Ewch i’r prif gynnwys

Arddangosfa’r Diwrnod Agored

Dysgwch am yr amrywiaeth o wasanaethau cymorth a’r ystod gyffrous o gyfleoedd ychwanegol sydd ar gael ym Mhrifysgol Caerdydd er mwyn gwella eich profiad fel myfyriwr.

Mae ein stondinau cyngor galw heibio yn rhoi cyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych i’n staff arbenigol.

Stondinau cyngor galw heibio

Gofynnwch unrhyw gwestiynau sydd gennych i’n staff arbenigol.

Amser: Drwy gydol y dydd
Lleoliad: Canolfan Bywyd y Myfyrwyr (Llawr gwaelod, Llawr 1 a Llawr 2)

  • Bwyd Prifysgol Caerdydd (Arlwyo)
  • Chwaraeon
  • Coleg Cymraeg Cenedlaethol
  • Cyfleoedd Byd-eang
  • Cyngor a Chyllid i Fyfyrwyr
  • Dinas Caerdydd
  • Dyfodol Myfyrwyr
  • Dysgu Cymraeg Caerdydd
  • Gwasanaeth Anabledd Myfyrwyr
  • Gwasanaeth Llyfrgelloedd y Brifysgol
  • Gwneud Cais i'r Brifysgol (Derbyn Myfyrwyr)
  • Ieithoedd i Bawb
  • Preswylfeydd (Llety)
  • Sgiliau Astudio Academaidd a Mentora
  • Ymholiadau gan Fyfyrwyr Rhyngwladol

Cymorth Ychwanegol i Fyfyrwyr

Gyda'n gilydd yng Nghaerdydd

Amser: Drwy gydol y dydd
Lleoliad: Llawr 4, Canolfan Bywyd y Myfyrwyr

Mae Gyda’n Gilydd yng Nghaerdydd yn estyn cymorth i fyfyrwyr o ystod o gefndiroedd gan gynnwys y rheiny sydd â phrofiad o dderbyn gofal, myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio, gofalwyr, y rheiny sydd â phrofiad yn y lluoedd arfog a cheiswyr lloches. Bydd ein cyswllt penodedig ar gael drwy gydol y dydd i ddarparu gwybodaeth am cymorth pwrpasol y mae Gyda'n Gilydd yng Nghaerdydd yn ei gynnig, yn ogystal ag ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.

Man Tawel

Amser: Drwy gydol y dydd
Lleoliad: Llawr 4, Canolfan Bywyd y Myfyrwyr

Os hoffech gael ardal dawel i gynllunio’ch diwrnod, ewch i lawr 4 a bydd ein staff a llysgenhadon myfyrwyr ar gael i’ch cefnogi.

Ein cymuned fyfyrwyr ffyniannus yn Undeb y Myfyrwyr

Ynglŷn ag Undeb Myfyrwyr Caerdydd

Daeth ein Hundeb Myfyrwyr yn ail yng ngwobrau dewis myfyrwyr WhatUni am yr Undeb Myfyrwyr gorau yn 2024. Fel rhan annibyniol o'r brifysgol a arweinir gan fyfyrwyr, mae'n cynnig cymuned gyffrous ac amrywiol y gallwch fod yn rhan ohoni - o glybiau chwaraeon, cymdeithasau a gweithgareddau dan arweiniad myfyrwyr.

Maen nhw hefyd yn cynnig ystod gynhwysfawr o wasanaethau lles, cyngor a gwybodaeth i gefnogi eich profiad fel myfyrwyr.

Cwrdd â’n Tîm

Amser: 09:00-16:00
Lleoliad: Y Ganolfan Groeso, Ail Lawr, Undeb y Myfyrwyr, Campws Parc Cathays

Ymunwch â ni yn Undeb y Myfyrwyr a chael sgwrs â'n staff cyfeillgar. Dysgwch am yr amrywiaeth fawr o weithgareddau a chymunedau sydd ar gael i wneud eich profiad yn y brifysgol yn fythgofiadwy. P'un a oes gennych chi ddiddordeb mewn cymdeithasau, clybiau chwaraeon, gwasanaethau cynghori, neu ddod o hyd i gyfleoedd gwaith, mae gennyn ni rywbeth i bawb. Mae bwyd a diod hefyd ar gael yn yr adeilad.

Amser: 09:00-16:00
Lleoliad: Pabell Groeso, Campws Parc y Mynydd Bychan

Ymunwch â ni yn y Babell Groeso, Campws Parc y Mynydd Bychan a chael sgwrs â'n staff cyfeillgar. Dysgwch am yr amrywiaeth fawr o weithgareddau a chymunedau sydd ar gael i wneud eich profiad yn y brifysgol yn fythgofiadwy. P'un a oes gennych chi ddiddordeb mewn cymdeithasau, clybiau chwaraeon, gwasanaethau cynghori, neu ddod o hyd i gyfleoedd gwaith, mae gennyn ni rywbeth i bawb.

Sgyrsiau Bywyd Myfyrwyr (30 munud)

Dewch draw i'r cyflwyniadau Bywyd Myfyrwyr gan Swyddogion Sabothol myfyrwyr etholedig. Dysgwch ragor am fywyd ym Mhrifysgol Caerdydd a'r hyn sydd gan eich Undeb Myfyrwyr i'w gynnig.

Sgyrsiau bywyd myfyrwyr

Amser: 10:30, 11:30, 12:30, 13:30 a 14:30
Lleoliad: Llawr 2, Y Plas, Undeb y Myfyrwyr, Campws Parc Cathays