Ewch i’r prif gynnwys

Cynlluniwch eich diwrnod

Gwnewch y mwyaf o'ch ymweliad yn ystod y Diwrnod Agored Ôl-raddedig.

Download the Visit Cardiff University app to help you plan your day.

Cyrraedd a chofrestru

Gellir dod o hyd i gyfarwyddiadau i'r Brifysgol yn ein gwybodaeth i ymwelwyr.

Ar ôl i chi gyrraedd, ewch i'r Ganolfan Bywyd Myfyrwyr (CF10 3BB), lle gallwch gofrestru yn y digwyddiad a chasglu rhaglen.

Mae Canolfan Bywyd y Myfyrwyr yn daith gerdded fer o ganol y ddinas sy'n cynnwys llawer o gaffis a bwytai i chi gael rhywbeth i'w fwyta.

Hygyrchedd

Os oes gennych chi, neu unrhyw un sy’n dod gyda chi, ofynion arbennig o ganlyniad i anabledd, cyflwr meddygol neu anhawster dysgu penodol, cysylltwch â'n Tîm Anabledd Myfyrwyr ymlaen llaw i drafod eich anghenion.

Cyswllt Myfyrwyr

Byddwn yn neilltuo lleoedd i barcio ar gyfer ymwelwyr ag anawsterau symudedd ym maes parcio y Prif Adeilad. Bydd manylion llawn a chyfarwyddiadau'n cael eu hanfon drwy ebost (i'r cyfeiriad ar eich ffurflen archebu) cyn y digwyddiad.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y ddarpariaeth ar gyfer myfyrwyr ag anabledd, cyflwr meddygol neu anhawster dysgu penodol, neu ba grantiau a chefnogaeth sydd ar gael, ewch i'r stondin Cefnogaeth i Fyfyrwyr yn ardal y Siopau Cynghori.

Er mwyn i chi allu cynllunio sut byddwch yn mynd o gwmpas adeiladau'r Brifysgol, gallai Mapiau Mynediad y Campws fod o ddefnydd i chi.

Gwybodaeth gyffredinol

Wifi

Mae Wi-Fi am ddim ar gael i westeion ei ddefnyddio. Yn syml, cysylltwch â 'CU-OpenDay' a dilynwch y broses gofrestru.

Mannau cwrdd a eiddo coll

Ewch i’r porthordai, mannau gwybodaeth, neu’r derbynfeydd yn unrhyw un o adeiladau’r Brifysgol i gael rhagor o gymorth.

Ystafelloedd tawel

Mae ystafelloedd tawel ar gael i ymwelwyr eu defnyddio.

Campws Parc Cathays

Campws Parc y Mynydd Bychan

  • Adeilad Michael Griffith, Ystafell 2F07

Gweler ein map campws am ragor o wybodaeth.

Eich cadw'n ddiogel

Cofiwch gadw at yr holl rybuddion a chyfarwyddiadau, ac ymddwyn mewn modd diogel a chyfrifol bob amser. Os bydd argyfwng, cysylltwch â’r aelod staff sydd agosaf wrth law ar unwaith, neu ffoniwch ein Hystafell Rheoli Diogelwch ar 029 2087 4444.

Rydym yn annog ymwelwyr i ddefnyddio'r gorsafoedd diheintio dwylo sydd wedi'u lleoli ar draws y campws, yn rheolaidd. Peidiwch â dod i'r digwyddiad os ydych yn profi'n bositif am y coronafeirws, neu os oes gennych symptomau ohono. Os byddwch yn dechrau teimlo'n sâl ar y campws oherwydd symptomau tebyg i rai Covid-19, dylech fynd adref ar unwaith a dilyn cyngor y llywodraeth.

Ymwadiad

Noder, ni allwn fod yn gyfrifol am unrhyw newidiadau neu ganslo sy’n digwydd i’r rhaglen, sy'n angenrheidiol oherwydd ffactorau sydd y tu hwnt i’n rheolaeth. Os caiff Diwrnod Agored ei ohirio neu ei ganslo, byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy anfon ebost i’r cyfeiriad a ddarparwyd gennych ar y ffurflen gofrestru. Os bydd yn rhaid i ni ganslo/ gohirio'r digwyddiad, ni fyddwn yn gallu ad-dalu costau teithio, gwestai a chostau cysylltiedig eraill i ymwelwyr.