Ewch i’r prif gynnwys

Sgyrsiau cyffredinol

Mae ystyried mynd i’r brifysgol yn un o’r dewisiadau mwyaf pwysig a chyffrous y byddwch yn ei wneud. Nod y cyflwyniadau canlynol yw eich helpu gyda rhai o’r penderfyniadau allweddol y gallech eu hwynebu dros y flwyddyn sydd i ddod.

Bydd y cyflwyniadau yn para 40 munud oni nodir fel arall.

Pam astudio ym Mhrifysgol Caerdydd?

LleoliadYstafellAmeroedd
Canolfan Bywyd y Myfyrwyr Darlithfa Syr Stanley Thomas OBE 09:00, 10:00 ac 11:00
Prif Adeilad Darlithfa Fawr Cemeg 12:00 (hanner dydd), 13:00 a 14:00  

Pam astudio ym Mhrifysgol Caerdydd fel siaradwr Cymraeg?

Fel unig brifysgol Grŵp Russell Cymru, mae gan Brifysgol Caerdydd lawer i'w gynnig. O ragoriaeth ymchwil a buddsoddiad parhaus ar y campws, i'n lleoliad prifddinas ac Undeb y Myfyrwyr gweithgar. Dewch i ddysgu am yr hyn sydd yn gwneud Prifysgol Caerdydd yn lle mor gyffrous i astudio a’r cyfleoedd sydd ar gael i chi fel siaradwr Cymraeg.

LleoliadYstafellAmseroedd
Y Lle 53 Plas y Parc 10:00

UCAS a chyflwyno cais i’r brifysgol

LleoliadYstafellAmseroedd
Prif Adeilad Darlithfa Fawr Cemeg 09:00, 10:00 ac 11:00
Prif Adeilad Darlithfa Fawr Shandon 13:00 a 14:00

Cyllid myfyrwyr

Cewch wybod rhagor am y cyllid sydd ar gael, sut i wneud cais amdano a chyllideb myfyrwyr yng Nghaerdydd. Mae hyn yn cynnwys cyllid i'r rheini sy'n bwriadu astudio meddygaeth neu ddeintyddiaeth, ond nid cyrsiau gofal iechyd eraill.

LleoliadYstafellAmseroedd
Canolfan Bywyd y Myfyrwyr Darlithfa Syr Stanley Thomas OBE 12:00 (hanner dydd) a 14:00

Ariannu cwrs gofal iechyd

Dysgwch am y cyllid sydd ar gael i astudio nyrsio, bydwreigiaeth, ffisiotherapi, therapi galwedigaethol, radiograffeg a delweddu diagnostig, radiotherapi ac oncoleg, a therapi deintyddol a hylendid. I gael rhagor o wybodaeth am gyllid ar gyfer meddygaeth neu ddeintyddiaeth, ewch i'r sgwrs am 'Gyllid myfyrwyr'.

LleoliadYstafellAmser
Canolfan Addysg Michael Griffith, Campws Parc y Mynydd Bychan Darlithfa Michael Griffith 13:00
Adeilad Tŷ Dewi Sant, Campws Parc y Mynydd Bychan Darlithfa 2 15:00

Chwaraeon ym Mhrifysgol Caerdydd

LleoliadYstafellAmseroedd
Prif Adeilad Darlithfa Fawr Shandon 10:00 a 12:00 (hanner dydd)

Rygbi ym Mhrifysgol Caerdydd

LleoliadYstafellAmser
Prif Adeilad Darlithfa Fawr Shandon 11:00

Cynllun Mentora Myfyrwyr a Bywyd Preswyl: Pontio o'r Ysgol i'r Brifysgol

LleoliadYstafellAmser
Prif Adeilad Darlithfa Wallace 12:00 (hanner dydd)

Cyfleoedd Byd-eang

Dewch i wybod rhagor am y cyfleoedd i astudio, gweithio neu wirfoddoli dramor yn ystod eich amser yn y brifysgol.

LleoliadYstafellAmser
Adeilad Syr Martin Evans Darlithfa John Pryde 13:00

Ennill a Dysgu – Mentora dysgwyr mewn ysgolion lleol (20 munud)

Ysbrydolwch y genhedlaeth nesaf fel mentor cyfoed agos i ddysgwyr ysgolion uwchradd ledled Caerdydd. Mae’r cynllun yn agored i israddedigion o unrhyw ddisgyblaeth. Mae’n gyfle i ennill profiad gwaith ystyrlon wrth arwain ac ysbrydoli pobl ifanc i weld gwerth ieithoedd a diwylliannau amrywiol. Nid addysgu ieithoedd yw nod y cynllun, ond helpu pobl ifanc i weld gwerth ieithoedd a diwylliannau gwahanol - pwy all wadu hynny?

LleoliadYstafellAmser
Canolfan Bywyd y Myfyrwyr2.25/2.2610:00 ac 13:00