Teithiau Campws Ôl-raddedig
Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn astudiaethau ôl-raddedig yng Nghaerdydd, mae ein teithiau campws dan arweiniad myfyrwyr yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar astudio gyda ni.
Ymunwch ag un o’n llysgenhadon myfyrwyr am daith o gwmpas campws Parc Cathays. Bydd y daith yn rhoi trosolwg i chi o rhai o adeiladau’r brifysgol a’r cyfle i holi myfyriwr presennol am eu profiad o astudiaethau ôl-raddedig yng Nghaerdydd.
Upcoming tours
Our tours will resume in the autumn. Sign up to our newsletter for updates.
Cyn ichi ymweld â ni
Cyn i chi ymuno â ni, ystyriwch y wybodaeth bwysig hon.
- mae teithiau’n para hyd at 1 awr
- bydd y teithiau o gwmpas y campws yn cael eu cynnal yn yr awyr agored ac yn cwmpasu nifer o’r adeiladau ar ein campws ym Mharc Cathays
- byddwn ni’n gwneud y daith ar droed - sicrhewch eich bod yn gwisgo esgidiau addas ac ymbarél gyda chi, os bydd angen
- os oes gennych ofynion o ran hygyrchedd, gallwch roi gwybod i ni am y rhain wrth i chi wneud cais
- ni fydd staff academaidd yno ar y diwrnod
Os oes gennych unrhyw gwestiynau cyn eich ymweliad, neu os hoffech ymweld â’n campws Parc y Mynydd Bychan, cysylltwch â ni.
Sylwch nad yw ein tywyswyr teithiau sy’n fyfyrwyr yn gallu rhoi gwybodaeth fanwl am y broses ymgeisio, ac mae’n annhebygol y bydd y llysgennad sy’n arwain eich taith yn dod o’r cwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo.
Pam astudio gyda ni?
Dysgwch sut brofiad yw bod yn fyfyriwr ôl-raddedig sy’n astudio ac yn ymchwilio yng nghalon Caerdydd, prifddinas Cymru.
Ymweld o dramor
Os ydych chi’n fyfyriwr rhyngwladol sy’n ymweld o’r tu allan i’r DU, gallwn ni eich tywys o amgylch campws y Brifysgol, gan ymweld efallai â’ch ysgol academaidd arfaethedig. Cysylltwch â’r Swyddfa Ryngwladol am ragor o wybodaeth.
Cysylltu â ni
Os oes gennych chi gwestiynau am ein digwyddiadau ôl-raddedig, cysylltwch â’n timau ôl-raddedig.
Yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am sut i gyrraedd Prifysgol Caerdydd a theithio o gwmpas y campws.