Ewch i’r prif gynnwys

Teithiau ar gyfer is-raddedigion o amgylch y campws

Grwydrwch o amgylch Campws Parc Cathays ar daith dan arweiniad myfyrwyr, neu pryd bynnag sy’n gyfleus i chi gyda'n ap neu’n canllaw.

Teithiau o amgylch Campws Parc Cathays o dan arweiniad myfyrwyr

Bellach, cewch drefnu taith dan arweiniad myfyriwr o amgylch y Campws ym Mharc Cathays* ar y dyddiadau canlynol:

  • 15 Ionawr 2025
  • 22 Ionawr 2025
  • 18-21 Chwefror 2025
  • 25-28 Chwefror 2025

Hwyrach y bydd dyddiadau ychwanegol yn nes ymlaen. Dewch nôl aton ni i gael rhagor o wybodaeth.

Beth i’w ddisgwyl

Os nad ydych chi wedi gallu dod i Ddiwrnod Agored a hoffech chi’r cyfle i gael eich tywys o amgylch y campws ym Mharc Cathays gan fyfyriwr, fydd hefyd yn gallu ateb eich cwestiynau, dyma’r daith i chi. Er nad ydyn nhw’n cynnig yr un profiad ag un y Diwrnod Agored, y diben yw rhoi blas ichi o fywyd y campws.

Yn ogystal, bydd y sesiwn yn cynnwys cyflwyniad ar fywyd myfyriwr a sesiwn holi ac ateb yng nghwmni myfyrwyr presennol Prifysgol Caerdydd.

Tra rydyn ni’n croesawu pawb, anelir ein teithiau o amgylch y campws dan arweiniad myfyrwyr at ddarpar ymgeiswyr. Os ydych chi eisoes wedi gwneud cais inni ac wedi cael cynnig i astudio yng Nghaerdydd, bydd eich ysgol academaidd mewn cysylltiad â chi maes o law i'ch gwahodd i ddigwyddiad deiliad cynnig ar wahân, sef cyfle i weld eich ysgol academaidd yn uniongyrchol.

Mae’r teithiau dan arweiniad myfyrwyr o amgylch y campws yn cynnwys:

  • cyflwyniad am sut beth yw bywyd ym Mhrifysgol Caerdydd
  • sesiwn holi ac ateb gyda'n myfyrwyr cyfredol
  • taith gerdded tua 45 munud o hyd o amgylch Campws Parc Cathays gyda fyfyriwr o dywysydd (sylwer mai taith allanol o amgylch y campws fydd hon ac nid yw'n benodol i bwnc)

Ysgolion academaidd ychwanegol

Ni fyddwn yn ymweld â’r Ysgol Peirianneg, yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg na’r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant yn rhan o’r daith o amgylch y campws. Os hoffech chi drefnu taith (allanol) arall i un o’r ysgolion hyn (hyd at awr yn ychwanegol), anfonwch e-bost aton ni i diwrnodagored@caerdydd.ac.uk unwaith y byddwch chi wedi cadw eich lle ar y daith o amgylch y campws, a chyn eich ymweliad, fel y gallwn ni wneud y trefniadau addas.

*Ni allwn gynnal teithiau o amgylch Campws Parc y Mynydd Bychan, sef lleoliad yr Ysgol Deintyddiaeth, yr Ysgol Meddygaeth ac Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd. Fodd bynnag, bydd pob myfyriwr sy'n astudio Deintyddiaeth (BDS), Meddygaeth a Ffarmacoleg Feddygol yn treulio rhywfaint o amser ar Gampws Parc Cathays yn y flwyddyn gyntaf.

Cadw eich lle

Ein cyngor yw eich bod yn cadw eich lle cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi cael eich siomi.

Er mwyn rhoi’r cyfle i gynifer o ddarpar fyfyrwyr â phosibl weld ein campws, uchafswm o ddau berson yn unig fesul taith fydd yn gallu mynd ar y daith. Os ydych chi'n bwriadu dod â rhywun arall gyda chi, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n nodi nifer gywir y gwesteion ar eich ffurflen cadw lle.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at gwrdd â chi cyn bo hir.

Cadwch eich lle nawr

Teithiau hunan-dywys

Cerddwch o amgylch Campws Parc Cathays pryd bynnag sy’n gyfleus i chi gan ddefnyddio ein ap symudol neu’r arweinlyfr i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad a chanfod eich ffordd o amgylch y Brifysgol.

Ap Ymweld â Phrifysgol Caerdydd

Open day app on a mobile screen

Defnyddiwch y mapiau yn yr ap Ymweld â Phrifysgol Caerdydd i ganfod eich ffordd o amgylch ein campysau a gweld ein mannau addysgu, ein llyfrgelloedd a’n hardaloedd bwyd ac astudio.

Lawrlwythwch yr ap i ddechrau cynllunio'ch diwrnod.

Arweinlyfr Campws Parc Cathays

Oddeutu awr yw hyd y daith hunandywys, ond mae sawl trywydd opsiynol y gallwch chi eu dilyn hefyd, gan ddibynnu ar yr hyn yr hoffech chi ymweld ag ef.

Campws Parc Cathays: taith hunandywys

Defnyddiwch ein taith hunandywys i weld Prifysgol Caerdydd ar droed.

Ymweld o dramor

Os ydych chi’n fyfyriwr rhyngwladol sy'n ymweld o'r tu allan i'r DU, fe allwn ni eich tywys o amgylch campws y Brifysgol, gan ymweld efallai â'ch ysgol academaidd arfaethedig. Cysylltwch â'r Swyddfa Ryngwladol i gael rhagor o wybodaeth.

Cysylltu â ni

Os oes gennych chi gwestiynau, cysylltwch â’n timau cymorth ar gyfer israddedigion.