifysgol

Mae'r tri llety canlynol ar gael i chi ymweld â nhw heddiw:

1. Neuadd Senghennydd

  • £169 yr wythnos ar gyfer 2024/2025
  • Wedi'i arlwyo'n rhannol, en-suite
  • 5 munud ar droed o'r Prif Adeilad
  • Lleoliad yng Nghanol y ddinas.

Amser: Drwy gydol y dydd

Mynediad olaf am 15:45. Mynediad ar Ffordd Senghennydd

2. Llys Talybont

  • £153 yr wythnos ar gyfer 2024/2025
  • Hunanarlwyo, en-suite
  • 15 munud ar droed o’r Prif Adeilad

Mae fflat hygyrch ar gael i'w gweld ar gais yn unig. Siaradwch ag aelod o staff yn y neuadd breswyl i gael rhagor o wybodaeth.

3. De Talybont

  • £151 yr wythnos ar gyfer 2024/2025
  • Hunanarlwyo, en-suite
  • 20 munud ar droed o’r Prif Adeilad

Amser: Drwy gydol y dydd

Noder: Caniatewch o leiaf 45 munud i ddefnyddio’r bws gwennol a chael golwg ar y preswylfeydd  (mynediad olaf am 15:45)

Mae bws gwennol ar gael yn ystod y digwyddiad. Noder mae’r bws gwennol Llwybr 1 hefyd yn stopio wrth safle Tal-y-bont ar ei daith yn ôl o Barc y Mynydd Bychan i Gampws Parc Cathays.